Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ECCLESIASTES
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 5
Eccl WelBeibl 5:1  Gwylia beth rwyt ti'n ei wneud wrth fynd i addoli Duw. Dos yno i wrando, ddim i gyflwyno offrwm ffyliaid, oherwydd dydy'r rheiny ddim yn gwybod eu bod nhw'n gwneud rhywbeth o'i le.
Eccl WelBeibl 5:2  Paid bod yn rhy barod dy dafod, ac ar ormod o frys i ddweud dy farn wrth Dduw. Mae Duw yn y nefoedd a tithau ar y ddaear. Dylet ti bwyso a mesur dy eiriau.
Eccl WelBeibl 5:3  “Mae hunllefau'n dod wrth boeni gormod, a siarad ffôl wrth ddweud gormod.”
Eccl WelBeibl 5:4  Pan wyt ti'n gwneud adduned i Dduw, paid oedi cyn ei chyflawni. Dydy Duw ddim yn cael ei blesio gan ffyliaid. Gwna beth rwyt ti wedi addo'i wneud.
Eccl WelBeibl 5:5  Mae'n well peidio gwneud adduned yn y lle cyntaf na gwneud un ac wedyn peidio'i chyflawni!
Eccl WelBeibl 5:6  Paid gadael i dy eiriau wneud i ti bechu, ac wedyn ceisio dadlau o flaen yr offeiriad, “Camgymeriad oedd e!” Paid digio Duw, a gwneud iddo ddinistrio popeth rwyt wedi gweithio amdano!
Eccl WelBeibl 5:7  “Mae gormod o freuddwydio ac o wneud addewidion gwag.” Dangos di barch at Dduw.
Eccl WelBeibl 5:8  Os wyt ti'n gweld pobl dlawd yn cael eu gormesu, hawliau'n cael eu gwrthod ac anghyfiawnder mewn rhyw wlad, paid rhyfeddu at y peth! Mae pob swyddog yn atebol i'w oruchwyliwr, ac mae rhai uwch fyth dros y rheiny wedyn.
Eccl WelBeibl 5:9  Mae cynnyrch y tir i fod i bawb – ac mae'r brenin i fod i feithrin hyn!
Eccl WelBeibl 5:10  “Dydy rhywun sydd ag obsesiwn am arian byth yn fodlon fod ganddo ddigon; na'r un sy'n caru cyfoeth yn hapus gyda'i enillion.” Dydy e'n gwneud dim sens!
Eccl WelBeibl 5:11  “Po fwya'r llwyddiant, mwya'r bobl sydd i'w cynnal ganddo.” Felly, beth mae'r perchennog yn ei ennill heblaw fod ganddo rywbeth i edrych arno?
Eccl WelBeibl 5:12  “Mae gorffwys yn felys i weithiwr cyffredin, faint bynnag sydd ganddo i'w fwyta, ond mae'r ffaith fod gan y cyfoethog fwy na digon yn ei rwystro rhag cysgu'n dawel.”
Eccl WelBeibl 5:13  Dyma rywbeth ofnadwy dw i wedi sylwi arno, ond mae'n digwydd o hyd: pobl yn cadw eu cyfoeth iddyn nhw'u hunain rhag ofn i rhyw anffawd ddigwydd.
Eccl WelBeibl 5:14  Ond yna mae'n colli'r cwbl drwy ryw bwl o anlwc. Er ei fod wedi cael mab, does ganddo ddim i'w basio ymlaen i'r mab hwnnw.
Eccl WelBeibl 5:15  Mae plentyn yn cael ei eni i'r byd heb ddim, ac mae'n gadael y byd heb ddim. Does neb yn gallu mynd a'i gyfoeth gydag e.
Eccl WelBeibl 5:16  Mae'n beth trist ofnadwy. Yn union fel mae'n dod i'r byd heb ddim, mae'n gadael heb ddim. Felly faint gwell ydy e? Beth ydy'r pwynt ymdrechu i ddim byd?
Eccl WelBeibl 5:17  Mae'n treulio'i fywyd i gyd dan gwmwl marwolaeth – yn rhwystredig, yn dioddef o salwch ac yn flin.
Eccl WelBeibl 5:18  Dim ond un peth dw i'n ei weld sy'n dda ac yn llesol go iawn: fod rhywun yn bwyta ac yn yfed ac yn mwynhau ei waith caled yn y byd yma am yr ychydig amser mae Duw wedi'i roi iddo. Dyna'i wobr.
Eccl WelBeibl 5:19  Ac os ydy Duw wedi rhoi cyfoeth ac eiddo iddo, a'r gallu i'w mwynhau, derbyn ei wobr a chael pleser yn y cwbl mae'n ei wneud – rhodd gan Dduw ydy'r pethau yma i gyd.
Eccl WelBeibl 5:20  Pan mae Duw wedi llenwi ei fywyd â llawenydd, dydy rhywun felly ddim yn poeni rhyw lawer fod bywyd mor fyr.