HOSEA
Chapter 4
Hose | WelBeibl | 4:1 | Bobl Israel, gwrandwch ar y neges sydd gan yr ARGLWYDD i chi! Mae'r ARGLWYDD yn dwyn achos yn erbyn pobl y wlad. Does yna neb sy'n ffyddlon, neb sy'n garedig, neb sy'n nabod Duw go iawn. | |
Hose | WelBeibl | 4:2 | Ond mae yna ddigon o regi, twyllo, llofruddio, dwyn a godinebu! Mae yna drais ym mhobman! | |
Hose | WelBeibl | 4:3 | A dyna pam fydd y wlad yn methu a'i phobl yn mynd yn wan. Bydd hyd yn oed yr anifeiliaid gwyllt a'r adar a'r pysgod yn diflannu! | |
Hose | WelBeibl | 4:4 | Peidiwch pwyntio'r bys at bobl eraill, a rhoi'r bai arnyn nhw. Mae fy achos yn eich erbyn chi offeiriaid! | |
Hose | WelBeibl | 4:5 | Byddwch yn baglu yng ngolau dydd, a bydd eich proffwydi ffals yn baglu gyda chi yn y nos. Bydd dychryn yn eich dinistrio! | |
Hose | WelBeibl | 4:6 | Mae fy mhobl yn cael eu dinistrio am nad ydyn nhw'n fy nabod i. Dych chi offeiriaid ddim eisiau fy nabod i, felly dw i ddim eisiau chi yn offeiriaid. Dych chi wedi gwrthod dysgeidiaeth eich Duw felly dw i'n mynd i wrthod eich plant chi. | |
Hose | WelBeibl | 4:7 | Wrth i'r offeiriaid ennill mwy a mwy o gyfoeth maen nhw'n pechu mwy yn fy erbyn i – cyfnewid yr Un Gwych am beth gwarthus! | |
Hose | WelBeibl | 4:9 | Ac mae'r bobl yn gwneud yr un fath â'r offeiriaid – felly bydda i'n eu cosbi nhw i gyd am y drwg; talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi'i wneud. | |
Hose | WelBeibl | 4:10 | Byddan nhw'n bwyta, ond byth yn cael digon. Byddan nhw'n cael rhyw, ond ddim yn cael plant. Maen nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD a bwrw ati i buteinio. | |
Hose | WelBeibl | 4:12 | Maen nhw'n troi at ddarn o bren am help, a disgwyl ateb gan ffon hud rhyw swynwr! Mae'r obsesiwn am ryw wedi gwneud iddyn nhw golli'r ffordd, ac maen nhw'n puteinio eu hunain i ffwrdd oddi wrth eu Duw. | |
Hose | WelBeibl | 4:13 | Maen nhw'n aberthu ar gopa'r mynyddoedd, a llosgi arogldarth ar ben y bryniau – dan gysgod hyfryd rhyw dderwen, coeden boplys neu derebinth. A'r canlyniad? Mae eich merched yn buteiniaid, a'ch merched-yng-nghyfraith yn godinebu! | |
Hose | WelBeibl | 4:14 | Ond pam ddylwn i gosbi dy ferched am buteinio, a'th ferched-yng-nghyfraith am odinebu? Mae'r dynion yr un fath! – yn ‛addoli‛ gyda hwren, ac yn aberthu gyda phutain teml! ‘Bydd pobl ddwl yn mynd i ddistryw!’ | |
Hose | WelBeibl | 4:15 | Er dy fod ti, O Israel, yn godinebu, boed i Jwda osgoi pechu. Paid mynd i gysegr Gilgal! Paid mynd i fyny i Beth-afen! Paid tyngu llw, “Fel mae'r ARGLWYDD yn fyw …” | |
Hose | WelBeibl | 4:16 | Mae Israel anufudd yn ystyfnig fel mul! Cyn bo hir bydd yr ARGLWYDD yn ei gyrru allan i bori, a bydd fel oen bach ar dir agored! | |
Hose | WelBeibl | 4:18 | Ar ôl yfed yn drwm nes bod dim diod ar ôl, maen nhw'n troi at buteiniaid cwltig ac yn joio eu mochyndra digywilydd! | |