I PETER
Chapter 5
I Pe | WelBeibl | 5:1 | Gair i chi sy'n arweinwyr yn yr eglwys. (Dw i am eich annog chi fel un sy'n arweinydd fy hun, ac a welodd y Meseia'n dioddef. Bydda i hefyd yn rhannu ei ysblander pan ddaw i'r golwg!): | |
I Pe | WelBeibl | 5:2 | Gofalwch am bobl Dduw fel mae bugeiliaid yn gofalu am eu praidd. Gwnewch hynny'n frwd, dim am eich bod chi'n cael eich gorfodi i wneud, ond am mai dyna mae Duw eisiau. Ddim er mwyn gwneud arian, ond am eich bod yn awyddus i wasanaethu. | |
I Pe | WelBeibl | 5:3 | Peidiwch ei lordio hi dros y bobl sy'n eich gofal chi, ond eu harwain drwy fod yn esiampl dda iddyn nhw. | |
I Pe | WelBeibl | 5:4 | Wedyn pan fydd y Meseia, y Pen Bugail, yn dod yn ôl, cewch wobr fydd byth yn dod i ben: coron hardd sydd byth yn gwywo. | |
I Pe | WelBeibl | 5:5 | Ac wedyn chi'r rhai ifanc. Dylech chi fod yn atebol i'r arweinwyr hŷn. Dylai pob un ohonoch chi edrych ar ôl eich gilydd yn wylaidd. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Mae Duw yn gwrthwynebu pobl falch ond mae'n hael at y rhai gostyngedig.” | |
I Pe | WelBeibl | 5:6 | Os wnewch chi blygu i awdurdod Duw a chydnabod eich angen, pan ddaw'r amser bydd e'n eich anrhydeddu chi. | |
I Pe | WelBeibl | 5:7 | Rhowch y pethau dych chi'n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e'n gofalu amdanoch chi. | |
I Pe | WelBeibl | 5:8 | Gwyliwch eich hunain! Byddwch yn effro! Mae'ch gelyn chi, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo ac yn edrych am rywun i'w lyncu. | |
I Pe | WelBeibl | 5:9 | Safwch yn ei erbyn, a dal gafael yn beth dych chi'n ei gredu. Cofiwch fod eich cyd-Gristnogion drwy'r byd i gyd yn dioddef yr un fath. | |
I Pe | WelBeibl | 5:10 | Ond does ond rhaid i chi ddioddef am ychydig. Mae Duw, sydd mor anhygoel o hael, yn eich galw chi sy'n perthyn i'r Meseia i rannu ei ysblander tragwyddol. Bydd yn eich adfer chi, a'ch cryfhau chi, a'ch gwneud chi'n gadarn a sefydlog. | |
I Pe | WelBeibl | 5:12 | Dw i'n anfon y llythyr byr yma atoch chi drwy law Silas (un dw i'n ei ystyried yn frawd ffyddlon). Dw i wedi ceisio'ch annog chi, a thystio fod beth dw i wedi ysgrifennu amdano yn dangos haelioni gwirioneddol Duw. Felly safwch yn gadarn. | |
I Pe | WelBeibl | 5:13 | Mae'r gynulleidfa o bobl mae Duw wedi'u dewis yma yn Rhufain yn anfon eu cyfarchion atoch chi. Ac mae Marc, sydd fel mab i mi, yn cofio atoch chi hefyd. | |