HEBREWS
Chapter 3
Hebr | WelBeibl | 3:1 | Felly, frodyr a chwiorydd – chi sydd wedi'ch glanhau ac ar eich ffordd i'r nefoedd – meddyliwch am Iesu! Fe ydy'r negesydd oddi wrth Dduw a'r un dŷn ni'n ei dderbyn yn Archoffeiriad. | |
Hebr | WelBeibl | 3:2 | Gwnaeth Iesu bopeth roedd Duw yn gofyn iddo'i wneud, yn union fel Moses, oedd “yn ffyddlon yn nheulu Duw.” | |
Hebr | WelBeibl | 3:3 | Ond mae Iesu'n haeddu ei anrhydeddu fwy na Moses, yn union fel mae rhywun sy'n adeiladu tŷ yn haeddu ei ganmol fwy na'r tŷ ei hun! | |
Hebr | WelBeibl | 3:4 | Mae pob tŷ wedi cael ei adeiladu gan rywun, ond yr un sydd wedi adeiladu popeth sy'n bod ydy Duw! | |
Hebr | WelBeibl | 3:5 | Gwas “ffyddlon yn nheulu Duw” oedd Moses, ac roedd beth wnaeth e yn pwyntio ymlaen at beth fyddai Duw'n ei wneud yn y dyfodol. | |
Hebr | WelBeibl | 3:6 | Ond mae'r Meseia yn Fab ffyddlon gydag awdurdod dros deulu Duw i gyd. A dŷn ni'n bobl sy'n perthyn i'r teulu hwnnw os wnawn ni ddal gafael yn yr hyder a'r gobaith dŷn ni'n ei frolio. | |
Hebr | WelBeibl | 3:8 | peidiwch bod yn ystyfnig fel oeddech chi adeg y gwrthryfel, yn rhoi Duw ar brawf yn yr anialwch. | |
Hebr | WelBeibl | 3:9 | Roedd eich hynafiaid wedi profi fy amynedd a chawson nhw weld y canlyniadau am bedwar deg mlynedd. | |
Hebr | WelBeibl | 3:10 | Digiais gyda'r bobl hynny, a dweud, ‘Maen nhw'n bobl hollol anwadal; dŷn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’ | |
Hebr | WelBeibl | 3:11 | Felly digiais, a dweud ar lw, ‘Chân nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi.’” | |
Hebr | WelBeibl | 3:12 | Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn anufudd ac yn troi cefn ar y Duw byw. | |
Hebr | WelBeibl | 3:13 | Helpwch eich gilydd bob dydd, a gwnewch hynny tra mae hi'n ‛heddiw‛. Peidiwch gadael i bechod eich twyllo a'ch gwneud yn ystyfnig. | |
Hebr | WelBeibl | 3:14 | Os daliwn ein gafael i'r diwedd a dal i gredu fel ar y dechrau, cawn rannu'r cwbl sydd gan y Meseia. | |
Hebr | WelBeibl | 3:15 | Fel dw i newydd ddweud: “Os clywch chi lais Duw heddiw, peidiwch bod yn ystyfnig fel oeddech chi adeg y gwrthryfel.” | |
Hebr | WelBeibl | 3:16 | A phwy oedd y rhai wnaeth wrthryfela er eu bod wedi clywed llais Duw? Onid y bobl wnaeth Moses eu harwain allan o'r Aifft? | |
Hebr | WelBeibl | 3:17 | A gyda pwy roedd Duw'n ddig am 40 mlynedd? Onid gyda'r rhai oedd wedi pechu? – nhw syrthiodd yn farw yn yr anialwch! | |
Hebr | WelBeibl | 3:18 | Ac am bwy ddwedodd Duw ar lw na chaen nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gydag e? – onid y bobl hynny oedd yn gwrthod ei ddilyn? | |