Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZRA
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10
Prev Up Next
Chapter 1
Ezra WelBeibl 1:1  Llai na blwyddyn ar ôl i Cyrus ddod yn frenin Persia, dyma'r ARGLWYDD yn gwneud beth wnaeth e addo drwy Jeremeia. Dyma fe'n ysgogi Cyrus i anfon datganiad allan drwy'r deyrnas i gyd. Dyma'r datganiad:
Ezra WelBeibl 1:2  “Dyma mae Cyrus, brenin Persia yn ei ddweud. ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, wedi rhoi teyrnasoedd y byd i gyd i mi. Ac mae e wedi gorchymyn i mi adeiladu teml iddo yn Jerwsalem yn Jwda.
Ezra WelBeibl 1:3  Os ydych chi'n perthyn i'w bobl cewch fynd yn ôl i Jerwsalem i adeiladu teml yno i'r ARGLWYDD, Duw Israel – sef y duw sydd yn Jerwsalem. A Duw fyddo gyda chi!
Ezra WelBeibl 1:4  Dylai pawb arall, sy'n aros lle rydych chi, helpu'r rhai sy'n mynd yn ôl, drwy roi arian ac aur, cyfarpar ac anifeiliaid iddyn nhw. Hefyd offrymau gwirfoddol ar gyfer teml Dduw yn Jerwsalem.’”
Ezra WelBeibl 1:5  Felly dyma arweinwyr llwythau Jwda a Benjamin a'r offeiriaid a'r Lefiaid yn paratoi i fynd yn ôl – pawb oedd wedi'u hysbrydoli gan Dduw i fynd i adeiladu teml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem.
Ezra WelBeibl 1:6  Ac roedd eu cymdogion i gyd yn eu helpu nhw, drwy roi llestri o arian ac aur iddyn nhw, cyfarpar, anifeiliaid, a lot fawr o anrhegion drud eraill, heb sôn am yr offrymau gwirfoddol.
Ezra WelBeibl 1:7  Yna dyma'r Brenin Cyrus yn dod â'r holl lestri oedd Nebwchadnesar wedi'u cymryd o deml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem i'w gosod yn nheml ei dduw ei hun.
Ezra WelBeibl 1:8  Rhoddodd nhw i Mithredath, ei drysorydd, a'i gael i gyfri'r cwbl a'u cyflwyno i Sheshbatsar, pennaeth Jwda,
Ezra WelBeibl 1:9  Dyma'r rhestr o eitemau: – 30 dysgl aur – 1,000 o ddysglau arian – 29 eitem arall o arian – 30 powlen aur – 410 o bowlenni arian gwahanol – 1,000 o lestri eraill
Ezra WelBeibl 1:10  Dyma'r rhestr o eitemau: – 30 dysgl aur – 1,000 o ddysglau arian – 29 eitem arall o arian – 30 powlen aur – 410 o bowlenni arian gwahanol – 1,000 o lestri eraill
Ezra WelBeibl 1:11  Felly cyfanswm y llestri aur ac arian oedd 5,400. Daeth Sheshbatsar â nhw i gyd i Jerwsalem pan ddaeth y caethion yn ôl o Babilon.