Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I PETER
1 2 3 4 5
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 2
I Pe WelBeibl 2:1  Felly, rhaid i chi gael gwared â phopeth drwg o'ch bywydau – pob twyll, balchder dauwynebog, cenfigennu wrth eraill ac enllibio pobl.
I Pe WelBeibl 2:2  Yn lle gadael i bethau felly eich rheoli chi dylech chi fod yn crefu am y llaeth ysbrydol pur fydd yn gwneud i chi dyfu yn eich ffydd.
I Pe WelBeibl 2:3  Gan eich bod chi eisoes wedi cael blas ar mor dda ydy'r Arglwydd, dylech fod yr un fath â babi bach newydd ei eni sydd eisiau dim byd arall ond llaeth ei fam.
I Pe WelBeibl 2:4  Mae'r Arglwydd fel carreg sylfaen, ond un sy'n fyw. Dyma'r garreg gafodd ei gwrthod gan bobl, ond roedd wedi'i dewis gan Dduw ac yn werthfawr iawn yn ei olwg. Felly wrth i chi glosio at yr Arglwydd
I Pe WelBeibl 2:5  dych chi fel cerrig sy'n fyw ac yn anadlu, ac mae Duw yn eich defnyddio chi i adeiladu ei ‛deml‛ ysbrydol. A chi hefyd ydy'r offeiriaid sydd wedi cael eich dewis i gyflwyno aberthau ysbrydol i Dduw. Aberthau sy'n dderbyniol o achos beth wnaeth Iesu Grist.
I Pe WelBeibl 2:6  Dyma pam mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fel hyn: “Edrychwch! Dw i'n gosod yn Jerwsalem garreg sylfaen werthfawr sydd wedi'i dewis gen i. Fydd y sawl sy'n credu ynddo byth yn cael ei siomi.”
I Pe WelBeibl 2:7  Ydy, mae'r garreg yma'n werthfawr yn eich golwg chi sy'n credu. Ond i'r rhai sy'n gwrthod credu: “Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen,”
I Pe WelBeibl 2:8  Hon hefyd ydy'r “garreg sy'n baglu pobl a chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio.” Y rhai sy'n gwrthod gwneud beth mae Duw'n ei ddweud sy'n baglu. Dyna'n union oedd wedi'i drefnu ar eu cyfer nhw.
I Pe WelBeibl 2:9  Ond dych chi'n bobl sydd wedi'ch dewis yn offeiriaid i wasanaethu'r Brenin, yn genedl sanctaidd, yn bobl sy'n perthyn i Dduw. Eich lle chi ydy dangos i eraill mor wych ydy Duw, yr Un alwodd chi allan o'r tywyllwch i mewn i'w olau bendigedig.
I Pe WelBeibl 2:10  Ar un adeg doeddech chi'n neb o bwys, ond bellach chi ydy pobl Dduw. Ar un adeg doeddech chi ddim wedi profi trugaredd Duw, ond bellach dych wedi profi ei drugaredd.
I Pe WelBeibl 2:11  Ffrindiau annwyl, dim y byd yma ydy'ch cartref chi. Dych chi fel pobl ddieithr yma. Felly dw i'n apelio arnoch chi i wrthod gwneud beth mae'r chwantau naturiol am i chi ei wneud. Maen nhw'n brwydro yn erbyn beth sydd orau i ni.
I Pe WelBeibl 2:12  Dylech chi fyw bywydau da. Wedyn fydd pobl sydd ddim yn credu ddim yn gallu'ch cyhuddo chi o wneud drwg. Yn lle gwneud hynny byddan nhw'n gweld y pethau da dych chi'n eu gwneud ac yn dod i gredu. Byddan nhw'n canmol Duw ar y diwrnod hwnnw pan fydd yn dod atyn nhw.
I Pe WelBeibl 2:13  Dylech chi ddangos parch at bobl eraill, yn union fel y gwnaeth yr Arglwydd ei hun. Mae hyn yn cynnwys yr ymerawdwr sy'n teyrnasu dros y cwbl,
I Pe WelBeibl 2:14  a'r llywodraethwyr sydd wedi'u penodi ganddo i gosbi pobl sy'n gwneud drwg ac i ganmol y rhai sy'n gwneud da.
I Pe WelBeibl 2:15  (Mae Duw eisiau i chi wneud daioni i gau cegau'r bobl ffôl sy'n deall dim.)
I Pe WelBeibl 2:16  Dych chi'n rhydd, ond peidiwch defnyddio'ch rhyddid fel esgus i wneud drygioni. Dylech chi, sydd ddim ond yn gwasanaethu Duw,
I Pe WelBeibl 2:17  ddangos parch at bawb, caru eich cyd-Gristnogion, ofni Duw a pharchu'r ymerawdwr.
I Pe WelBeibl 2:18  Dylech chi sy'n gaethweision barchu eich meistri – nid dim ond os ydyn nhw'n feistri da a charedig, ond hyd yn oed os ydyn nhw'n greulon.
I Pe WelBeibl 2:19  Mae'n plesio Duw pan dych chi'n penderfynu bod yn barod i ddioddef hyd yn oed pan dych chi'n cael eich cam-drin.
I Pe WelBeibl 2:20  Does dim rheswm i ganmol rhywun am fodloni cael ei gosbi os ydy e wedi gwneud drwg. Ond os ydych chi'n fodlon dioddef er eich bod chi wedi gwneud y peth iawn, mae hynny'n plesio Duw.
I Pe WelBeibl 2:21  Dyna mae Duw wedi'ch galw chi i'w wneud. A'r esiampl i chi ei dilyn ydy'r Meseia yn dioddef yn eich lle chi:
I Pe WelBeibl 2:22  “Wnaeth e ddim pechu, a wnaeth e ddim twyllo neb.”
I Pe WelBeibl 2:23  Wnaeth e ddim ateb yn ôl pan oedd pobl yn ei regi a'i sarhau e; wnaeth e ddim bygwth unrhyw un pan oedd e'n dioddef. Yn lle hynny, gadawodd y mater yn nwylo Duw sydd bob amser yn barnu'n deg.
I Pe WelBeibl 2:24  Cariodd ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren, er mwyn i ni, a'n pechodau wedi mynd, allu byw i wneud beth sy'n iawn. Dych chi wedi cael eich iacháu am ei fod e wedi'i glwyfo!
I Pe WelBeibl 2:25  Roeddech chi'n arfer bod fel defaid wedi mynd ar goll, ond dych chi bellach wedi dod yn ôl at y Bugail sy'n gofalu amdanoch chi.