Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
NEHEMIAH
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13
Prev Up Next
Chapter 6
Nehe WelBeibl 6:1  Clywodd Sanbalat, Tobeia, Geshem yr Arab, a'r gelynion eraill fy mod wedi ailadeiladu'r wal a chau'r bylchau i gyd (er fod drysau'r giatiau ddim wedi'u gosod yn eu lle bryd hynny).
Nehe WelBeibl 6:2  A dyma fi'n cael neges gan Sanbalat a Geshem yn gofyn i mi eu cyfarfod yn un o'r pentrefi ar wastatir Ono. Ond roedden nhw'n bwriadu gwneud rhyw ddrwg i mi.
Nehe WelBeibl 6:3  Felly dyma fi'n anfon neges yn ôl yn dweud, “Dw i'n gwneud gwaith pwysig, ac felly alla i ddim dod. Alla i ddim gadael i'r gwaith stopio er mwyn dod i'ch cyfarfod chi.”
Nehe WelBeibl 6:4  Dyma nhw'n cysylltu i ofyn yr un peth bedair gwaith, a rhois yr un ateb iddyn nhw bob tro.
Nehe WelBeibl 6:5  Yna'r pumed tro dyma Sanbalat yn anfon ei was gyda llythyr agored yn ei law.
Nehe WelBeibl 6:6  Dyma oedd y llythyr yn ei ddweud: “Mae yna si yn mynd o gwmpas (ac mae Geshem wedi cadarnhau hyn), dy fod ti a'r Iddewon yn bwriadu gwrthryfela, ac mai dyna pam dych chi'n adeiladu'r waliau. A'r sôn ydy dy fod ti am fod yn frenin arnyn nhw.
Nehe WelBeibl 6:7  Maen nhw'n dweud dy fod wedi penodi proffwydi yn Jerwsalem i gyhoeddi, ‘Mae brenin yn Jwda!’ Bydd brenin Persia yn dod i glywed am y sibrydion yma. Felly tyrd! Gad i ni drafod y mater.”
Nehe WelBeibl 6:8  Dyma fi'n anfon neges yn ôl ato yn dweud, “Dydy'r pethau rwyt ti'n ddweud amdanon ni ddim yn wir. Ffrwyth dy ddychymyg di ydy'r cwbl!”
Nehe WelBeibl 6:9  (Ceisio'n dychryn ni roedden nhw, gan feddwl y bydden ni'n llaesu dwylo ac y byddai'r gwaith ddim yn cael ei orffen. Ond roedd hyn wedi fy ngwneud i'n fwy penderfynol fyth.)
Nehe WelBeibl 6:10  Yna es i weld Shemaia fab Delaia ac ŵyr Mehetafél, oedd ddim yn gallu gadael ei dŷ. A dyma fe'n dweud, “Gad i ni gyfarfod yn y cysegr – cysegr Duw yn y Deml, a chloi ein hunain i mewn. Maen nhw'n dod i dy ladd di; dod i dy ladd di yn y nos.”
Nehe WelBeibl 6:11  Ond dyma fi'n ateb, “Ydy'n iawn i ddyn fel fi redeg i ffwrdd? A sut all dyn cyffredin fel fi fynd i mewn i'r cysegr a chael byw? Na, wna i ddim mynd.”
Nehe WelBeibl 6:12  Roedd hi'n amlwg fod Duw ddim yn siarad drwyddo – Tobeia a Sanbalat oedd wedi'i dalu i roi'r broffwydoliaeth yna.
Nehe WelBeibl 6:13  Roedd wedi cael ei dalu i'm dychryn i, er mwyn i mi bechu drwy wneud beth roedd e'n ei awgrymu. Byddai hynny wedyn wedi arwain at sgandal a rhoi enw drwg i mi.
Nehe WelBeibl 6:14  O Dduw, cofia beth mae Tobeia a Sanbalat wedi'i wneud – a hefyd Noadeia y broffwydes, a'r proffwydi eraill sy'n trio fy nychryn i.
Nehe WelBeibl 6:15  Cafodd y wal ei gorffen ar y pumed ar hugain o fis Elwl – dim ond pum deg dau diwrnod gymrodd y gwaith!
Nehe WelBeibl 6:16  Roedd ein gelynion, a'r gwledydd o'n cwmpas, wedi dychryn a digalonni pan glywon nhw fod y gwaith wedi'i orffen. Allen nhw ddim gwadu fod Duw wedi'n helpu ni i wneud hyn.
Nehe WelBeibl 6:17  Drwy'r cyfnod yma roedd pobl bwysig Jwda a Tobeia wedi bod yn ysgrifennu'n ôl ac ymlaen at ei gilydd.
Nehe WelBeibl 6:18  Roedd yna lawer o bobl yn Jwda wedi addo cefnogi Tobeia am ddau reswm: roedd yn fab-yng-nghyfraith i Shechaneia fab Arach, ac roedd ei fab Iehochanan wedi priodi merch Meshwlam fab Berecheia.
Nehe WelBeibl 6:19  Roedden nhw'n dweud wrtho i am yr holl bethau da roedd e'n eu gwneud, ac yna'n dweud wrtho fe beth ddwedais i. Wedyn roedd Tobeia'n anfon llythyrau bygythiol ata i.