DANIEL
Chapter 12
Dani | WelBeibl | 12:1 | Bryd hynny bydd Michael yn codi – yr arweinydd mawr sy'n gofalu am dy bobl. Bydd amser caled – gwaeth na dim mae'r wlad wedi'i brofi erioed o'r blaen. Ond bydd dy bobl di yn dianc – pawb sydd â'i henwau wedi'u hysgrifennu yn y llyfr. | |
Dani | WelBeibl | 12:2 | Bydd llawer o'r rhai sy'n gorwedd yn farw, wedi'u claddu ym mhridd y ddaear, yn deffro – rhai i fywyd tragwyddol ac eraill i gywilydd bodolaeth ffiaidd. | |
Dani | WelBeibl | 12:3 | Ond bydd y rhai doeth yn disgleirio fel golau dydd. Bydd y rhai sy'n arwain y werin bobl i fyw mewn perthynas iawn â Duw yn disgleirio fel sêr am byth bythoedd. | |
Dani | WelBeibl | 12:4 | “Rhaid i ti, Daniel, gadw'r neges yma'n gyfrinachol a selio'r sgrôl nes bydd y diwedd wedi dod. Bydd llawer yn rhuthro yma ac acw yn ceisio deall beth sy'n digwydd.” | |
Dani | WelBeibl | 12:6 | Dyma un ohonyn nhw'n dweud wrth y dyn oedd mewn gwisg o liain, oedd erbyn hyn yn sefyll uwchben yr afon, “Pryd mae'r pethau mawr yma'n mynd i ddigwydd?” | |
Dani | WelBeibl | 12:7 | A dyma'r dyn oedd mewn gwisg o liain ac yn sefyll uwchben yr afon, yn codi ei ddwy law i'r awyr ac yn tyngu ar lw i'r Un sy'n byw am byth: “Mae am gyfnod, dau gyfnod a hanner cyfnod. Wedyn pan fydd grym yr un sy'n sathru pobl gysegredig Duw wedi dod i ben bydd y diwedd wedi dod.” | |
Dani | WelBeibl | 12:8 | Rôn i wedi'i glywed, ond ddim yn deall. Felly dyma fi'n gofyn, “Syr, beth fydd yn digwydd yn y diwedd?” | |
Dani | WelBeibl | 12:9 | Atebodd, “Dos di, Daniel. Mae'r neges yma i'w gadw'n gyfrinachol ac wedi'i selio nes bydd y diwedd wedi dod. | |
Dani | WelBeibl | 12:10 | Bydd llawer o bobl yn cael eu puro, eu glanhau a'u coethi drwy'r cwbl. Ond bydd pobl ddrwg yn dal ati i wneud drwg. Fyddan nhw ddim yn deall. Dim ond y rhai doeth fydd yn deall beth sy'n digwydd. | |
Dani | WelBeibl | 12:11 | O'r amser pan fydd yr aberthu dyddiol yn cael ei stopio a'r eilun ffiaidd sy'n dinistrio yn cael ei godi yn ei le, mae mil dau gant naw deg o ddyddiau. | |
Dani | WelBeibl | 12:12 | Mae'r rhai sy'n disgwyl yn ffyddlon nes bydd mil tri chant tri deg pump o ddyddiau wedi mynd heibio wedi'u bendithio'n fawr. | |