NEHEMIAH
Chapter 3
| Nehe | WelBeibl | 3:1 | Dyma Eliashif yr archoffeiriad a'i gyd-offeiriaid yn mynd ati i adeiladu Giât y Defaid. Yna ei chysegru a gosod y drysau yn eu lle. Nhw wnaeth y gwaith hyd at Dŵr y Cant a Tŵr Chanan-el. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:2 | Yna dynion Jericho wnaeth adeiladu'r darn nesaf, a Saccwr fab Imri y darn ar ôl hwnnw. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:3 | Teulu Hasenaa wnaeth adeiladu Giât y Pysgod, a gosod ei thrawstiau a'r drysau, y bolltau a'r barrau yn eu lle. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:4 | Meremoth fab Wreia ac ŵyr i Hacots wnaeth drwsio'r darn nesaf. Meshwlam fab Berecheia ac ŵyr i Meshesafel y darn wedyn. Sadoc fab Baana y darn ar ôl hwnnw, | |
| Nehe | WelBeibl | 3:5 | a dynion Tecoa ar y darn nesaf wedyn. Ond doedd arweinwyr Tecoa ddim yn fodlon helpu gyda'r gwaith oedd yr arolygwyr wedi'i roi iddyn nhw. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:6 | Ioiada fab Paseach a Meshwlam fab Besodeia oedd yn gweithio ar Giât Ieshana. Nhw wnaeth osod y trawstiau a'r drysau, y bolltau a'r barrau yn eu lle. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:7 | Yna roedd Melatia o Gibeon a Iadon o Meronoth yn gweithio ar y darn nesaf gyda dynion eraill o Gibeon a Mitspa (lle roedd llywodraethwr Traws-Ewffrates yn byw). | |
| Nehe | WelBeibl | 3:8 | Wedyn roedd Wssiel fab Charhaia (aelod o Urdd y Gofaint Aur) yn atgyweirio'r darn nesaf, a Chananeia (aelod o Urdd y Gwerthwyr Persawr) yn atgyweirio'r darn ar ôl hwnnw. Nhw wnaeth drwsio wal Jerwsalem yr holl ffordd at y Wal Lydan. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:9 | Reffaia fab Hur, pennaeth hanner ardal Jerwsalem, oedd yn gweithio ar y darn nesaf. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:10 | Iedaia fab Charwmaff ar y darn ar ôl hwnnw, gyferbyn â'i dŷ, a Chattwsh fab Chashafneia ar y darn wedyn. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:11 | Roedd Malcîa fab Charîm a Chashwf fab Pachath-Moab yn gweithio ar ddarn arall ac ar Dŵr y Poptai. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:12 | Yna roedd Shalwm fab Halochesh, pennaeth hanner arall ardal Jerwsalem, yn gweithio ar y darn nesaf, gyda'i ferched yn ei helpu. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:13 | Chanŵn a phobl Sanoach oedd yn gweithio ar Giât y Dyffryn. Nhw wnaeth ei hailadeiladu, a gosod ei drysau, ei bolltau a'i barrau yn eu lle. Nhw hefyd wnaeth y gwaith ar y wal yr holl ffordd at Giât y Sbwriel – 450 metr i gyd. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:14 | Malcîa fab Rechab, pennaeth Ardal Beth-hacerem, oedd yn gweithio ar Giât y Sbwriel. Fe wnaeth ei hailadeiladu, a gosod y drysau, y bolltau a'r barrau yn eu lle. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:15 | Wedyn Shalwn fab Colchose, pennaeth ardal Mitspa, oedd yn gweithio ar Giât y Ffynnon. Ailadeiladodd hi, rhoi to arni, a gosod y drysau, bolltau a barrau yn eu lle. A fe hefyd wnaeth ailadeiladu'r wal o Bwll Siloam (wrth ymyl y gerddi brenhinol) yr holl ffordd at y grisiau sy'n mynd i lawr o Ddinas Dafydd. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:16 | Yna Nehemeia fab Asbwc, pennaeth hanner ardal Beth-tswr, oedd yn gweithio ar y darn nesaf, yr holl ffordd at fynwent Dafydd, y pwll artiffisial a barics y fyddin. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:17 | Lefiaid oedd yn gweithio ar y darnau nesaf – Rechwm fab Bani, ac wedyn Chashafeia, pennaeth hanner ardal Ceila. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:19 | Ar ei ôl e, Eser fab Ieshŵa, pennaeth tref Mitspa, yn gweithio ar y darn gyferbyn â'r llethr i fyny at y storfa arfau lle mae'r bwtres. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:20 | Wedyn Barŵch fab Sabbai yn gweithio ar y darn rhwng y bwtres a'r drws i dŷ Eliashif yr Archoffeiriad. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:21 | A Meremoth fab Wreia ac ŵyr Hacots yn gweithio ar ddarn arall o ddrws tŷ Eliashif i dalcen y tŷ. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:23 | Wedyn Benjamin a Chashwf yn gweithio gyferbyn â'u tŷ nhw. Asareia fab Maaseia ac ŵyr Ananeia, yn gweithio wrth ymyl ei dŷ e. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:24 | Binnŵi fab Chenadad yn gweithio ar y darn nesaf, o dŷ Asareia at y bwtres ar y gornel. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:25 | Wedyn Palal fab Wsai yn gweithio gyferbyn â'r bwtres a'r tŵr sy'n sticio allan o'r palas uchaf wrth ymyl iard y gwarchodlu. Yna roedd Pedaia fab Parosh | |
| Nehe | WelBeibl | 3:26 | a gweision y deml oedd yn byw ar Fryn Offel yn gweithio ar y darn i fyny at Giât y Dŵr i'r dwyrain lle mae'r tŵr sy'n sticio allan. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:27 | Wedyn dynion Tecoa eto yn gweithio ar y darn o'r tŵr mawr hwnnw i wal Bryn Offel. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:28 | Offeiriaid oedd yn gweithio yr ochr uchaf i Giât y Ceffylau hefyd, pob un o flaen ei dŷ ei hun. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:29 | Sadoc fab Immer yn gweithio gyferbyn â'i dŷ e, a Shemaia fab Shechaneia, porthor Giât y Dwyrain, yn gweithio ar y darn nesaf. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:30 | Wedyn Chananeia fab Shelemeia a Chanŵn, chweched mab Salaff, yn gweithio ar ddarn arall. Yna, ar eu holau nhw, Meshwlam fab Berecheia yn gweithio ar y darn gyferbyn â'r ystafell lle roedd e'n byw. | |
| Nehe | WelBeibl | 3:31 | Wedyn Malcîa, un o'r gofaint aur, yn gweithio ar y darn hyd at lety gweision y deml a'r masnachwyr, gyferbyn â Giât y Mwstro, ac i fyny at yr ystafell uwchben y gornel. | |