Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
MICAH
1 2 3 4 5 6 7
Prev Up Next
Chapter 2
Mica WelBeibl 2:1  Gwae nhw, y rhai sy'n dyfeisio drygioni a gorweddian ar eu gwlâu yn cynllwynio. Wedyn codi gyda'r wawr i wneud y drwg – maen nhw'n gwneud beth maen nhw eisiau.
Mica WelBeibl 2:2  Maen nhw'n cymryd y tir maen nhw'i eisiau, ac yn dwyn eu tai oddi ar bobl. Maen nhw'n cipio cartrefi drwy dwyll a thrais ac yn dwyn etifeddiaeth pobl eraill.
Mica WelBeibl 2:3  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n cynllunio i ddod â dinistr ar y criw pobl yma. Fydd dim modd i chi ddianc! Dim mwy o swancio i chi! – mae pethau'n mynd i fod yn ddrwg!
Mica WelBeibl 2:4  Bryd hynny, bydd pobl yn gwneud hwyl am eich pen chi drwy ganu galarnad i chi'n sbeitlyd – ‘Mae ar ben arnon ni! Mae ein tir yn cael ei werthu! Mae Duw wedi cymryd y cwbl, a rhoi'n tir i fradwyr!’”
Mica WelBeibl 2:5  Felly fydd neb yn mesur y tir eto i chi gael siâr ohono gyda phobl yr ARGLWYDD.
Mica WelBeibl 2:6  “Stopia falu awyr!” medden nhw'n lloerig. “Ddylai neb siarad fel yna! Fyddwn ni ddim yn cael ein cywilyddio.”
Mica WelBeibl 2:7  Ai fel hyn mae pobl Jacob yn meddwl? – “Dydy'r ARGLWYDD ddim yn colli ei dymer. Fyddai e byth yn gwneud y fath beth!” “Mae'r pethau da dw i'n eu haddo yn digwydd i'r rhai sy'n byw yn iawn.
Mica WelBeibl 2:8  Ond yn ddiweddar mae fy mhobl wedi codi yn fy erbyn fel gelyn. Dych chi'n dwyn y gôt a'r crys oddi ar bobl ddiniwed sy'n pasio heibio fel milwyr yn dod adre o ryfel.
Mica WelBeibl 2:9  Dych chi'n gyrru gweddwon o'u cartrefi clyd, a dwyn eu heiddo oddi ar eu plant am byth.
Mica WelBeibl 2:10  Felly symudwch! I ffwrdd â chi! Does dim lle i chi orffwys yma! Dych chi wedi llygru'r lle, ac wedi'i ddifetha'n llwyr!
Mica WelBeibl 2:11  Petai rhywun yn dod heibio yn malu awyr a thwyllo, ‘Dw i'n addo y cewch chi joio digonedd o win a chwrw!’ – byddech wrth eich bodd yn gwrando ar hwnnw!
Mica WelBeibl 2:12  Bydda i'n eich casglu chi i gyd, bobl Jacob. Bydda i'n galw pawb sydd ar ôl yn Israel at ei gilydd fel defaid mewn corlan. Byddwch fel praidd yng nghanol eu porfa yn brefu, yn dyrfa enfawr o bobl.
Mica WelBeibl 2:13  Bydd yr un sy'n torri trwodd yn eu harwain nhw allan i ryddid. Byddan nhw'n mynd allan drwy'r giatiau a gadael gyda'u brenin ar y blaen. Yr ARGLWYDD ei hun fydd yn eu harwain!”