EZRA
Chapter 9
Ezra | WelBeibl | 9:1 | Ar ôl hyn i gyd dyma'r penaethiaid yn dod ata i a dweud, “Mae pobl Israel a'r offeiriaid a'r Lefiaid yn byw yr un fath â'r bobl baganaidd o'u cwmpas nhw. Maen nhw'n mynd drwy'r defodau ffiaidd roedd y Canaaneaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid, pobl Ammon, Moab, yr Aifft, a'r Amoriaid yn eu gwneud. | |
Ezra | WelBeibl | 9:2 | Maen nhw hyd yn oed wedi priodi rhai o ferched y bobloedd yma, fel bod pobl sanctaidd Duw wedi cymysgu gyda'r bobl leol. Ac yn waeth na hynny, yr arweinwyr a'r swyddogion oedd y rhai cyntaf i fod yn anffyddlon!” | |
Ezra | WelBeibl | 9:3 | Pan glywais hyn dyma fi'n rhwygo fy nillad, tynnu gwallt fy mhen a'm barf ac eistedd ar lawr. Rôn i mewn sioc. | |
Ezra | WelBeibl | 9:4 | A dyma pawb oedd wir yn parchu beth roedd Duw Israel yn ei ddweud yn casglu o'm cwmpas i, am fod y bobl ddaeth yn ôl o'r gaethglud wedi bod mor anffyddlon. Bues i'n eistedd yna nes oedd hi'n amser offrwm yr hwyr. | |
Ezra | WelBeibl | 9:5 | Pan ddaeth hi'n amser offrwm yr hwyr dyma fi'n codi, a'm dillad wedi'u rhwygo. Yna mynd ar fy ngliniau, dal fy nwylo ar led flaen yr ARGLWYDD fy Nuw, | |
Ezra | WelBeibl | 9:6 | a gweddïo, “O Dduw! Mae gen i ormod o gywilydd dy wynebu di, fy Nuw. Dŷn ni wedi cael ein llethu'n llwyr gan ein pechodau, ac mae'n heuogrwydd wedi cyrraedd yr holl ffordd i'r nefoedd. | |
Ezra | WelBeibl | 9:7 | Dŷn ni wedi pechu o ddyddiau'n hynafiaid hyd heddiw. A dyna pam dŷn ni, a'n brenhinoedd a'n hoffeiriaid wedi cael ein cam-drin gan frenhinoedd gwledydd eraill – wedi colli brwydrau, cael ein cymryd yn gaethion, colli popeth a chael ein cywilyddio. A dyna sut mae hi arnon ni heddiw. | |
Ezra | WelBeibl | 9:8 | Ond nawr, yn ddiweddar, rwyt ti ARGLWYDD ein Duw wedi bod yn garedig aton ni. Ti wedi gadael i rai ohonon ni ddod yn ôl, ac wedi gadael i ni setlo i lawr yn dy ddinas sanctaidd. Ti wedi'n gwneud ni'n wirioneddol hapus, ac wedi'n rhyddhau ni o'n caethiwed. | |
Ezra | WelBeibl | 9:9 | Roedden ni'n gaeth, ond wnest ti ddim ein gadael ni'n gaeth. Ti wedi gwneud i frenhinoedd Persia fod yn garedig aton ni. Ti wedi rhoi bywyd newydd i ni, a chyfle i ailadeiladu teml ein Duw, a dod yn ôl i fyw yn saff yn Jwda a Jerwsalem. | |
Ezra | WelBeibl | 9:10 | Ond nawr, beth allwn ni ei ddweud, O Dduw? Dŷn ni wedi gwrthod gwrando ar beth roeddet ti'n ddweud | |
Ezra | WelBeibl | 9:11 | drwy dy weision y proffwydi. Roedden nhw wedi dweud wrthon ni: ‘Mae'r tir dych chi'n mynd iddo wedi'i lygru gan arferion drwg y bobl sy'n byw yno. Maen nhw wedi llenwi'r wlad gyda'r pethau ffiaidd maen nhw'n eu gwneud. | |
Ezra | WelBeibl | 9:12 | Felly peidiwch gadael i'ch plant briodi eu plant nhw. Peidiwch gwneud dim i'w helpu nhw i lwyddo a ffynnu. Wedyn byddwch chi'n gryf, ac yn mwynhau holl gynnyrch da'r tir, a byddwch yn gallu pasio'r cwbl ymlaen i'ch disgynyddion am byth.’ | |
Ezra | WelBeibl | 9:13 | Mae'r cwbl sydd wedi digwydd i ni yn ganlyniad yr holl ddrwg dŷn ni wedi'i wneud. Ac eto, ein Duw, wnest ti mo'n cosbi ni gymaint ag oedden ni'n ei haeddu, gan dy fod wedi dod â rhai ohonon ni yn ôl. | |
Ezra | WelBeibl | 9:14 | Felly ydyn ni'n mynd i dorri dy orchmynion di eto, a chymysgu drwy briodas gyda'r bobl yma sy'n gwneud pethau mor ffiaidd? Fyddai hynny ddim yn gwneud i ti ddigio cymaint gyda ni nes ein difetha ni'n llwyr, a gadael neb ar ôl? | |