Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
HOSEA
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14
Prev Up Next
Chapter 10
Hose WelBeibl 10:1  Roedd Israel fel gwinwydden iach a'i ffrwyth yn drwm ar ei changhennau. Ond po fwya o ffrwyth gafwyd, mwya o allorau a godwyd. Wrth i gnydau'r tir lwyddo byddai'r colofnau cysegredig yn cael eu haddurno.
Hose WelBeibl 10:2  Maen nhw'n rhagrithio, felly byddan nhw'n cael eu cosbi. Bydd yr ARGLWYDD ei hun yn chwalu'r allorau ac yn malu'r colofnau.
Hose WelBeibl 10:3  Yn fuan iawn byddan nhw'n cyfaddef, “Does dim brenin am ein bod heb barchu'r ARGLWYDD. Ond beth wnaeth brenin i ni beth bynnag?”
Hose WelBeibl 10:4  Maen nhw'n llawn geiriau gwag, addewidion wedi'u torri, a chytundebau diwerth. Mae achosion llys yn lledu fel chwyn gwenwynig mewn cae wedi'i aredig.
Hose WelBeibl 10:5  Bydd pobl Samaria yn ofni beth ddigwydd i lo Beth-afen. Bydd y bobl yn galaru gyda'r offeiriaid ffals a fu'n dathlu, am fod ei ysblander wedi'i gipio,
Hose WelBeibl 10:6  a'i gario i Asyria yn anrheg i'r brenin mawr. Bydd Effraim yn destun sbort, ac Israel yn cywilyddio o achos yr eilun o bren.
Hose WelBeibl 10:7  Bydd Samaria'n cael ei dinistrio, a'i brenin yn cael ei gipio fel brigyn yn cael ei gario ar lif afon.
Hose WelBeibl 10:8  Bydd yr allorau paganaidd yn cael eu dinistrio – sef y lleoedd lle bu Israel yn pechu. Bydd drain ac ysgall yn tyfu dros yr allorau. Byddan nhw'n dweud wrth y mynyddoedd, “Cuddiwch ni!” ac wrth y bryniau, “Syrthiwch arnon ni!”
Hose WelBeibl 10:9  “Israel, ti wedi pechu ers y digwyddiad erchyll yn Gibea. A does dim byd wedi newid! Onid rhyfel oedd canlyniad yr holl ddrwg yn Gibea?
Hose WelBeibl 10:10  A dw i'n barod i gosbi eto. Dw i'n mynd i gasglu'r cenhedloedd i ymosod arnat ti a dy gymryd yn gaeth am y ddau bechod.
Hose WelBeibl 10:11  Roedd Effraim fel heffer wedi'i hyfforddi, ac wrth ei bodd yn sathru'r grawn. Ond dw i'n mynd i roi iau trwm ar ei gwddf, a gêr i wneud i Effraim aredig. Bydd rhaid i Jwda aredig a Jacob lyfnu'r tir ei hun!
Hose WelBeibl 10:12  Heuwch hadau cyfiawnder, a chewch gynhaeaf o gariad gen i. Trin tir eich calon galed – ceisio'r ARGLWYDD nes iddo ddod gyda chawodydd achubiaeth.
Hose WelBeibl 10:13  Ond rwyt wedi plannu drygioni, a medi anghyfiawnder, ac yna bwyta ffrwyth y twyll. Ti wedi dibynnu ar gerbydau rhyfel, a phwyso ar faint dy fyddin.
Hose WelBeibl 10:14  Felly daw sŵn brwydro ar dy bobl, a bydd dy gaerau i gyd yn syrthio. Bydd fel y frwydr honno pan ddinistriodd y Brenin Shalman Beth-arbel, a'r mamau'n cael eu curo i farwolaeth gyda'u plant.
Hose WelBeibl 10:15  Dyna fydd yn digwydd i ti, Bethel, am wneud cymaint o ddrwg! Pan fydd y diwrnod hwnnw'n gwawrio, bydd brenin Israel wedi mynd am byth.”