Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOSHUA
Prev Up Next
Chapter 4
Josh WelBeibl 4:1  Pan oedd y genedl gyfan wedi croesi afon Iorddonen, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua:
Josh WelBeibl 4:2  “Dewis un deg dau o ddynion – un o bob llwyth.
Josh WelBeibl 4:3  Dwed wrthyn nhw am gymryd un deg dwy o gerrig o wely'r afon, o'r union fan lle roedd yr offeiriaid yn sefyll. Maen nhw i fynd â'r cerrig, a'u gosod nhw i lawr lle byddwch chi'n gwersylla heno.”
Josh WelBeibl 4:4  Dyma Josua'n galw'r dynion oedd wedi'u penodi at ei gilydd (un dyn o bob llwyth),
Josh WelBeibl 4:5  a dweud wrthyn nhw: “Ewch o flaen Arch yr ARGLWYDD eich Duw i ganol yr Iorddonen. Yno, mae pob un ohonoch chi i godi carreg ar ei ysgwydd – un garreg ar gyfer pob llwyth.
Josh WelBeibl 4:6  Bydd y cerrig yn eich atgoffa chi o beth ddigwyddodd yma. Yn y dyfodol, pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Beth ydy'r cerrig yma?’,
Josh WelBeibl 4:7  gallwch ddweud wrthyn nhw fod afon Iorddonen wedi stopio llifo o flaen Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD – wrth i'r Arch groesi, fod y dŵr wedi stopio llifo. A bod y cerrig i atgoffa pobl Israel o beth ddigwyddodd.”
Josh WelBeibl 4:8  Felly dyma'r dynion yn gwneud yn union fel dwedodd Josua. Dyma nhw'n codi un deg dwy o gerrig o ganol afon Iorddonen (fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Josua – un garreg ar gyfer pob llwyth). A dyma nhw'n cario'r cerrig i'r gwersyll, ac yn eu gosod nhw i lawr yno.
Josh WelBeibl 4:9  Gosododd Josua hefyd un deg dwy o gerrig eraill yn yr union fan lle roedd yr offeiriaid oedd yn cario'r Arch wedi bod yn sefyll. Mae'r cerrig yno hyd heddiw.
Josh WelBeibl 4:10  Safodd yr offeiriaid oedd yn cario'r Arch ar wely afon Iorddonen nes oedd popeth roedd yr ARGLWYDD wedi'i orchymyn i Josua wedi'i gyflawni. Yn y cyfamser, roedd y bobl yn croesi'r afon ar frys.
Josh WelBeibl 4:11  Pan oedd pawb wedi croesi, dyma'r Arch a'r offeiriaid oedd yn ei chario yn croesi, a'r bobl yn eu gwylio.
Josh WelBeibl 4:12  Roedd y dynion o lwyth Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse wedi croesi o flaen pobl Israel, yn barod i ymladd, fel roedd Moses wedi dweud wrthyn nhw.
Josh WelBeibl 4:13  Roedd tua 40,000 o ddynion arfog wedi croesi drosodd i ryfela ar wastatir Jericho.
Josh WelBeibl 4:14  Y diwrnod hwnnw gwnaeth yr ARGLWYDD Josua yn arweinydd mawr yng ngolwg pobl Israel. Roedden nhw'n ei barchu e tra buodd e byw, yn union fel roedden nhw wedi parchu Moses.
Josh WelBeibl 4:16  “Dwed wrth yr offeiriaid sy'n cario Arch y Dystiolaeth i ddod i fyny o wely'r Iorddonen.”
Josh WelBeibl 4:17  Felly dyma Josua'n gwneud hynny. “Dewch i fyny o wely'r afon!” meddai wrthyn nhw.
Josh WelBeibl 4:18  Dyma'r offeiriaid oedd yn cario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yn dod. Pan oedden nhw wedi cyrraedd y tir sych, dyma ddŵr yr afon yn dechrau llifo eto, a gorlifo fel o'r blaen.
Josh WelBeibl 4:19  Roedd hi'r degfed o'r mis cyntaf pan groesodd y bobl afon Iorddonen, a gwersylla yn Gilgal sydd i'r dwyrain o Jericho.
Josh WelBeibl 4:20  Dyna lle gwnaeth Josua osod i fyny yr un deg dwy o gerrig roedden nhw wedi'u cymryd o afon Iorddonen.
Josh WelBeibl 4:21  A dyma fe'n dweud wrth bobl Israel, “Pan fydd eich plant yn gofyn i'w tadau, ‘Beth ydy'r cerrig yma?’
Josh WelBeibl 4:22  esboniwch iddyn nhw, ‘Dyma lle wnaeth pobl Israel groesi afon Iorddonen ar dir sych.’
Josh WelBeibl 4:23  Roedd yr ARGLWYDD eich Duw wedi sychu dŵr yr Iorddonen o'n blaen ni wrth i ni groesi drosodd, yn union fel roedd wedi sychu'r Môr Coch pan oedden ni'n croesi hwnnw.
Josh WelBeibl 4:24  Gwnaeth hynny er mwyn i bobl holl wledydd y byd gydnabod fod yr ARGLWYDD yn Dduw grymus, ac er mwyn i chi ei barchu a'i addoli bob amser.”