DANIEL
Chapter 9
Dani | WelBeibl | 9:1 | Dyma Dareius o Media, mab Ahasferus, yn cael ei wneud yn frenin ar Ymerodraeth Babilon. | |
Dani | WelBeibl | 9:2 | Yn ystod blwyddyn gyntaf ei deyrnasiad roeddwn i, Daniel, wedi bod yn darllen yr ysgrifau sanctaidd. Dyma fi'n gweld fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrth y proffwyd Jeremeia y byddai Jerwsalem yn adfeilion am saith deg o flynyddoedd. | |
Dani | WelBeibl | 9:3 | Felly dyma fi'n troi at Dduw, y Meistr, a pledio arno mewn gweddi. Rôn i'n ymprydio, yn gwisgo sachliain, ac wedi rhoi lludw ar fy mhen. | |
Dani | WelBeibl | 9:4 | Rôn i'n gweddïo ar yr ARGLWYDD fy Nuw, a chyffesu, “O Feistr, plîs! Ti ydy'r Duw mawr a rhyfeddol! Ti'n Dduw ffyddlon sy'n cadw dy ymrwymiad i'r bobl sy'n dy garu ac sy'n ufudd i ti. | |
Dani | WelBeibl | 9:5 | Ond dŷn ni wedi pechu a gwneud beth sy'n ddrwg. Dŷn ni wedi gwrthryfela, ac wedi troi cefn ar dy orchmynion di a dy safonau di. | |
Dani | WelBeibl | 9:6 | Dŷn ni wedi gwrthod gwrando ar dy weision, y proffwydi. Roedden nhw wedi siarad ar dy ran di gyda'n brenhinoedd ni a'n harweinwyr, ein hynafiaid a'n pobl i gyd. | |
Dani | WelBeibl | 9:7 | “Feistr, rwyt ti wedi gwneud popeth yn iawn, ond does gynnon ni ddim ond lle i gywilyddio – pobl Jwda a Jerwsalem, pobl Israel i gyd – y bobl sydd ar chwâl drwy'r gwledydd lle rwyt ti wedi'u gyrru nhw am iddyn nhw dy fradychu di. | |
Dani | WelBeibl | 9:8 | O ARGLWYDD, cywilydd arnon ni! – cywilydd ar ein brenhinoedd a'n harweinwyr a'n hynafiaid i gyd. Dŷn ni wedi pechu yn dy erbyn di. | |
Dani | WelBeibl | 9:9 | Ond rwyt ti, ein Duw a'n Meistr ni, yn Dduw trugarog sy'n maddau, er ein bod ni wedi gwrthryfela yn dy erbyn. | |
Dani | WelBeibl | 9:10 | Wnaethon ni ddim talu sylw pan oeddet ti'n ein dysgu ni drwy dy weision y proffwydi, ac yn dweud wrthon ni sut ddylen ni fyw. | |
Dani | WelBeibl | 9:11 | “Mae pobl Israel i gyd wedi mynd yn rhy bell, ac wedi troi cefn arnat ti a diystyru beth roeddet ti'n ddweud. Felly mae'r felltith roeddet ti wedi'n rhybuddio ni amdani mor ddifrifol yng Nghyfraith Moses wedi digwydd, am ein bod ni wedi pechu yn dy erbyn di. | |
Dani | WelBeibl | 9:12 | Ti wedi gwneud beth roeddet ti wedi'i fygwth i ni a'n harweinwyr. Mae wedi bod yn drychineb ofnadwy. Does erioed y fath drwbwl wedi bod yn unman ag a ddigwyddodd yn Jerwsalem. | |
Dani | WelBeibl | 9:13 | Mae wedi digwydd yn union fel mae cyfraith Moses yn dweud. Ac eto dŷn ni ddim wedi gwneud pethau'n iawn gyda'r ARGLWYDD ein Duw drwy droi cefn ar ein pechod a chydnabod dy fod ti'n ffyddlon. | |
Dani | WelBeibl | 9:14 | Roedd yr ARGLWYDD yn gwybod beth roedd e'n wneud, a daeth â'r dinistr arnon ni. Mae popeth mae'r ARGLWYDD yn ei wneud yn iawn, a doedden ni ddim wedi gwrando arno. | |
Dani | WelBeibl | 9:15 | “Felly, o Dduw ein Meistr ni, sy'n enwog hyd heddiw am dy gryfder yn arwain dy bobl allan o wlad yr Aifft: dŷn ni wedi pechu a gwneud drwg. | |
Dani | WelBeibl | 9:16 | O Feistr, rwyt ti bob amser yn gwneud beth sy'n iawn; plîs stopia fod yn wyllt gyda dy ddinas, Jerwsalem, a'r mynydd rwyt wedi'i gysegru. Am ein bod ni wedi pechu, a'n hynafiaid wedi gwneud cymaint o ddrwg, dydy Jerwsalem a dy bobl di yn ddim byd ond testun sbort i bawb o'u cwmpas nhw! | |
Dani | WelBeibl | 9:17 | Felly, o Dduw, gwrando ar dy was yn pledio a gweddïo arnat ti. Er dy fwyn dy hun wnei di edrych yn garedig eto ar dy deml sydd wedi'i dinistrio. | |
Dani | WelBeibl | 9:18 | O Dduw, gwrando'n astud ar beth dw i'n ofyn. Edrych ar stad y ddinas yma sy'n cael ei chysylltu â dy enw di! Dŷn ni ddim yn gweddïo fel yma am ein bod ni'n honni ein bod wedi gwneud beth sy'n iawn, ond am dy fod ti mor anhygoel o drugarog. | |
Dani | WelBeibl | 9:19 | O Feistr, gwrando! O Feistr, maddau! O Feistr, edrych a gwna rywbeth! O Dduw, paid oedi – er dy fwyn dy hun! Er mwyn dy ddinas, a'r bobl sy'n cael eu cysylltu â dy enw di.” | |
Dani | WelBeibl | 9:20 | Rôn i'n dal ati i weddïo, a chyffesu fy mhechod a phechod fy mhobl Israel, ac yn pledio ar yr ARGLWYDD fy Nuw ar ran Jerwsalem a'r mynydd sydd wedi'i gysegru ganddo. | |
Dani | WelBeibl | 9:21 | A tra oeddwn i'n gweddïo dyma Gabriel, yr un oedd yn y weledigaeth arall pan oeddwn i wedi fy llethu'n llwyr, yn dod ata i tua amser offrwm yr hwyr. | |
Dani | WelBeibl | 9:23 | Cafodd yr ateb ei roi wrth i ti ddechrau gweddïo, a dw i wedi dod yma i'w rannu gyda ti. Rwyt ti'n sbesial iawn yng ngolwg Duw. Felly gwrando'n ofalus, i ti ddeall y weledigaeth. | |
Dani | WelBeibl | 9:24 | Mae saith deg cyfnod o saith wedi'u pennu i dy bobl a'r ddinas sanctaidd roi diwedd ar eu gwrthryfel. I ddod â'r pechu i ben, delio gyda drygioni a gwneud pethau'n iawn unwaith ac am byth. I gadarnhau y weledigaeth broffwydol, ac eneinio y Lle Mwyaf Sanctaidd. | |
Dani | WelBeibl | 9:25 | Felly rhaid i ti ddeall: O'r amser pan gafodd y gorchymyn ei roi i adfer ac ailadeiladu Jerwsalem nes daw un wedi'i eneinio yn arweinydd, bydd saith cyfnod o saith. Bydd y ddinas yn cael ei hadfer a'i hailadeiladu gyda strydoedd a ffosydd amddiffyn am chwe deg dau cyfnod o saith. Ond bydd hi'n amser caled, argyfyngus. | |
Dani | WelBeibl | 9:26 | Ar ôl y chwe deg dau cyfnod o saith, bydd yr un wedi'i eneinio yn cael ei dorri i ffwrdd, bydd heb ddim. Yna bydd y ddinas a'r deml yn cael eu dinistrio gan fyddin arweinydd arall sydd i ddod. Bydd y diwedd yn dod fel llif. Bydd rhyfela'n para i'r diwedd. Mae dinistr wedi'i gyhoeddi. | |