ESTHER
Chapter 1
Esth | WelBeibl | 1:1 | Roedd hi'r cyfnod pan oedd Ahasferus yn frenin Persia (yr Ahasferus oedd yn teyrnasu ar gant dau ddeg saith o daleithiau o India i Affrica.) | |
Esth | WelBeibl | 1:3 | Yn ystod ei drydedd flwyddyn fel brenin dyma fe'n cynnal gwledd fawr i'w swyddogion i gyd. Roedd penaethiaid byddin Persia a Media yno, a llywodraethwyr y taleithiau, a phawb arall o bwys. | |
Esth | WelBeibl | 1:4 | Roedd Ahasferus eisiau i bawb oedd yno wybod mor bwysig ac mor anhygoel gyfoethog oedd e, a'i weld yn ei holl ysblander brenhinol. Parodd y dathliadau am amser hir – chwe mis cyfan i fod yn fanwl gywir. | |
Esth | WelBeibl | 1:5 | Yna ar ddiwedd y chwe mis dyma fe'n cynnal gwledd oedd yn para am wythnos. Roedd pawb oedd yn Shwshan ar y pryd yn cael mynd, o'r bobl fawr i'r bobl fwya cyffredin. Roedd y wledd yn cael ei chynnal yn yr iard yng ngerddi'r palas brenhinol. | |
Esth | WelBeibl | 1:6 | Roedd pobman wedi'i addurno gyda llenni o liain main gwyn a phorffor. Roedd cylchoedd arian yn dal y llenni ar gordyn wedi'i wneud o liain main a gwlân porffor, ac roedden nhw'n hongian rhwng colofnau marmor. Ac roedd soffas o aur ac arian ar balmant hardd oedd â phatrymau drwyddo o feini ffelsbar, marmor, mam y perl, a cherrig lliwgar eraill. | |
Esth | WelBeibl | 1:7 | Roedd pobl yn yfed diodydd o gwpanau aur, ac roedd digonedd o'r gwin brenhinol gorau i bawb, a'r brenin yn talu am y cwbl. | |
Esth | WelBeibl | 1:8 | Gallai pobl yfed faint fynnen nhw. Roedd y brenin wedi dweud wrth y wetars i gyd am roi i bawb faint bynnag oedden nhw eisiau. | |
Esth | WelBeibl | 1:9 | Ar yr un pryd roedd y Frenhines Fashti yn cynnal gwledd i'r gwragedd i gyd ym mhalas y Brenin Ahasferus. | |
Esth | WelBeibl | 1:10 | Ar ddiwrnod ola'r wledd roedd y gwin wedi mynd i ben y brenin, a dyma fe'n gorchymyn i'w saith ystafellydd (sef Mehwman, Bistha, Charbona, Bigtha, Abagtha, Sethar, a Carcas) | |
Esth | WelBeibl | 1:11 | ddod â'r frenhines Fashti o'i flaen, yn gwisgo'i choron frenhinol. Roedd y brenin eisiau i'w westeion a'i swyddogion weld mor hardd oedd hi – roedd hi'n wraig hynod o ddeniadol. | |
Esth | WelBeibl | 1:12 | Ond pan ddwedodd yr ystafellyddion wrthi beth oedd y brenin eisiau dyma'r frenhines yn gwrthod mynd. Roedd y brenin wedi gwylltio'n lân – roedd yn gynddeiriog! | |
Esth | WelBeibl | 1:13 | Dyma fe'n galw'i gynghorwyr ato – dynion doeth oedd yn deall yr amserau. (Roedd yn arfer gan frenin ofyn am gyngor dynion oedd yn arbenigwyr yn y gyfraith.) | |
Esth | WelBeibl | 1:14 | Y dynion agosaf ato oedd Carshena, Shethar, Admatha, Tarshish, Meres, Marsena, a Memwchan. Nhw oedd uchel-swyddogion Persia a Media, y dynion mwyaf dylanwadol yn y deyrnas, ac roedden nhw'n cyfarfod gyda'r brenin yn rheolaidd. | |
Esth | WelBeibl | 1:15 | Dyma'r brenin yn gofyn iddyn nhw, “Beth ddylai ddigwydd i'r Frenhines Fashti? Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud pan mae brenhines yn gwrthod gwneud beth mae'r brenin yn ei orchymyn?” | |
Esth | WelBeibl | 1:16 | Dyma Memwchan yn ymateb, “Nid dim ond y brenin sydd wedi'i sarhau gan y frenhines Fashti. Mae hi wedi pechu yn erbyn y swyddogion a'r bobl i gyd o'r taleithiau sy'n cael eu rheoli gan y Brenin Ahasferus. | |
Esth | WelBeibl | 1:17 | Bydd gwragedd ym mhobman yn clywed am y peth a gwneud yr un fath, a dangos dim parch at eu gwŷr. Byddan nhw'n dweud, ‘Os ydy'r frenhines Fashti ddim yn ufuddhau i'w gŵr hi, y Brenin Ahasferus, pam ddylen ni?’ | |
Esth | WelBeibl | 1:18 | Cyn diwedd y dydd bydd gwragedd uchel-swyddogion Persia a Media yn clywed beth wnaeth y frenhines, ac yn gwneud yr un fath i'w gwŷr! Fydd yna ddim diwedd ar y sarhau a'r ffraeo! | |
Esth | WelBeibl | 1:19 | Os ydy'r brenin yn cytuno, dylai anfon allan ddatganiad brenhinol am y peth, a'i ysgrifennu yn llyfrau cyfraith Persia a Media, fel bod dim modd ei newid. Ddylai Fashti ddim cael gweld y Brenin Ahasferus byth eto, a dylai'r brenin roi ei theitl i un arall fyddai'n frenhines well na hi. | |
Esth | WelBeibl | 1:20 | Dylai dyfarniad y brenin gael ei gyhoeddi drwy'r deyrnas fawr yma'n gyfan. Wedyn bydd gwragedd yn parchu eu gwŷr, beth bynnag ydy eu safle cymdeithasol nhw.” | |
Esth | WelBeibl | 1:21 | Roedd y brenin a'r swyddogion eraill yn hoffi awgrym Memwchan, felly dyna wnaeth e. | |