HOSEA
Chapter 14
Hose | WelBeibl | 14:2 | Siarad gydag e. Tro yn ôl ato, a dweud, “Maddau'n llwyr i ni am ein drygioni. Derbyn ein gweddi o gyffes. Derbyn ein mawl fel offrwm i ti. | |
Hose | WelBeibl | 14:3 | Dydy Asyria ddim yn gallu'n hachub. Wnawn ni ddim marchogaeth i ryfel. Wnawn ni ddim galw ‛ein duwiau‛ ar y delwau wnaethon ni byth eto. ARGLWYDD, dim ond ti sy'n garedig at yr amddifad!” | |
Hose | WelBeibl | 14:4 | “Dw i'n mynd i'w gwella o'u gwrthgilio, a'u caru nhw'n ddiamod. Dw i'n mynd i droi cefn ar fy llid. | |
Hose | WelBeibl | 14:5 | Bydda i fel gwlith i Israel – bydd hi'n blodeuo fel saffrwn, a bydd ganddi wreiddiau dwfn fel coed Libanus. | |
Hose | WelBeibl | 14:6 | Bydd ei blagur yn tyfu; bydd yn hardd fel coeden olewydd, a bydd ei harogl yn hyfryd fel fforestydd Libanus. | |
Hose | WelBeibl | 14:7 | Bydd pobl yn byw eto dan ei chysgod. Bydd fel ŷd yn tyfu neu winwydden yn lledu; bydd yn enwog fel gwin Libanus. | |
Hose | WelBeibl | 14:8 | Fydd gan Effraim ddim i'w wneud ag eilunod byth eto! Bydda i'n ateb ei weddi ac yn gofalu amdano. Dw i fel coeden binwydd fytholwyrdd, bydda i'n rhoi ffrwyth i chi drwy'r flwyddyn.” | |