MALACHI
Chapter 2
Mala | WelBeibl | 2:2 | “Os wnewch chi ddim gwrando a phenderfynu dangos parch tuag ata i,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus, “bydda i'n dod â'r felltith arnoch chi, ac yn troi eich bendithion chi yn felltith. (Yn wir, dw i wedi gwneud hynny, am eich bod chi ddim o ddifrif.) | |
Mala | WelBeibl | 2:3 | Bydda i'n ceryddu eich disgynyddion, a rhwbio eich wyneb yn y perfeddion – perfeddion aberthau eich gwyliau crefyddol, a byddwch yn cael eich taflu allan gyda nhw! | |
Mala | WelBeibl | 2:4 | Byddwch yn gwybod wedyn mai fi roddodd y gorchymyn hwn i chi, fod fy ymrwymiad gyda Lefi i'w gadw,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. | |
Mala | WelBeibl | 2:5 | “Rôn i wedi ymrwymo i roi bywyd a heddwch iddo. Dyna rois i iddo, ac roedd e i fod i'm parchu ac ymostwng o'm blaen i. | |
Mala | WelBeibl | 2:6 | Roedd i ddysgu'r gwir, a doedd e ddim i dwyllo; Roedd i fyw yn gwbl ufudd i mi, ac i droi llawer o bobl oddi wrth ddrwg. | |
Mala | WelBeibl | 2:7 | Roedd geiriau offeiriad i amddiffyn y gwir, a'r hyn mae'n ei ddysgu i roi arweiniad i bobl; gan ei fod yn negesydd i'r ARGLWYDD hollbwerus. | |
Mala | WelBeibl | 2:8 | Ond dych chi wedi troi cefn ar y ffordd iawn; dych chi wedi dysgu pethau sydd wedi gwneud i lawer o bobl faglu. Dych chi wedi llygru'r ymrwymiad gyda Lefi,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. | |
Mala | WelBeibl | 2:9 | “Felly dw i'n mynd i'ch gwneud chi'n rai sy'n cael eu diystyru a'u bychanu gan bawb, am nad ydych chi wedi bod yn ffyddlon i mi, a dydy'ch dysgeidiaeth chi ddim wedi bendithio pobl.” | |
Mala | WelBeibl | 2:10 | Onid un tad sydd gynnon ni i gyd? Onid yr un Duw wnaeth ein creu ni? Felly pam ydyn ni'n anffyddlon i'n gilydd ac yn torri ymrwymiad ein tadau? | |
Mala | WelBeibl | 2:11 | Mae pobl Jwda wedi bod yn anffyddlon, ac wedi gwneud pethau ffiaidd yn Israel a Jerwsalem. Maen nhw wedi halogi'r lle sanctaidd mae'r ARGLWYDD yn ei garu, drwy briodi merched sy'n addoli duwiau eraill. | |
Mala | WelBeibl | 2:12 | Boed i'r ARGLWYDD daflu allan o bebyll Jacob bob un sy'n gwneud y fath beth, ac yna'n cyflwyno offrwm i'r ARGLWYDD hollbwerus. | |
Mala | WelBeibl | 2:13 | A dyma beth arall dych chi'n ei wneud: Dych chi'n gorchuddio allor yr ARGLWYDD gyda'ch dagrau, wrth wylo a chwyno am nad ydy e'n cymryd sylw o'ch offrwm chi ddim mwy, ac yn gwrthod derbyn eich rhodd. | |
Mala | WelBeibl | 2:14 | “Ond pam?” meddech chi. Am fod yr ARGLWYDD yn dyst i'r addewidion wnest ti i dy wraig pan briodaist. Ti wedi bod yn anffyddlon iddi er mai hi ydy dy gymar di, a'r un wnest ti ymrwymo iddi drwy briodas. | |
Mala | WelBeibl | 2:15 | Oni wnaeth Duw chi'n un? Gwnaeth chi'n un cnawd ac ysbryd. A beth sydd gan Dduw eisiau o'r undod? Onid plant duwiol? Felly gwyliwch eich hunain! Ddylai neb fod yn anffyddlon i'r wraig briododd pan yn ifanc. | |
Mala | WelBeibl | 2:16 | “Dw i'n casáu ysgariad,” —meddai'r ARGLWYDD, Duw Israel, “a'r rhai sy'n euog o drais,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. Felly gwyliwch eich hunain! Ddylai neb fod yn anffyddlon. | |