JOSHUA
Chapter 20
Josh | WelBeibl | 20:2 | “Dwed wrth bobl Israel am ddewis y trefi lloches wnes i orchymyn i Moses ddweud wrthoch chi amdanyn nhw. | |
Josh | WelBeibl | 20:3 | Bydd unrhyw un sy'n lladd person yn ddamweiniol yn gallu dianc yno. Bydd y trefi yma yn lle saff i ddianc oddi wrth y perthynas sydd am ddial. | |
Josh | WelBeibl | 20:4 | Dylai'r un sydd wedi lladd rhywun drwy ddamwain, ddianc i un ohonyn nhw, a mynd i'r llys wrth giât y dref i gyflwyno ei achos i'r arweinwyr yno. Yna byddan nhw'n gadael iddo fynd i mewn i'r dref i fyw. | |
Josh | WelBeibl | 20:5 | A phan fydd y perthynas sydd â'r hawl i ddial yn dod ar ei ôl, dylen nhw wrthod ei roi iddo, am mai damwain oedd yr hyn ddigwyddodd – doedd e ddim wedi bwriadu lladd. | |
Josh | WelBeibl | 20:6 | Ond rhaid iddo aros yn y dref nes bydd llys cyhoeddus wedi dod i ddyfarniad ar ei achos, a'r un sy'n archoffeiriad ar y pryd wedi marw. Wedyn bydd yn cael mynd yn ôl i'r dref lle roedd yn byw cyn iddo ddianc.” | |
Josh | WelBeibl | 20:7 | Felly dyma nhw'n dewis Cedesh yn Galilea, ym mryniau tiriogaeth Nafftali; Sichem ym mryniau Effraim; a Ciriath-arba (sef Hebron) ym mryniau Jwda. | |
Josh | WelBeibl | 20:8 | Ac i'r dwyrain o afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho, dyma nhw'n dewis Betser yn yr anialwch ar wastadedd tiriogaeth llwyth Reuben; Ramoth yn Gilead ar dir llwyth Gad; a Golan yn Bashan oedd yn perthyn i lwyth Manasse. | |