Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZRA
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 7
Ezra WelBeibl 7:1  Flynyddoedd wedyn, pan oedd Artaxerxes yn frenin Persia, dyma Esra yn symud i Jerwsalem o Babilon. (Esra oedd mab Seraia ac ŵyr Asareia fab Chilceia,
Ezra WelBeibl 7:2  ac roedd ei deulu yn ymestyn yn ôl drwy Shalwm, Sadoc, Achitwf,
Ezra WelBeibl 7:5  Afishŵa, Phineas ac Eleasar, i Aaron y prif-offeiriad.)
Ezra WelBeibl 7:6  Hwn oedd yr Esra ddaeth yn ôl o Babilon. Roedd yn arbenigwr yn y Gyfraith roddodd yr ARGLWYDD, Duw Israel, i Moses. Roedd y Brenin Artaxerxes wedi rhoi iddo bopeth roedd wedi gofyn amdano, am fod llaw yr ARGLWYDD ei Dduw arno.
Ezra WelBeibl 7:7  Yn ystod seithfed flwyddyn teyrnasiad y Brenin Artaxerxes, dyma Esra yn arwain rhai o bobl Israel yn ôl i Jerwsalem (gan gynnwys rhai o'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau, a gweision y deml).
Ezra WelBeibl 7:8  Cyrhaeddodd Jerwsalem yn y pumed mis o'r flwyddyn honno.
Ezra WelBeibl 7:9  Roedd wedi trefnu i ddechrau'r daith ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn, ac wedi cyrraedd Jerwsalem ar ddiwrnod cynta'r pumed mis. Roedd Duw gydag e.
Ezra WelBeibl 7:10  Roedd Esra yn ddyn oedd wedi rhoi ei fywyd i astudio cyfraith yr ARGLWYDD, i'w chadw, ac i ddysgu beth oedd ei gofynion i bobl Israel.
Ezra WelBeibl 7:11  Dyma gopi o'r llythyr roddodd y Brenin Artaxerxes i Esra yr offeiriad oedd yn arbenigwr yn y Gyfraith (sef gorchmynion yr ARGLWYDD a'i ganllawiau i Israel):
Ezra WelBeibl 7:12  “Artaxerxes, sy'n frenin ar frenhinoedd, At Esra, yr offeiriad a'r arbenigwr yn y Gyfraith mae Duw'r nefoedd wedi'i rhoi i ni. Cyfarchion!
Ezra WelBeibl 7:13  Rwyf wedi rhoi gorchymyn yn dweud fod unrhyw un o bobl Israel sy'n byw yn y deyrnas, ac eisiau mynd gyda ti i Jerwsalem i gael gwneud hynny – hyd yn oed offeiriaid a Lefiaid.
Ezra WelBeibl 7:14  Mae'r brenin, a'i saith cynghorwr, yn dy awdurdodi di i gynnal ymchwiliad i weld os ydy cyfraith dy Dduw yn cael ei chadw.
Ezra WelBeibl 7:15  Rwyt hefyd i fynd ag arian ac aur gyda ti. Mae'r brenin a'i gynghorwyr am roi offrwm gwirfoddol i Dduw Israel sy'n byw yn Jerwsalem.
Ezra WelBeibl 7:16  Hefyd cei fynd a'r holl arian a'r aur fyddi wedi llwyddo i'w gasglu gan dy bobl dy hun a'r offeiriaid sy'n byw yma yn nhalaith Babilon, ac sydd eisiau cyfrannu at deml eu Duw yn Jerwsalem.
Ezra WelBeibl 7:17  Mae'r arian yma i'w ddefnyddio i brynu teirw, hyrddod, ŵyn, a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda nhw. Dos â nhw at allor teml dy Dduw yn Jerwsalem.
Ezra WelBeibl 7:18  Wedyn gelli ddefnyddio unrhyw arian ac aur sy'n weddill i wneud beth bynnag wyt ti a dy gyd-offeiriaid yn ei feddwl sydd orau – beth bynnag wyt ti'n feddwl mae dy Dduw eisiau.
Ezra WelBeibl 7:19  Dos â'r llestri sydd wedi'u rhoi i ti ar gyfer gwasanaeth y deml, a'u rhoi nhw i dy Dduw yn Jerwsalem.
Ezra WelBeibl 7:20  Ac os oes rhywbeth arall sydd ei angen i'r deml, gelli gymryd yr arian i dalu amdano o'r trysordy brenhinol.
Ezra WelBeibl 7:21  Dw i, y Brenin Artaxerxes, yn gorchymyn penaethiaid trysordai Traws-Ewffrates i roi i Esra'r offeiriad (yr arbenigwr yng Nghyfraith Duw'r nefoedd) beth bynnag mae'n gofyn amdano.
Ezra WelBeibl 7:22  Gallwch roi iddo hyd at dair tunnell a hanner o arian, 10 tunnell o wenith, 2,000 litr o win, 2,000 litr o olew olewydd, a faint bynnag o halen mae'n gofyn amdano.
Ezra WelBeibl 7:23  Dylid rhoi i'r deml, beth bynnag mae Duw'r nefoedd eisiau. Dw i ddim eisiau iddo ddigio gydag Ymerodraeth y brenin a'i feibion.
Ezra WelBeibl 7:24  Hefyd, dw i eisiau i chi ddeall fod gynnoch chi ddim awdurdod i godi trethi na thollau o unrhyw fath ar yr offeiriaid, y Lefiaid, y cerddorion, y porthorion, gweision y deml nac unrhyw un arall sy'n gofalu am deml y Duw yma.
Ezra WelBeibl 7:25  Yna ti, Esra. Defnyddia'r ddoethineb mae dy Dduw wedi'i rhoi i ti i ddewis barnwyr a swyddogion llys. Wedyn byddan nhw'n gallu delio gydag achosion y bobl hynny yn rhanbarth Traws-Ewffrates sy'n gyfarwydd â chyfraith dy Dduw; a dylid hyfforddi'r rhai hynny sydd ddim yn gwybod y Gyfraith.
Ezra WelBeibl 7:26  Bydd unrhyw un sy'n torri cyfraith dy Dduw a chyfreithiau'r brenin yn cael eu cosbi gyda'r ddedfryd briodol – cael eu dienyddio, cael eu halltudio, colli eu heiddo neu gael eu carcharu.”
Ezra WelBeibl 7:27  Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, sydd wedi gwneud i'r brenin fod eisiau cefnogi'r deml yn Jerwsalem!
Ezra WelBeibl 7:28  Mae wedi peri i'r brenin, ei gynghorwyr, a'i swyddogion pwysig eraill, fod mor garedig tuag ata i. Rôn i'n teimlo'n fwy a mwy hyderus wrth weld fod llaw yr ARGLWYDD arna i. A dyma fi'n casglu nifer o arweinwyr pobl Israel i fynd i Jerwsalem gyda mi.