Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZRA
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 4
Ezra WelBeibl 4:1  Pan ddeallodd gelynion pobl Jwda a Benjamin fod y rhai ddaeth yn ôl o'r gaethglud wedi dechrau ailadeiladu teml i'r ARGLWYDD, Duw Israel,
Ezra WelBeibl 4:2  dyma nhw'n mynd at Serwbabel a'r arweinwyr eraill, a dweud, “Gadewch i ni'ch helpu chi. Dŷn ni wedi bod yn addoli eich Duw chi ac yn aberthu iddo ers i Esar-chadon, brenin Asyria, ein symud ni yma.”
Ezra WelBeibl 4:3  Ond dyma Serwbabel, Ieshŵa ac arweinwyr eraill Israel yn ateb, “Na, gewch chi ddim helpu i adeiladu teml i'n Duw ni. Ni sy'n mynd i'w hadeiladu ein hunain, i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Mae Cyrus, brenin Persia, wedi gorchymyn i ni wneud hynny.”
Ezra WelBeibl 4:4  Yna dyma'r bobl leol yn dechrau creu trafferthion i bobl Jwda a gwneud iddyn nhw ddechrau colli plwc.
Ezra WelBeibl 4:5  Roedden nhw'n breibio swyddogion y llywodraeth i achosi problemau a rhwystro'r gwaith rhag mynd yn ei flaen. Roedd hyn yn digwydd yr holl flynyddoedd y bu Cyrus yn frenin Persia, hyd gyfnod y Brenin Dareius.
Ezra WelBeibl 4:6  Pan ddaeth Ahasferus yn frenin dyma nhw'n dod â cyhuddiad arall yn erbyn pobl Jwda a Jerwsalem.
Ezra WelBeibl 4:7  Ac wedyn pan oedd Artaxerxes yn frenin ar Persia, dyma Bishlam, Mithredath, Tafél a'u cydweithwyr, yn ysgrifennu ato fe. Roedd y llythyr wedi'i ysgrifennu yn Aramaeg, ac yna ei gyfieithu.
Ezra WelBeibl 4:8  Dyma oedd y llythyr am Jerwsalem yn ei ddweud – wedi'i anfon at y Brenin Artaxerxes gan Rechwm yr uwch-swyddog a Shimshai yr ysgrifennydd:
Ezra WelBeibl 4:9  “Llythyr oddi wrth Rechwm yr uwch-swyddog, Shimshai yr ysgrifennydd, a'u cydweithwyr – yn farnwyr, arolygwyr, swyddogion, ac ysgrifenyddion. Hefyd pobl Erech, Babilon, a Shwshan (sef yr Elamiaid),
Ezra WelBeibl 4:10  a phawb arall gafodd eu symud i fyw yn Samaria a threfi Traws-Ewffrates gan y brenin mawr ac enwog, Ashwrbanipal.”
Ezra WelBeibl 4:11  (Mae hwn yn gopi o'r llythyr gafodd ei anfon:) “At y Brenin Artaxerxes, oddi wrth dy weision yn Traws-Ewffrates.
Ezra WelBeibl 4:12  Dylai'r brenin wybod fod yr Iddewon ddaeth aton ni yma oddi wrthoch chi wedi mynd i Jerwsalem, ac maen nhw'n ailadeiladu'r ddinas wrthryfelgar, afiach yna. Maen nhw bron â gorffen y waliau, ac yn trwsio ei sylfeini.
Ezra WelBeibl 4:13  A dylai'r brenin sylweddoli y bydd ar ei golled os bydd y gwaith yma'n cael ei orffen. Fydd dim mwy o drethi na thollau yn cael eu talu ganddyn nhw wedyn!
Ezra WelBeibl 4:14  Fel rhai sy'n deyrngar i'r brenin, fydden ni ddim eisiau i'r brenin gael ei ddifrïo. Roedden ni eisiau iddo wybod am hyn,
Ezra WelBeibl 4:15  er mwyn iddo orchymyn archwilio cofnodion ei ragflaenwyr. Bydd e'n darganfod wedyn fod Jerwsalem wedi achosi dim byd ond trwbwl i frenhinoedd a thaleithiau. Mae un helynt ar ôl y llall wedi codi o'i mewn o'r dechrau. A dyna'n union pam cafodd y ddinas ei dinistrio!
Ezra WelBeibl 4:16  Felly, dŷn ni eisiau rhybuddio'r brenin, os bydd y ddinas yma'n cael ei hailadeiladu, a'r waliau yn cael eu gorffen, fydd e ddim yn gallu cadw rheolaeth ar y rhan yma o'i deyrnas yn Traws-Ewffrates.”
Ezra WelBeibl 4:17  A dyma'r brenin yn anfon yr ateb yma: “At Rechwm yr uwch-swyddog, Shimshai yr ysgrifennydd, a'u cydweithwyr yn Samaria a'r rhannau eraill o Traws-Ewffrates: Cyfarchion!
Ezra WelBeibl 4:18  Cafodd y llythyr wnaethoch chi ei anfon aton ni ei gyfieithu a'i ddarllen o mlaen i.
Ezra WelBeibl 4:19  Felly dyma fi'n gorchymyn edrych i mewn i'r mater, a mae'n wir fod pobl y ddinas yma wedi achosi helynt i frenhinoedd o'r dechrau.
Ezra WelBeibl 4:20  Mae brenhinoedd pwerus wedi bod yn teyrnasu dros Jerwsalem ac ardal gyfan Traws-Ewffrates, ac wedi bod yn derbyn trethi a thollau.
Ezra WelBeibl 4:21  Felly dw i am i chi orchymyn fod y gwaith i stopio, ac na ddylai'r ddinas gael ei hailadeiladu nes bydda i wedi dweud fel arall.
Ezra WelBeibl 4:22  Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud hyn. Dŷn ni ddim eisiau i'r frenhiniaeth fod ar ei cholled.”
Ezra WelBeibl 4:23  Yn syth ar ôl i lythyr y Brenin Artaxerxes gael ei ddarllen i Rechwm, Shimshai a'u cydweithwyr, dyma nhw'n brysio draw at yr Iddewon yn Jerwsalem. Roedden nhw'n bygwth ymyrraeth filwrol os nad oedd y gwaith yn stopio.
Ezra WelBeibl 4:24  Felly roedd y gwaith o ailadeiladu teml Dduw yn Jerwsalem wedi dod i stop. Wnaeth y gwaith ddim ailddechrau hyd ail flwyddyn teyrnasiad y Brenin Dareius o Persia.