ESTHER
Chapter 6
Esth | WelBeibl | 6:1 | Y noson honno roedd y brenin yn methu cysgu. Felly dyma fe'n galw am y sgrôl oedd â hanes digwyddiadau pwysig yr Ymerodraeth ynddi, a chafodd ei darllen iddo. | |
Esth | WelBeibl | 6:2 | A dyma nhw'n dod at y cofnod fod Mordecai wedi rhoi gwybod am y cynllwyn i ladd y Brenin Ahasferus, gan y ddau was oedd yn gwarchod drws ystafell y brenin, sef Bigthan a Teresh. | |
Esth | WelBeibl | 6:3 | Dyma'r brenin yn gofyn, “Beth gafodd ei wneud i anrhydeddu Mordecai am beth wnaeth e?” A dyma gweision y brenin yn ateb, “Dim byd o gwbl.” | |
Esth | WelBeibl | 6:4 | Y funud honno roedd Haman wedi cyrraedd y cyntedd tu allan i'r neuadd frenhinol, i awgrymu i'r brenin y dylai Mordecai gael ei grogi ar y crocbren oedd wedi'i adeiladu iddo. A dyma'r brenin yn gofyn, “Pwy sydd yn y cyntedd tu allan?” | |
Esth | WelBeibl | 6:5 | “Haman sydd yna,” meddai'r gweision. A dyma'r brenin yn dweud, “Gadewch iddo ddod i mewn.” | |
Esth | WelBeibl | 6:6 | Pan ddaeth Haman i mewn, dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Beth ddylid ei wneud os ydy'r brenin wir eisiau anrhydeddu rhywun?” Roedd Haman yn meddwl mai fe oedd yr un oedd y brenin eisiau'i anrhydeddu, | |
Esth | WelBeibl | 6:8 | dylai ei arwisgo gyda mantell frenhinol, a'i osod ar geffyl mae'r brenin ei hun wedi'i farchogaeth – un sy'n gwisgo arwyddlun y frenhiniaeth ar ei dalcen. | |
Esth | WelBeibl | 6:9 | Dylai un o brif swyddogion y brenin gymryd y fantell a'r ceffyl ac arwisgo'r dyn mae'r brenin am ei anrhydeddu, ei roi i farchogaeth ar y ceffyl, a'i arwain drwy sgwâr y ddinas. A dylid cyhoeddi o'i flaen, ‘Dyma sy'n cael ei wneud i'r dyn mae'r brenin am ei anrhydeddu!’” | |
Esth | WelBeibl | 6:10 | Yna dyma'r brenin yn dweud wrth Haman, “Iawn, dos ar frys. Cymer di'r fantell a'r ceffyl, a gwna hynny i Mordecai yr Iddew sy'n eistedd yn y llys brenhinol. Gwna bopeth yn union fel gwnest ti ddisgrifio.” | |
Esth | WelBeibl | 6:11 | Felly dyma Haman yn cymryd y fantell a'r ceffyl ac yn arwisgo Mordecai. Wedyn dyma fe'n ei arwain ar y march drwy ganol y ddinas, yn cyhoeddi o'i flaen, “Dyma sy'n cael ei wneud i'r dyn mae'r brenin am ei anrhydeddu!” | |
Esth | WelBeibl | 6:12 | Ar ôl hyn i gyd, aeth Mordecai yn ôl i'r llys brenhinol, a dyma Haman yn brysio adre yn hollol ddigalon yn cuddio'i ben mewn cywilydd. | |
Esth | WelBeibl | 6:13 | Yna aeth i ddweud beth oedd wedi digwydd wrth ei wraig a'i ffrindiau i gyd. A dyma'r cynghorwyr a'i wraig Seresh yn ymateb, “Mae ar ben arnat ti os mai Iddew ydy'r Mordecai yma wyt ti wedi dechrau syrthio o'i flaen, does gen ti ddim gobaith!” | |