JOSHUA
Chapter 13
Josh | WelBeibl | 13:1 | Pan oedd Josua wedi mynd yn hen iawn, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Ti'n mynd yn hen, ac mae yna lot fawr o dir sydd eto heb ei goncro. | |
Josh | WelBeibl | 13:3 | o afon Sihor ar y ffin gyda'r Aifft i fyny yr holl ffordd i dir Ecron yn y gogledd (y cwbl yn dir sy'n perthyn i'r Canaaneaid). Mae'n cynnwys tiriogaeth arweinwyr y Philistiaid yn Gasa, Ashdod, Ashcelon, Gath ac Ecron – y pump ohonyn nhw. Tir yr Afiaid hefyd, | |
Josh | WelBeibl | 13:4 | sydd i lawr yn y de. Yna i'r gogledd, tir y Canaaneaid o dref Ara yn Sidon i Affec, sydd ar y ffin gyda'r Amoriaid. | |
Josh | WelBeibl | 13:5 | Tir y Gebaliaid a Libanus i gyd. Ac yna yn y dwyrain, o Baal-gad wrth droed Mynydd Hermon i Fwlch Chamath. | |
Josh | WelBeibl | 13:6 | A dw i am yrru allan o flaen pobl Israel bawb sy'n byw yn mynydd-dir Libanus, yr holl ffordd i Misreffoth-maim, sef tir y Sidoniaid. “Mae'r tir yma i gyd i gael ei rannu rhwng llwythau Israel, fel dw i wedi gorchymyn i ti. Bydd gan bob llwyth ei diriogaeth ei hun. | |
Josh | WelBeibl | 13:8 | Roedd hanner llwyth Manasse, a llwythau Reuben a Gad wedi derbyn tir i'r dwyrain o afon Iorddonen. Moses, gwas yr ARGLWYDD, oedd wedi rhoi y tir hwnnw iddyn nhw. | |
Josh | WelBeibl | 13:9 | Roedd eu tiriogaeth yn cynnwys Aroer, ger Dyffryn Arnon (gan gynnwys y dref ei hun yn y dyffryn), a gwastadedd Medeba yr holl ffordd i Dibon. | |
Josh | WelBeibl | 13:10 | Hefyd y trefi oedd yn arfer perthyn i Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu yn Cheshbon, at y ffin gydag Ammon. | |
Josh | WelBeibl | 13:11 | Roedd yn cynnwys Gilead, tiroedd Geshwr a Maacha, Mynydd Hermon a thir Bashan i Salca. | |
Josh | WelBeibl | 13:12 | Hefyd tiriogaeth Og, brenin Bashan, oedd yn teyrnasu o Ashtaroth ac Edrei. (Roedd Og yn un o'r ychydig Reffaiaid oedd ar ôl bryd hynny.) Roedd Moses wedi'u concro nhw, a chymryd eu tiroedd. | |
Josh | WelBeibl | 13:13 | Ond wnaeth Israel ddim gyrru allan bobl Geshwr a Maacha – maen nhw'n dal i fyw gyda phobl Israel hyd heddiw. | |
Josh | WelBeibl | 13:14 | Wnaeth Moses ddim rhoi tir i lwyth Lefi chwaith, am fod yr ARGLWYDD wedi addo rhoi iddyn nhw yr offrymau oedd yn cael eu cyflwyno i'w llosgi i'r ARGLWYDD, Duw Israel. | |
Josh | WelBeibl | 13:16 | Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Aroer, yn Nyffryn Arnon (gan gynnwys y dref ei hun yn y dyffryn), a gwastadedd Medeba, | |
Josh | WelBeibl | 13:17 | Cheshbon, a'r trefi o'i chwmpas – gan gynnwys Dibon, Bamoth-baal, Beth-baal-meon, | |
Josh | WelBeibl | 13:21 | Roedd yn cynnwys trefi'r gwastadedd i gyd, a holl diriogaeth Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu o Cheshbon. Roedd Moses wedi'i goncro fe, ac arweinwyr y Midianiaid oedd dan ei reolaeth ac yn byw yn ei diriogaeth – Efi, Recem, Swr, Hur, a Reba. | |
Josh | WelBeibl | 13:23 | Ffin orllewinol tiriogaeth Reuben oedd afon Iorddonen. Roedd y tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Reuben yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas. | |
Josh | WelBeibl | 13:25 | Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Iaser, trefi Gilead i gyd, a hanner tiriogaeth pobl Ammon, yr holl ffordd i Aroer, ger Rabba. | |
Josh | WelBeibl | 13:26 | Roedd yn ymestyn o Cheshbon yn y de i Ramath-mitspe a Betonîm yn y gogledd, ac o Machanaîm i ardal Debir. | |
Josh | WelBeibl | 13:27 | Roedd yn cynnwys y tir i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, gan gynnwys trefi Beth-haram, Beth-nimra, Swccoth, a Saffon, a gweddill tiriogaeth Sihon, oedd yn teyrnasu o Cheshbon – sef y tir i'r dwyrain o afon Iorddonen yr holl ffordd at Lyn Galilea. | |
Josh | WelBeibl | 13:28 | Roedd y tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Gad yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas. | |
Josh | WelBeibl | 13:30 | Roedd eu tiriogaeth nhw yn ymestyn tua'r gogledd o Machanaîm, ac yn cynnwys teyrnas Og, brenin Bashan, i gyd. Roedd yn cynnwys y chwe deg o drefi yn Hafoth-jair yn Bashan, | |
Josh | WelBeibl | 13:31 | hanner Gilead, a trefi Ashtaroth ac Edrei (sef y trefi lle roedd Og, brenin Bashan, wedi bod yn teyrnasu). Cafodd y tir yma i gyd ei roi i ddisgynyddion Machir fab Manasse, sef teuluoedd hanner llwyth Manasse. | |
Josh | WelBeibl | 13:32 | Dyna sut wnaeth Moses rannu'r tir pan oedd ar wastatir Moab i'r dwyrain o afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho. | |