NEHEMIAH
Chapter 4
Nehe | WelBeibl | 4:1 | Pan glywodd Sanbalat ein bod ni'n ailadeiladu'r waliau dyma fe'n gwylltio'n lân a dechrau galw'r Iddewon yn bob enw dan haul. | |
Nehe | WelBeibl | 4:2 | Dyma fe'n dechrau dweud o flaen ei ffrindiau a milwyr Samaria, “Beth mae'r Iddewon pathetig yma'n meddwl maen nhw'n wneud? Ydyn nhw'n meddwl y gallan nhw wneud y gwaith eu hunain? Fyddan nhw'n offrymu aberthau eto? Ydych chi'n meddwl y gwnân nhw orffen y gwaith heddiw? Ydyn nhw'n meddwl y gallan nhw ddod â'r cerrig yma sydd wedi llosgi yn ôl yn fyw?” | |
Nehe | WelBeibl | 4:3 | A dyma Tobeia o Ammon, oedd yn sefyll gydag e, yn dweud, “Byddai'r wal maen nhw'n ei chodi yn chwalu petai llwynog yn dringo arni!” | |
Nehe | WelBeibl | 4:4 | “O ein Duw, gwrando arnyn nhw'n ein bychanu ni! Tro eu dirmyg arnyn nhw eu hunain! Gwna iddyn nhw gael eu cipio i ffwrdd fel caethion i wlad estron! | |
Nehe | WelBeibl | 4:5 | Paid maddau iddyn nhw na cuddio'u pechodau o dy olwg! Maen nhw wedi cythruddo'r rhai sy'n adeiladu!” | |
Nehe | WelBeibl | 4:6 | Felly dyma ni'n ailadeiladu'r wal. Roedd hi'n gyfan hyd at hanner ei huchder ac roedd y bobl yn frwd i weithio. | |
Nehe | WelBeibl | 4:7 | Ond pan glywodd Sanbalat a Tobeia, yr Arabiaid, pobl Ammon a phobl Ashdod fod y gwaith o adfer waliau Jerwsalem yn dod yn ei flaen cystal, a bod y bylchau yn y wal yn cael eu cau, roedden nhw'n wyllt. | |
Nehe | WelBeibl | 4:9 | Felly dyma ni'n gweddïo ar ein Duw, a gosod gwylwyr i edrych allan amdanyn nhw ddydd a nos. | |
Nehe | WelBeibl | 4:10 | Roedd pobl Jwda'n dweud, “Mae'r gweithwyr yn blino a stryffaglu, ac mae cymaint o rwbel. Does dim gobaith i ni adeiladu a gorffen y gwaith ar y wal yma!” | |
Nehe | WelBeibl | 4:11 | Yna roedd ein gelynion yn brolio, “Cyn iddyn nhw sylweddoli beth sy'n digwydd, byddwn ni yn eu canol yn eu lladd nhw, a bydd y gwaith yn dod i ben!” | |
Nehe | WelBeibl | 4:12 | Ac roedd yr Iddewon oedd yn byw wrth eu hymyl nhw wedi'n rhybuddio ni lawer gwaith am eu cynllwynion yn ein herbyn ni. | |
Nehe | WelBeibl | 4:13 | Felly dyma fi'n gosod pobl i amddiffyn y rhannau isaf, tu ôl i'r wal yn y mannau mwyaf agored. Gosodais nhw bob yn glan, gyda cleddyfau, gwaywffyn a bwâu. | |
Nehe | WelBeibl | 4:14 | Yna ar ôl edrych dros y cwbl, dyma fi'n codi i annerch yr arweinwyr, y swyddogion, a gweddill y bobl, a dweud, “Peidiwch bod â'u hofn nhw. Cofiwch mor fawr a rhyfeddol ydy'r Meistr! Byddwch barod i ymladd dros eich pobl, eich meibion, eich merched, eich gwragedd a'ch cartrefi!” | |
Nehe | WelBeibl | 4:15 | Pan glywodd ein gelynion ein bod ni'n gwybod am eu cynllwyn, dyma Duw yn eu rhwystro nhw. Felly dyma pawb yn mynd yn ôl i weithio ar y wal. | |
Nehe | WelBeibl | 4:16 | O'r diwrnod hwnnw ymlaen roedd hanner y dynion ifanc oedd gen i yn adeiladu a'r hanner arall yn amddiffyn. Roedd ganddyn nhw arfwisg, ac roedden nhw'n cario gwaywffyn, tarianau a bwâu. Roedd y swyddogion yn sefyll tu ôl i bobl Jwda | |
Nehe | WelBeibl | 4:17 | oedd yn adeiladu'r wal. Roedd y rhai oedd yn cario beichiau yn gwneud hynny gydag un llaw, ac yn dal arf yn y llaw arall. | |
Nehe | WelBeibl | 4:18 | Ac roedd gan bob un o'r adeiladwyr gleddyf wedi'i strapio am ei ganol tra oedd yn gweithio. Ond roedd canwr y corn hwrdd yn aros gyda mi. | |
Nehe | WelBeibl | 4:19 | Yna dyma fi'n dweud wrth yr arweinwyr, y swyddogion a gweddill y bobl, “Mae gynnon ni lot o waith caled i'w wneud, a dŷn ni'n bell oddi wrth ein gilydd ar y wal. | |
Nehe | WelBeibl | 4:20 | Pan fyddwch chi'n clywed y corn hwrdd yn cael ei ganu, dylai pawb gasglu at ei gilydd yno. Bydd ein Duw yn ymladd droson ni!” | |
Nehe | WelBeibl | 4:21 | Felly dyma ni'n bwrw ymlaen gyda'r gwaith o fore gwyn tan nos, gyda'r hanner ohonon ni'n cario gwaywffyn. | |
Nehe | WelBeibl | 4:22 | Peth arall ddwedais i bryd hynny oedd, “Dylai pawb aros dros nos yn Jerwsalem (y gweithwyr a'r rhai sy'n eu hamddiffyn). Byddan nhw'n gwarchod y ddinas dros nos, ac yn gweithio yn ystod y dydd.” | |