I PETER
Chapter 2
I Pe | WelBeibl | 2:1 | Felly, rhaid i chi gael gwared â phopeth drwg o'ch bywydau – pob twyll, balchder dauwynebog, cenfigennu wrth eraill ac enllibio pobl. | |
I Pe | WelBeibl | 2:2 | Yn lle gadael i bethau felly eich rheoli chi dylech chi fod yn crefu am y llaeth ysbrydol pur fydd yn gwneud i chi dyfu yn eich ffydd. | |
I Pe | WelBeibl | 2:3 | Gan eich bod chi eisoes wedi cael blas ar mor dda ydy'r Arglwydd, dylech fod yr un fath â babi bach newydd ei eni sydd eisiau dim byd arall ond llaeth ei fam. | |
I Pe | WelBeibl | 2:4 | Mae'r Arglwydd fel carreg sylfaen, ond un sy'n fyw. Dyma'r garreg gafodd ei gwrthod gan bobl, ond roedd wedi'i dewis gan Dduw ac yn werthfawr iawn yn ei olwg. Felly wrth i chi glosio at yr Arglwydd | |
I Pe | WelBeibl | 2:5 | dych chi fel cerrig sy'n fyw ac yn anadlu, ac mae Duw yn eich defnyddio chi i adeiladu ei ‛deml‛ ysbrydol. A chi hefyd ydy'r offeiriaid sydd wedi cael eich dewis i gyflwyno aberthau ysbrydol i Dduw. Aberthau sy'n dderbyniol o achos beth wnaeth Iesu Grist. | |
I Pe | WelBeibl | 2:6 | Dyma pam mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fel hyn: “Edrychwch! Dw i'n gosod yn Jerwsalem garreg sylfaen werthfawr sydd wedi'i dewis gen i. Fydd y sawl sy'n credu ynddo byth yn cael ei siomi.” | |
I Pe | WelBeibl | 2:7 | Ydy, mae'r garreg yma'n werthfawr yn eich golwg chi sy'n credu. Ond i'r rhai sy'n gwrthod credu: “Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen,” | |
I Pe | WelBeibl | 2:8 | Hon hefyd ydy'r “garreg sy'n baglu pobl a chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio.” Y rhai sy'n gwrthod gwneud beth mae Duw'n ei ddweud sy'n baglu. Dyna'n union oedd wedi'i drefnu ar eu cyfer nhw. | |
I Pe | WelBeibl | 2:9 | Ond dych chi'n bobl sydd wedi'ch dewis yn offeiriaid i wasanaethu'r Brenin, yn genedl sanctaidd, yn bobl sy'n perthyn i Dduw. Eich lle chi ydy dangos i eraill mor wych ydy Duw, yr Un alwodd chi allan o'r tywyllwch i mewn i'w olau bendigedig. | |
I Pe | WelBeibl | 2:10 | Ar un adeg doeddech chi'n neb o bwys, ond bellach chi ydy pobl Dduw. Ar un adeg doeddech chi ddim wedi profi trugaredd Duw, ond bellach dych wedi profi ei drugaredd. | |
I Pe | WelBeibl | 2:11 | Ffrindiau annwyl, dim y byd yma ydy'ch cartref chi. Dych chi fel pobl ddieithr yma. Felly dw i'n apelio arnoch chi i wrthod gwneud beth mae'r chwantau naturiol am i chi ei wneud. Maen nhw'n brwydro yn erbyn beth sydd orau i ni. | |
I Pe | WelBeibl | 2:12 | Dylech chi fyw bywydau da. Wedyn fydd pobl sydd ddim yn credu ddim yn gallu'ch cyhuddo chi o wneud drwg. Yn lle gwneud hynny byddan nhw'n gweld y pethau da dych chi'n eu gwneud ac yn dod i gredu. Byddan nhw'n canmol Duw ar y diwrnod hwnnw pan fydd yn dod atyn nhw. | |
I Pe | WelBeibl | 2:13 | Dylech chi ddangos parch at bobl eraill, yn union fel y gwnaeth yr Arglwydd ei hun. Mae hyn yn cynnwys yr ymerawdwr sy'n teyrnasu dros y cwbl, | |
I Pe | WelBeibl | 2:14 | a'r llywodraethwyr sydd wedi'u penodi ganddo i gosbi pobl sy'n gwneud drwg ac i ganmol y rhai sy'n gwneud da. | |
I Pe | WelBeibl | 2:16 | Dych chi'n rhydd, ond peidiwch defnyddio'ch rhyddid fel esgus i wneud drygioni. Dylech chi, sydd ddim ond yn gwasanaethu Duw, | |
I Pe | WelBeibl | 2:17 | ddangos parch at bawb, caru eich cyd-Gristnogion, ofni Duw a pharchu'r ymerawdwr. | |
I Pe | WelBeibl | 2:18 | Dylech chi sy'n gaethweision barchu eich meistri – nid dim ond os ydyn nhw'n feistri da a charedig, ond hyd yn oed os ydyn nhw'n greulon. | |
I Pe | WelBeibl | 2:19 | Mae'n plesio Duw pan dych chi'n penderfynu bod yn barod i ddioddef hyd yn oed pan dych chi'n cael eich cam-drin. | |
I Pe | WelBeibl | 2:20 | Does dim rheswm i ganmol rhywun am fodloni cael ei gosbi os ydy e wedi gwneud drwg. Ond os ydych chi'n fodlon dioddef er eich bod chi wedi gwneud y peth iawn, mae hynny'n plesio Duw. | |
I Pe | WelBeibl | 2:21 | Dyna mae Duw wedi'ch galw chi i'w wneud. A'r esiampl i chi ei dilyn ydy'r Meseia yn dioddef yn eich lle chi: | |
I Pe | WelBeibl | 2:23 | Wnaeth e ddim ateb yn ôl pan oedd pobl yn ei regi a'i sarhau e; wnaeth e ddim bygwth unrhyw un pan oedd e'n dioddef. Yn lle hynny, gadawodd y mater yn nwylo Duw sydd bob amser yn barnu'n deg. | |
I Pe | WelBeibl | 2:24 | Cariodd ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren, er mwyn i ni, a'n pechodau wedi mynd, allu byw i wneud beth sy'n iawn. Dych chi wedi cael eich iacháu am ei fod e wedi'i glwyfo! | |