ECCLESIASTES
Chapter 11
Eccl | WelBeibl | 11:2 | Rho beth ohono i nifer o wahanol bobl, wyddost ti ddim beth all fynd o'i le yn dy fywyd.” | |
Eccl | WelBeibl | 11:3 | Pan mae'r cymylau'n dduon, byddan nhw'n tywallt glaw ar y ddaear. Sdim ots i ba gyfeiriad mae coeden yn syrthio, bydd yn aros lle syrthiodd. | |
Eccl | WelBeibl | 11:4 | Fydd ffermwr sy'n disgwyl tywydd perffaith byth yn hau, a'r un sy'n gwylio pob cwmwl byth yn medi cynhaeaf. | |
Eccl | WelBeibl | 11:5 | Yn union fel na elli wybod sut mae anadl bywyd yn mynd i gorff plentyn yng nghroth ei fam, alli di ddim rhagweld beth fydd Duw'n ei wneud, a fe sydd wedi creu popeth. | |
Eccl | WelBeibl | 11:6 | Hau dy had yn y bore, a phaid segura gyda'r nos; wyddost ti ddim pa un fydd yn llwyddo – y naill neu'r llall, neu'r ddau fel ei gilydd. | |
Eccl | WelBeibl | 11:8 | Os ydy rhywun yn cael oes hir, dylai fwynhau'r blynyddoedd i gyd, ond rhaid cofio fod dyddiau tywyll marwolaeth yn hirach. Mae popeth sydd i ddod yn ddirgelwch! | |
Eccl | WelBeibl | 11:9 | Ti'n ifanc! Mwynha dy hun tra mae gen ti gyfle! Cei ddigon o hwyl a sbri pan wyt ti'n ifanc. Gwna be fynni di – beth bynnag sy'n cymryd dy ffansi – ond cofia y bydd Duw yn dy alw i gyfrif am y cwbl. | |