HOSEA
Chapter 3
| Hose | WelBeibl | 3:1 | Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Dos, a dangos gariad at dy wraig eto, er bod ganddi gariad arall a'i bod yn anffyddlon i ti. Dyna'n union fel mae'r ARGLWYDD yn caru pobl Israel, er eu bod nhw'n troi at eilun-dduwiau ac yn offrymu teisennau ffrwyth melys iddyn nhw.” | |
| Hose | WelBeibl | 3:2 | Felly dyma fi'n mynd a thalu un deg pump darn arian a chan cilogram o haidd amdani. | |
| Hose | WelBeibl | 3:3 | A dyma fi'n dweud wrthi, “O hyn allan ti'n mynd i aros gyda mi. Ti ddim i weithio fel putain na chael rhyw gydag unrhyw ddyn, hyd yn oed gyda fi.” | |
| Hose | WelBeibl | 3:4 | Mae pobl Israel yn mynd i fod am amser hir heb frenin nac arweinydd eu hunain, heb fedru aberthu, heb golofnau cysegredig, heb arweiniad offeiriad nac eilun-ddelwau teuluol. | |