JOSHUA
Chapter 18
Josh | WelBeibl | 18:1 | Dyma bobl Israel i gyd yn dod at ei gilydd yn Seilo, ac yn codi pabell presenoldeb Duw. Er eu bod nhw'n rheoli'r wlad, | |
Josh | WelBeibl | 18:3 | A dyma Josua yn dweud wrth bobl Israel, “Am faint mwy dych chi'n mynd i dindroi cyn cymryd y tir mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi'i roi i chi? | |
Josh | WelBeibl | 18:4 | Dewiswch dri dyn o bob llwyth. Dw i am eu hanfon nhw i grwydro'r wlad, ei mapio a gwneud arolwg llawn ohoni. | |
Josh | WelBeibl | 18:5 | Byddan nhw'n ei rhannu yn saith ardal. Ond fydd hyn ddim yn cynnwys tir Jwda i lawr yn y de, na thir Joseff yn y gogledd. | |
Josh | WelBeibl | 18:6 | Mapiwch y tir a'i rannu'n saith ardal wahanol, a dewch ag e i mi. Wedyn bydda i'n bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD eich Duw, i ddewis pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth. | |
Josh | WelBeibl | 18:7 | Ond fydd llwyth Lefi ddim yn cael rhan o'r tir. Eu braint nhw ydy cael bod yn offeiriaid i'r ARGLWYDD. Ac mae llwythau Gad, Reuben a hanner llwyth Manasse eisoes wedi derbyn tir yr ochr arall i afon Iorddonen, gan Moses, gwas yr ARGLWYDD.” | |
Josh | WelBeibl | 18:8 | Cyn i'r dynion gychwyn ar eu taith, dyma Josua yn gorchymyn iddyn nhw: “Ewch i grwydro drwy'r wlad a'i mapio, a pharatoi arolwg llawn ohoni i mi. Yna dewch yn ôl ata i. Bydda i wedyn yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yma yn Seilo, i weld pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth.” | |
Josh | WelBeibl | 18:9 | Felly dyma'r dynion yn mynd drwy'r wlad i gyd, a'i mapio, a rhestru'r trefi i gyd ar sgrôl, a rhannu'r tir yn saith ardal. Yna dyma nhw'n dod yn ôl at Josua i'r gwersyll yn Seilo. | |
Josh | WelBeibl | 18:10 | A dyma Josua yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yn Seilo, i rannu'r tir rhwng pobl Israel, a gweld pa ardal fyddai pob llwyth yn ei gael. | |
Josh | WelBeibl | 18:11 | Teuluoedd llwyth Benjamin gafodd y rhan gyntaf. Eu tir nhw fyddai'r ardal rhwng tir Jwda a thir meibion Joseff. | |
Josh | WelBeibl | 18:12 | Roedd y ffin yn y gogledd yn mynd o afon Iorddonen ar hyd y llethr i'r gogledd o Jericho, wedyn i fyny i'r bryniau i gyfeiriad y gorllewin ac ymlaen at anialwch Beth-afen. | |
Josh | WelBeibl | 18:13 | Roedd yn croesi wedyn i Lws, ar hyd y llethr sydd i'r de o Lws (sef Bethel). Yna i lawr i Atroth-adar sydd ar y bryn i'r de o Beth-choron Isaf. | |
Josh | WelBeibl | 18:14 | Wedyn roedd yn troi o'r fan honno i'r de, ar hyd ochr orllewinol y bryn ac i lawr i Ciriath-baal (sef Ciriath-iearîm), un o'r trefi oedd ar dir llwyth Jwda. Dyna'r ffin i'r gorllewin. | |
Josh | WelBeibl | 18:15 | Yna roedd ffin y de yn dechrau wrth Ciriath-iearîm, ac yn rhedeg i gyfeiriad Ffynnon Nefftoach. | |
Josh | WelBeibl | 18:16 | Wedyn roedd y ffin yn mynd i lawr at droed y mynydd gyferbyn â Dyffryn Ben-hinnom, sydd wrth ben gogleddol Dyffryn Reffaïm. Yna i lawr Dyffryn Hinnom at y llethr sydd i'r de o Jerwsalem, ac ymlaen i En-rogel. | |
Josh | WelBeibl | 18:17 | O En-rogel roedd yn troi i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i En-shemesh, ac yna i Geliloth, sydd gyferbyn â Bwlch Adwmîm, ac yna i lawr at Garreg Bohan (mab Reuben). | |
Josh | WelBeibl | 18:18 | Yna croesi i gyfeiriad y gogledd ar hyd y llethr sydd o flaen Dyffryn Iorddonen, cyn mynd i lawr i'r dyffryn ei hun. | |
Josh | WelBeibl | 18:19 | Croesi wedyn at lethr Beth-hogla ac ymlaen i ben uchaf y Môr Marw, wrth aber afon Iorddonen. Dyna ffin y de. | |
Josh | WelBeibl | 18:20 | Wedyn afon Iorddonen oedd y ffin i'r dwyrain. Dyna ffiniau'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Benjamin. | |
Josh | WelBeibl | 18:21 | A dyma'r trefi oedd yn perthyn i lwyth Benjamin: Jericho, Beth-hogla, Emec-cetsits, | |