HEBREWS
Chapter 8
Hebr | WelBeibl | 8:1 | Y pwynt ydy hyn: mae'r Archoffeiriad sydd gynnon ni wedi eistedd yn y sedd anrhydedd yn y nefoedd, ar yr ochr dde i'r Duw Mawr ei hun. | |
Hebr | WelBeibl | 8:2 | Dyna'r cysegr mae hwn yn gweini ynddo – y ganolfan addoliad go iawn sydd wedi'i chodi gan yr Arglwydd ei hun, a dim gan unrhyw berson dynol. | |
Hebr | WelBeibl | 8:3 | A chan fod rhaid i bob archoffeiriad gyflwyno rhoddion ac aberthau i Dduw, roedd rhaid i Iesu hefyd fod â rhywbeth ganddo i'w gyflwyno. | |
Hebr | WelBeibl | 8:4 | Petai'r gweini hwn yn digwydd ar y ddaear, fyddai Iesu ddim yn gallu bod yn offeiriad, am fod offeiriaid eisoes ar gael i gyflwyno'r rhoddion mae'r Gyfraith Iddewig yn eu gorchymyn. | |
Hebr | WelBeibl | 8:5 | Ond dim ond copi o'r ganolfan addoliad go iawn yn y nefoedd ydy'r cysegr maen nhw'n gweini ynddo. Dyna pam wnaeth Duw roi'r rhybudd hwn i Moses pan oedd yn bwriadu codi'r babell yn ganolfan addoliad: “Gwna'n siŵr dy fod yn gwneud popeth yn union fel mae yn y cynllun welaist ti ar y mynydd.” | |
Hebr | WelBeibl | 8:6 | Ond mae'r gwaith offeiriadol gafodd ei roi i Iesu yn llawer iawn pwysicach na'r gwaith maen nhw'n ei wneud fel offeiriaid. Ac mae'r ymrwymiad mae Iesu'n ganolwr iddo yn well na'r hen un – mae wedi'i wneud yn ‛gyfraith‛ sy'n addo pethau llawer gwell. | |
Hebr | WelBeibl | 8:8 | Ond roedd bai ar y bobl yng ngolwg Duw, a dyna pam ddwedodd e: “‘Mae'r amser yn dod,’ meddai'r Arglwydd, ‘pan fydda i'n gwneud ymrwymiad newydd gyda phobl Israel a Jwda.’ | |
Hebr | WelBeibl | 8:9 | ‘Fydd hwn ddim yr un fath â'r un wnes i gyda'u hynafiaid (pan afaelais yn eu llaw a'u harwain allan o'r Aifft). Wnaethon nhw ddim cadw eu hochr nhw o'r cytundeb, felly dyma fi'n troi fy nghefn arnyn nhw,’ meddai'r Arglwydd. | |
Hebr | WelBeibl | 8:10 | ‘Dyma'r ymrwymiad fydda i'n ei wneud gyda phobl Israel bryd hynny,’ meddai'r Arglwydd: ‘Bydd fy neddfau'n glir yn eu meddyliau ac wedi'u hysgrifennu ar eu calonnau. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i. | |
Hebr | WelBeibl | 8:11 | Fyddan nhw ddim yn gorfod dysgu pobl eraill, a dweud wrth ei gilydd, “Rhaid i ti ddod i nabod yr Arglwydd,” achos bydd pawb yn fy nabod i, o'r lleia i'r mwya. | |
Hebr | WelBeibl | 8:12 | Bydda i'n maddau iddyn nhw am y pethau wnaethon nhw o'i le, ac yn anghofio'u pechodau am byth.’” | |