Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
NEHEMIAH
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 1
Nehe WelBeibl 1:1  Dyma adroddiad gan Nehemeia fab Hachaleia: Roedd hi'n fis Cislef yn ugeinfed flwyddyn teyrnasiad Artaxerxes, ac roeddwn i yn y gaer ddinesig yn Shwshan.
Nehe WelBeibl 1:2  Dyma Chanani (oedd yn perthyn i mi) a dynion eraill o Jwda, yn dod i'm gweld i. A dyma fi'n eu holi nhw am yr Iddewon oedd wedi gadael y gaethglud, a sut oedd pethau yn Jerwsalem.
Nehe WelBeibl 1:3  A dyma nhw'n ateb, “Mae hi'n galed ar y bobl sydd wedi mynd yn ôl i'r dalaith o'r gaethglud. Maen nhw'n cael amser anodd. Mae wal Jerwsalem wedi'i chwalu, a'r giatiau wedi'u llosgi.”
Nehe WelBeibl 1:4  Pan glywais hyn i gyd, dyma fi'n eistedd i lawr. Rôn i'n crio ac yn galaru am ddyddiau, a bues i'n ymprydio ac yn gweddïo ar Dduw y nefoedd.
Nehe WelBeibl 1:5  A dyma fi'n dweud, “O ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, plîs! Ti'n Dduw mawr a rhyfeddol, yn Dduw mor hael, ac yn cadw dy ymrwymiad i'r rhai sy'n dy garu di ac yn gwneud beth ti'n ddweud.
Nehe WelBeibl 1:6  O, plîs edrych a gwrando ar weddi dy was. Gwranda ar beth dw i'n ei weddïo ddydd a nos ar ran dy weision, pobl Israel. Dw i'n cyffesu ein bod ni wedi pechu yn dy erbyn di – fi a'm teulu, a phobl Israel i gyd.
Nehe WelBeibl 1:7  Dŷn ni wedi ymddwyn yn ofnadwy, a heb gadw'r gorchmynion, y rheolau a'r canllawiau wnest ti eu rhoi i dy was Moses.
Nehe WelBeibl 1:8  Plîs cofia beth ddwedaist ti wrth Moses: ‘Os byddwch chi'n anffyddlon, bydda i'n eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd.
Nehe WelBeibl 1:9  Ond os byddwch chi'n troi a gwneud beth dw i'n ddweud, hyd yn oed os ydy'r bobl wedi'u chwalu i ben draw'r byd, bydda i'n eu casglu nhw yn ôl i'r lle dw i wedi dewis byw ynddo.’
Nehe WelBeibl 1:10  Dy weision di, dy bobl di ydyn nhw, ac rwyt wedi defnyddio dy rym i'w gollwng nhw'n rhydd.
Nehe WelBeibl 1:11  Plîs, o ARGLWYDD, gwrando ar weddi dy was, ac ar weddïau pawb arall sy'n awyddus i dy barchu di. Helpa dy was i lwyddo heddiw, a gwna i'r dyn yma fod yn garedig ata i.” Fi oedd y bwtler oedd yn dod â gwin i'r brenin.