Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
MICAH
1 2 3 4 5 6 7
Prev Up Next
Chapter 4
Mica WelBeibl 4:1  Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr ARGLWYDD wedi'i osod yn ben ar y mynyddoedd eraill a'i godi'n uwch na'r bryniau.
Mica WelBeibl 4:2  Bydd y gwledydd i gyd yn llifo yno a llawer o bobl yn mynd yno a dweud: “Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr ARGLWYDD, a mynd i deml Duw Jacob, iddo ddysgu ei ffyrdd i ni, ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.” Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod, a neges yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
Mica WelBeibl 4:3  Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloedd ac yn setlo dadleuon rhwng y gwledydd mawr pell. Byddan nhw'n curo'u cleddyfau yn sychau aradr a'u gwaywffyn yn grymanau tocio. Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd, nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.
Mica WelBeibl 4:4  Bydd pawb yn eistedd dan ei winwydden a'i goeden ffigys ei hun, heb angen bod ofn. Mae'r ARGLWYDD hollbwerus wedi addo'r peth!
Mica WelBeibl 4:5  Tra mae'r gwledydd o'n cwmpas yn dilyn eu duwiau eu hunain, byddwn ni yn dilyn yr ARGLWYDD ein Duw am byth bythoedd!
Mica WelBeibl 4:6  “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “bydda i'n galw'r rhai cloff, ac yn casglu'r rhai sydd ar chwâl, a'r rhai wnes i eu hanafu.
Mica WelBeibl 4:7  Y rhai cloff fydd y cnewyllyn sydd ar ôl; a bydd y rhai fu ar chwâl yn troi'n genedl gref. Bydd yr ARGLWYDD yn frenin arnyn nhw ar Fynydd Seion, o hyn allan ac am byth!”
Mica WelBeibl 4:8  A byddi di – y tŵr i wylio'r praidd, sef dinas gaerog pobl Seion – yn cael dy safle anrhydeddus yn ôl. Bydd y deyrnas yn perthyn i Jerwsalem.
Mica WelBeibl 4:9  Ond nawr, pam wyt ti'n gweiddi a sgrechian? Oes gen ti ddim brenin i dy helpu? Ydy dy arweinydd doeth di wedi marw? Ai dyna pam ti'n gwingo mewn poen fel gwraig ar fin cael babi?
Mica WelBeibl 4:10  Gwingwch a gwaeddwch, bobl Seion, fel gwraig mewn poen wrth gael babi! Bydd rhaid i chi adael y ddinas a gwersylla yng nghefn gwlad, ar eich ffordd i Babilon. Ond yno bydd yr ARGLWYDD yn eich achub, a'ch gollwng yn rhydd o afael y gelyn.
Mica WelBeibl 4:11  Ar hyn o bryd mae gwledydd lawer wedi casglu i ymladd yn dy erbyn. “Rhaid dinistrio Jerwsalem,” medden nhw. “Cawn ddathlu wrth weld Seion yn syrthio!”
Mica WelBeibl 4:12  Ond dŷn nhw ddim yn gwybod beth ydy bwriad yr ARGLWYDD! Dŷn nhw ddim yn deall ei gynllun e – i'w casglu nhw fel gwenith i'r llawr dyrnu!
Mica WelBeibl 4:13  Tyrd i ddyrnu, ferch Seion! Dw i'n mynd i roi cyrn o haearn a charnau o bres i ti; a byddi'n sathru llawer o wledydd. Byddi'n rhoi'r ysbail i gyd i'r ARGLWYDD, ac yn cyflwyno eu cyfoeth i Feistr y ddaear gyfan.