ECCLESIASTES
Chapter 5
Eccl | WelBeibl | 5:1 | Gwylia beth rwyt ti'n ei wneud wrth fynd i addoli Duw. Dos yno i wrando, ddim i gyflwyno offrwm ffyliaid, oherwydd dydy'r rheiny ddim yn gwybod eu bod nhw'n gwneud rhywbeth o'i le. | |
Eccl | WelBeibl | 5:2 | Paid bod yn rhy barod dy dafod, ac ar ormod o frys i ddweud dy farn wrth Dduw. Mae Duw yn y nefoedd a tithau ar y ddaear. Dylet ti bwyso a mesur dy eiriau. | |
Eccl | WelBeibl | 5:4 | Pan wyt ti'n gwneud adduned i Dduw, paid oedi cyn ei chyflawni. Dydy Duw ddim yn cael ei blesio gan ffyliaid. Gwna beth rwyt ti wedi addo'i wneud. | |
Eccl | WelBeibl | 5:5 | Mae'n well peidio gwneud adduned yn y lle cyntaf na gwneud un ac wedyn peidio'i chyflawni! | |
Eccl | WelBeibl | 5:6 | Paid gadael i dy eiriau wneud i ti bechu, ac wedyn ceisio dadlau o flaen yr offeiriad, “Camgymeriad oedd e!” Paid digio Duw, a gwneud iddo ddinistrio popeth rwyt wedi gweithio amdano! | |
Eccl | WelBeibl | 5:8 | Os wyt ti'n gweld pobl dlawd yn cael eu gormesu, hawliau'n cael eu gwrthod ac anghyfiawnder mewn rhyw wlad, paid rhyfeddu at y peth! Mae pob swyddog yn atebol i'w oruchwyliwr, ac mae rhai uwch fyth dros y rheiny wedyn. | |
Eccl | WelBeibl | 5:10 | “Dydy rhywun sydd ag obsesiwn am arian byth yn fodlon fod ganddo ddigon; na'r un sy'n caru cyfoeth yn hapus gyda'i enillion.” Dydy e'n gwneud dim sens! | |
Eccl | WelBeibl | 5:11 | “Po fwya'r llwyddiant, mwya'r bobl sydd i'w cynnal ganddo.” Felly, beth mae'r perchennog yn ei ennill heblaw fod ganddo rywbeth i edrych arno? | |
Eccl | WelBeibl | 5:12 | “Mae gorffwys yn felys i weithiwr cyffredin, faint bynnag sydd ganddo i'w fwyta, ond mae'r ffaith fod gan y cyfoethog fwy na digon yn ei rwystro rhag cysgu'n dawel.” | |
Eccl | WelBeibl | 5:13 | Dyma rywbeth ofnadwy dw i wedi sylwi arno, ond mae'n digwydd o hyd: pobl yn cadw eu cyfoeth iddyn nhw'u hunain rhag ofn i rhyw anffawd ddigwydd. | |
Eccl | WelBeibl | 5:14 | Ond yna mae'n colli'r cwbl drwy ryw bwl o anlwc. Er ei fod wedi cael mab, does ganddo ddim i'w basio ymlaen i'r mab hwnnw. | |
Eccl | WelBeibl | 5:15 | Mae plentyn yn cael ei eni i'r byd heb ddim, ac mae'n gadael y byd heb ddim. Does neb yn gallu mynd a'i gyfoeth gydag e. | |
Eccl | WelBeibl | 5:16 | Mae'n beth trist ofnadwy. Yn union fel mae'n dod i'r byd heb ddim, mae'n gadael heb ddim. Felly faint gwell ydy e? Beth ydy'r pwynt ymdrechu i ddim byd? | |
Eccl | WelBeibl | 5:17 | Mae'n treulio'i fywyd i gyd dan gwmwl marwolaeth – yn rhwystredig, yn dioddef o salwch ac yn flin. | |
Eccl | WelBeibl | 5:18 | Dim ond un peth dw i'n ei weld sy'n dda ac yn llesol go iawn: fod rhywun yn bwyta ac yn yfed ac yn mwynhau ei waith caled yn y byd yma am yr ychydig amser mae Duw wedi'i roi iddo. Dyna'i wobr. | |
Eccl | WelBeibl | 5:19 | Ac os ydy Duw wedi rhoi cyfoeth ac eiddo iddo, a'r gallu i'w mwynhau, derbyn ei wobr a chael pleser yn y cwbl mae'n ei wneud – rhodd gan Dduw ydy'r pethau yma i gyd. | |