Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
AMOS
1 2 3 4 5 6 7 8 9
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 4
Amos WelBeibl 4:1  Gwrandwch ar hyn, chi wartheg Bashan! Ie, chi wragedd Samaria dw i'n ei olygu! Chi sy'n twyllo pobl dlawd, ac yn gwneud i'r gwan ddioddef. Chi sy'n dweud wrth eich gwŷr, “Tyrd â diod i ni gael parti!”
Amos WelBeibl 4:2  Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn addo ar lw, mor sicr â'i fod yn sanctaidd: “Gwyliwch chi! Mae'r amser yn dod pan fyddan nhw'n eich arwain chi i ffwrdd â bachau – pob copa walltog gyda bachau pysgota.
Amos WelBeibl 4:3  Byddwch chi'n cael eich llusgo allan o'r ddinas drwy'r tyllau yn y wal gyferbyn a'ch tai – Byddwch chi'n cael eich taflu ar y domen sbwriel!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Amos WelBeibl 4:4  “Dewch i'r cysegr yn Bethel i bechu yn fy erbyn i! Dewch i'r cysegr yn Gilgal, a phechu mwy fyth! Dewch i gyflwyno eich aberth yn y bore a thalu'r degwm y diwrnod wedyn.
Amos WelBeibl 4:5  Dewch i losgi eich offrwm diolch gyda bara sydd â burum ynddo! Dewch i wneud sioe wrth gyflwyno eich offrwm gwirfoddol! Dych chi wrth eich bodd yn gwneud pethau felly, bobl Israel.” —fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Amos WelBeibl 4:6  “Fi oedd yr un ddaeth â newyn arnoch chi yn eich holl drefi; doedd gynnoch chi ddim i'w fwyta yn unman. Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Amos WelBeibl 4:7  “Fi rwystrodd hi rhag glawio pan oedd y cnydau angen glaw i dyfu. Rôn i'n rhoi glaw i un dre a dim glaw i dre arall. Roedd hi'n glawio ar un cae, ond doedd cae arall yn cael dim glaw o gwbl ac roedd y cnwd yn gwywo.
Amos WelBeibl 4:8  Roedd pobl dwy neu dair o drefi yn llusgo'u ffordd i dre arall, yn y gobaith o gael dŵr i'w yfed, ond doedd dim digon yno i dorri syched pobl. Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Amos WelBeibl 4:9  “Dyma fi'n eich cosbi chi drwy anfon haint a llwydni ar eich cnydau. Dro ar ôl tro cafodd eich gerddi a'ch gwinllannoedd, eich coed ffigys a'ch coed olewydd, eu dinistrio'n llwyr gan blâu o locustiaid. Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Amos WelBeibl 4:10  “Dyma fi'n anfon afiechydon i'ch poenydio, fel y plâu yn yr Aifft. Dyma fi'n lladd eich milwyr ifanc yn y rhyfel, a chymryd eich meirch rhyfel oddi arnoch. Roedd yr holl gyrff marw yn drewi yn eich gwersyll. Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Amos WelBeibl 4:11  “Dyma fi'n dinistrio rhai ohonoch chi fel gwnes i ddinistrio Sodom a Gomorra. Roeddech chi fel darn o bren yn mudlosgi ar ôl cael ei gipio o'r tân. Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Amos WelBeibl 4:12  “Felly, dw i'n mynd i dy gosbi di, Israel. Dyna dw i'n mynd i'w wneud, felly, bydd barod i wynebu dy Dduw!”
Amos WelBeibl 4:13  Edrych! Duw wnaeth y mynyddoedd, a chreu y gwynt. – y Duw sydd wedi dweud wrth bobl beth sydd ganddo eisiau – Fe sy'n troi'r wawr yn dywyllwch, ac yn rheoli popeth ar y ddaear —yr ARGLWYDD ydy ei enw e, y Duw hollbwerus!