HOSEA
Chapter 10
Hose | WelBeibl | 10:1 | Roedd Israel fel gwinwydden iach a'i ffrwyth yn drwm ar ei changhennau. Ond po fwya o ffrwyth gafwyd, mwya o allorau a godwyd. Wrth i gnydau'r tir lwyddo byddai'r colofnau cysegredig yn cael eu haddurno. | |
Hose | WelBeibl | 10:2 | Maen nhw'n rhagrithio, felly byddan nhw'n cael eu cosbi. Bydd yr ARGLWYDD ei hun yn chwalu'r allorau ac yn malu'r colofnau. | |
Hose | WelBeibl | 10:3 | Yn fuan iawn byddan nhw'n cyfaddef, “Does dim brenin am ein bod heb barchu'r ARGLWYDD. Ond beth wnaeth brenin i ni beth bynnag?” | |
Hose | WelBeibl | 10:4 | Maen nhw'n llawn geiriau gwag, addewidion wedi'u torri, a chytundebau diwerth. Mae achosion llys yn lledu fel chwyn gwenwynig mewn cae wedi'i aredig. | |
Hose | WelBeibl | 10:5 | Bydd pobl Samaria yn ofni beth ddigwydd i lo Beth-afen. Bydd y bobl yn galaru gyda'r offeiriaid ffals a fu'n dathlu, am fod ei ysblander wedi'i gipio, | |
Hose | WelBeibl | 10:6 | a'i gario i Asyria yn anrheg i'r brenin mawr. Bydd Effraim yn destun sbort, ac Israel yn cywilyddio o achos yr eilun o bren. | |
Hose | WelBeibl | 10:7 | Bydd Samaria'n cael ei dinistrio, a'i brenin yn cael ei gipio fel brigyn yn cael ei gario ar lif afon. | |
Hose | WelBeibl | 10:8 | Bydd yr allorau paganaidd yn cael eu dinistrio – sef y lleoedd lle bu Israel yn pechu. Bydd drain ac ysgall yn tyfu dros yr allorau. Byddan nhw'n dweud wrth y mynyddoedd, “Cuddiwch ni!” ac wrth y bryniau, “Syrthiwch arnon ni!” | |
Hose | WelBeibl | 10:9 | “Israel, ti wedi pechu ers y digwyddiad erchyll yn Gibea. A does dim byd wedi newid! Onid rhyfel oedd canlyniad yr holl ddrwg yn Gibea? | |
Hose | WelBeibl | 10:10 | A dw i'n barod i gosbi eto. Dw i'n mynd i gasglu'r cenhedloedd i ymosod arnat ti a dy gymryd yn gaeth am y ddau bechod. | |
Hose | WelBeibl | 10:11 | Roedd Effraim fel heffer wedi'i hyfforddi, ac wrth ei bodd yn sathru'r grawn. Ond dw i'n mynd i roi iau trwm ar ei gwddf, a gêr i wneud i Effraim aredig. Bydd rhaid i Jwda aredig a Jacob lyfnu'r tir ei hun! | |
Hose | WelBeibl | 10:12 | Heuwch hadau cyfiawnder, a chewch gynhaeaf o gariad gen i. Trin tir eich calon galed – ceisio'r ARGLWYDD nes iddo ddod gyda chawodydd achubiaeth. | |
Hose | WelBeibl | 10:13 | Ond rwyt wedi plannu drygioni, a medi anghyfiawnder, ac yna bwyta ffrwyth y twyll. Ti wedi dibynnu ar gerbydau rhyfel, a phwyso ar faint dy fyddin. | |
Hose | WelBeibl | 10:14 | Felly daw sŵn brwydro ar dy bobl, a bydd dy gaerau i gyd yn syrthio. Bydd fel y frwydr honno pan ddinistriodd y Brenin Shalman Beth-arbel, a'r mamau'n cael eu curo i farwolaeth gyda'u plant. | |