HOSEA
Chapter 13
Hose | WelBeibl | 13:1 | Pan oedd llwyth Effraim yn siarad roedd pawb yn crynu – roedd pawb yn ei barchu yn Israel. Ond buont ar fai yn addoli Baal, a dyna oedd eu diwedd. | |
Hose | WelBeibl | 13:2 | Ac maen nhw'n dal i bechu! Maen nhw wedi gwneud delwau o fetel tawdd; eilunod cywrain wedi'u gwneud o arian – ond dim ond gwaith llaw crefftwyr ydy'r cwbl! Mae yna ddywediad amdanyn nhw: “Mae'r bobl sy'n aberthu yn cusanu teirw!” | |
Hose | WelBeibl | 13:3 | Byddan nhw wedi mynd fel tarth y bore, neu'r gwlith sy'n diflannu'n gynnar; fel us yn cael ei chwythu o'r llawr dyrnu, neu fwg sy'n dianc drwy ffenest. | |
Hose | WelBeibl | 13:4 | “Ond fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw, ers i chi ddod allan o wlad yr Aifft. Peidiwch arddel unrhyw dduw ond fi – Fi ydy'r unig un sy'n achub! | |
Hose | WelBeibl | 13:6 | Ond wedi'u bwydo, roedden nhw'n fodlon – mor fodlon nes iddyn nhw droi'n falch, ac yna fy anghofio i! | |
Hose | WelBeibl | 13:7 | Felly bydda i'n rhuthro arnyn nhw fel llew, ac yn llechian fel llewpard ar ochr y ffordd. | |
Hose | WelBeibl | 13:8 | Bydda i'n ymosod arnyn nhw fel arth wedi colli ei chenawon; a'u llarpio nhw fel llew, neu anifail gwyllt yn rhwygo'i ysglyfaeth. | |
Hose | WelBeibl | 13:10 | Ble mae dy frenin, iddo fe dy achub di? Ble mae'r arweinwyr yn dy drefi? Ti ofynnodd, ‘Rho frenin a swyddogion i mi’. | |
Hose | WelBeibl | 13:11 | Wel, rhois frenin i ti am fy mod yn ddig, a dw i wedi'i gipio i ffwrdd am fy mod yn fwy dig fyth! | |
Hose | WelBeibl | 13:13 | Bydd yn dod yn sydyn, fel poenau ar wraig sy'n cael babi; mae'r amser wedi dod, ac mae'r plentyn dwl yn gwrthod dod allan o'r groth, a byw. | |
Hose | WelBeibl | 13:14 | Ydw i'n mynd i'w hachub nhw o fyd y meirw? Ydw i'n mynd i'w rhyddhau o afael marwolaeth? O farwolaeth! Ble mae dy blâu di? O fedd! Ble mae dy ddinistr di? Fydda i'n dangos dim trugaredd!” | |
Hose | WelBeibl | 13:15 | Falle ei fod yn llwyddo fel brwyn mewn cors, ond bydd yr ARGLWYDD yn dod â gwynt poeth y dwyrain i fyny o gyfeiriad yr anialwch. Bydd y dŵr yn sychu, a'r ffynhonnau'n diflannu, a'r bwydydd yn y stordai yn cael eu difetha. | |