HOSEA
Chapter 11
Hose | WelBeibl | 11:2 | Ond po fwya roeddwn i'n galw, pellaf roedden nhw'n mynd. Roedden nhw'n aberthu i ddelwau o Baal, a llosgi arogldarth i eilunod. | |
Hose | WelBeibl | 11:3 | Fi ddysgodd Effraim i gerdded; a'i arwain gerfydd ei law. Ond wnaeth ei bobl ddim cydnabod mai fi ofalodd amdanynt. | |
Hose | WelBeibl | 11:4 | Fi wnaeth eu harwain gyda thennyn lledr – tennyn cariad. Fi gododd yr iau oddi ar eu gwddf, a fi wnaeth blygu i'w bwydo. | |
Hose | WelBeibl | 11:5 | Byddan nhw'n mynd yn ôl i'r Aifft! Bydd Asyria'n eu rheoli, am iddyn nhw wrthod troi'n ôl ata i. | |
Hose | WelBeibl | 11:6 | Bydd cleddyf yn fflachio'n eu trefi. Bydd y gelyn yn malu'r giatiau, a'u lladd er gwaetha'u cynlluniau. | |
Hose | WelBeibl | 11:7 | Mae fy mhobl yn mynnu troi cefn arna i. Maen nhw'n galw ar Baal, ond fydd e byth yn eu helpu nhw! | |
Hose | WelBeibl | 11:8 | Sut alla i dy roi heibio, Effraim? Ydw i'n mynd i adael i ti fynd, Israel? Sut alla i dy roi heibio fel Adma? Ydw i'n mynd i dy drin fel Seboïm? Na, dw i wedi newid fy meddwl! Mae tosturi wedi cynnau'n fy nghalon. | |
Hose | WelBeibl | 11:9 | Alla i ddim gadael llonydd i'm llid losgi. Alla i ddim dinistrio Effraim yn llwyr! Duw ydw i, nid dyn fel chi, yr Un Sanctaidd – dw i ddim am ddod i ddinistrio. | |
Hose | WelBeibl | 11:10 | Bydd yr ARGLWYDD yn rhuo fel llew, a byddan nhw'n ei ddilyn eto. Pan fydd e'n rhuo, bydd ei blant yn dod o'r gorllewin yn llawn cyffro. | |
Hose | WelBeibl | 11:11 | Dod ar frys fel adar o'r Aifft, neu golomennod yn hedfan o Asyria. “Bydda i'n eu casglu nhw'n ôl i'w cartrefi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |