Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II JOHN
1
Chapter 1
II J WelBeibl 1:1  Llythyr gan Ioan yr arweinydd, At yr eglwys – gwraig fonheddig sydd wedi'i dewis gan Dduw. Ac at ei phlant, sef chi sy'n credu, y rhai dw i'n eu caru go iawn. A dim fi ydy'r unig un. Mae pawb sy'n gwybod y gwir yn eich caru chi,
II J WelBeibl 1:2  am fod y gwir yn aros ynon ni, a bydd gyda ni am byth.
II J WelBeibl 1:3  Bydd haelioni rhyfeddol, a thrugaredd a heddwch dwfn Duw y Tad, a Iesu Grist ei Fab, yn aros gyda ni sy'n byw bywyd o gariad ac sy'n ffyddlon i'r gwir.
II J WelBeibl 1:4  Rôn i wrth fy modd o glywed fod rhai ohonoch chi'n byw felly – yn ffyddlon i'r gwir, fel mae'r Tad wedi gorchymyn i ni.
II J WelBeibl 1:5  Nawr, dw i ddim yn rhoi rhyw orchymyn newydd i chi fel eglwys. Dw i'n apelio atoch chi i gofio'r egwyddor sylfaenol sydd wedi bod gyda ni o'r dechrau, sef ein bod i garu'n gilydd.
II J WelBeibl 1:6  Ystyr cariad ydy ein bod ni'n byw fel mae Duw'n dweud wrthon ni. Dyna glywoch chi o'r dechrau cyntaf. Dyna sut dŷn ni i fod i fyw.
II J WelBeibl 1:7  Mae llawer o rai sy'n twyllo wedi'n gadael ni a mynd allan i'r byd. Pobl ydyn nhw sy'n gwrthod credu fod gan Iesu Grist gorff dynol a'i fod yn ddyn go iawn. Twyllwyr ydyn nhw! Gelynion y Meseia!
II J WelBeibl 1:8  Gwyliwch, rhag i chi gael eich dylanwadu ganddyn nhw, a cholli'r wobr dych chi wedi gweithio mor galed amdani! Daliwch ati, er mwyn gwneud yn siŵr y byddwch yn cael eich gwobr yn llawn.
II J WelBeibl 1:9  Mae'r rhai sy'n mynd y tu hwnt i beth wnaeth Iesu Grist ei ddysgu wedi torri pob cysylltiad â Duw. Ond mae gan y rhai sy'n glynu wrth ddysgeidiaeth y Meseia berthynas gyda'r Tad a'r Mab.
II J WelBeibl 1:10  Os ydy rhywun yn dod atoch sydd ddim yn dysgu'r gwir, peidiwch eu gwahodd nhw i mewn i'ch tŷ. Peidiwch hyd yn oed eu cyfarch nhw.
II J WelBeibl 1:11  Mae unrhyw un sy'n rhoi croeso iddyn nhw yn eu helpu nhw i wneud drwg.
II J WelBeibl 1:12  Mae gen i lawer mwy i'w ddweud wrthoch chi, ond dw i ddim am ei roi ar bapur. Dw i'n gobeithio dod i'ch gweld chi, a siarad wyneb yn wyneb. Byddai hynny'n ein gwneud ni'n hapus go iawn!
II J WelBeibl 1:13  Mae plant eich chwaer eglwys yma – hithau wedi'i dewis gan Dduw – yn anfon eu cyfarchion.