MALACHI
Chapter 4
Mala | WelBeibl | 4:1 | Ydy, mae'r diwrnod yn dod; mae fel ffwrnais yn llosgi. Bydd yr holl rai haerllug sy'n gwneud drwg yn cael eu llosgi fel bonion gwellt, ar y diwrnod sy'n dod,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. “Byddan nhw'n llosgi'n ulw nes bydd dim gwreiddyn na changen ar ôl. | |
Mala | WelBeibl | 4:2 | Ond bydd haul cyfiawnder yn gwawrio arnoch chi sy'n fy mharchu i, a iachâd yn ei belydrau. Byddwch yn mynd allan, yn neidio fel llo wedi'i ollwng yn rhydd. | |
Mala | WelBeibl | 4:3 | Byddwch yn sathru'r rhai drwg, a byddan nhw fel lludw dan eich traed ar y diwrnod y bydda i'n gweithredu,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. | |
Mala | WelBeibl | 4:4 | Cofiwch ddysgeidiaeth Moses, fy ngwas; y rheolau a'r canllawiau rois iddo ar Fynydd Sinai ar gyfer Israel gyfan. | |
Mala | WelBeibl | 4:5 | Edrychwch, dw i'n anfon y proffwyd Elias atoch chi cyn i ddiwrnod mawr a dychrynllyd yr ARGLWYDD ddod. | |