NEHEMIAH
Chapter 5
Nehe | WelBeibl | 5:1 | Ond wedyn dyma rai o'r dynion a'u gwragedd yn dechrau cwyno a protestio am eu cyd-Iddewon. | |
Nehe | WelBeibl | 5:2 | Roedd rhai yn dweud, “Mae gynnon ni deuluoedd mawr, ac mae angen lot o ŷd arnon ni i allu bwyta a byw.” | |
Nehe | WelBeibl | 5:3 | Roedd eraill yn dweud, “Dŷn ni'n gorfod morgeisio ein tir a'n gwinllannoedd a'n tai er mwyn prynu ŷd i osgoi llwgu.” | |
Nehe | WelBeibl | 5:4 | Ac eraill eto, “Dŷn ni wedi gorfod benthyg arian i dalu trethi i'r brenin ar ein tir a'n gwinllannoedd. | |
Nehe | WelBeibl | 5:5 | Dŷn ni wedi gorfod rhoi'n meibion a'n merched i weithio fel caethweision i bobl er ein bod ni a'n plant o'r un genedl ac yn rhannu'r un gwaed â nhw. Mae rhai o'n merched wedi cael eu cymryd oddi arnon ni, a dŷn ni'n gallu gwneud dim am y peth, am fod ein tir a'n gwinllannoedd yn nwylo pobl eraill.” | |
Nehe | WelBeibl | 5:7 | Yna ar ôl ystyried y sefyllfa'n ofalus, dyma fi'n penderfynu mynd at y bobl gyfoethog a'r swyddogion i gwyno: “Dych chi i gyd yn codi llogau ar ddyledion eich pobl eich hunain!” A dyma fi'n galw cyfarfod cyhoeddus i ddelio gyda'r peth. | |
Nehe | WelBeibl | 5:8 | Dwedais yno, “Dŷn ni wedi gwneud popeth allwn ni i brynu'n ôl ein cyd-Iddewon sydd wedi'u gwerthu i'r cenhedloedd. A nawr dyma chi'n gwerthu'ch pobl eich hunain i'ch gilydd!” Doedden nhw'n gallu dweud dim. Doedd ganddyn nhw ddim ateb. | |
Nehe | WelBeibl | 5:9 | Yna dyma fi'n dweud, “Dydy beth dych chi'n ei wneud ddim yn iawn! Dylech fyw mewn ffordd sy'n dangos parch at Dduw. Fyddai ddim rhaid i chi ddiodde eich gelynion, y cenhedloedd, yn eich gwawdio chi wedyn! | |
Nehe | WelBeibl | 5:10 | Dw i a'm perthnasau a'r rhai sydd gyda ni yn benthyg arian ac ŷd i bobl. Rhaid stopio'r busnes yma o gymryd tir a thai pobl i dalu dyledion! | |
Nehe | WelBeibl | 5:11 | Rhowch bopeth yn ôl iddyn nhw heddiw – eu caeau, eu gwinllannoedd, eu coed olewydd a'u tai, a'r llogau dych chi'n eu cymryd am fenthyg arian, ŷd, sudd grawnwin, ac olew olewydd iddyn nhw.” | |
Nehe | WelBeibl | 5:12 | A dyma nhw'n ateb, “Gwnawn ni roi'r cwbl yn ôl, a stopio hawlio dim oddi arnyn nhw. Byddwn ni'n gwneud yn union fel rwyt ti'n dweud.” Yna dyma fi'n galw am offeiriaid a gwneud i'r bobl gyfoethog a'r swyddogion fynd ar eu llw y bydden nhw'n cadw eu gair. | |
Nehe | WelBeibl | 5:13 | A dyma fi'n ysgwyd popeth o bocedi fy nillad, a dweud, “Dyma fydd Duw yn ei wneud i chi os fyddwch chi ddim yn cadw'ch gair. Byddwch yn colli'ch tai a'ch eiddo. Bydd yn eich ysgwyd chi a byddwch yn colli popeth!” A dyma pawb yn y gynulleidfa yn ateb, “Ia, wir! Amen!” ac addoli'r ARGLWYDD. Yna gwnaeth y bobl beth roedden nhw wedi'i addo. | |
Nehe | WelBeibl | 5:14 | O'r diwrnod cyntaf y ces i fy ngwneud yn llywodraethwr Jwda – sef o'r ugeinfed flwyddyn i flwyddyn tri deg dau o deyrnasiad y Brenin Artaxerxes (un deg dwy o flynyddoedd i gyd) – wnes i a'm teulu ddim bwyta'r bwyd oedd yn cael ei roi i'r llywodraethwr. | |
Nehe | WelBeibl | 5:15 | Roedd y llywodraethwyr o mlaen i wedi gosod beichiau trwm ar y bobl, a chymryd bwyd a gwin oddi arnyn nhw ar ben y dreth o 40 darn arian. Roedd eu staff yn galed ar y bobl hefyd. Ond wnes i ddim ymddwyn felly, am fy mod i'n parchu Duw. | |
Nehe | WelBeibl | 5:16 | Es i ati fel pawb arall i weithio ar y wal, a wnes i ddim prynu tir i mi fy hun. Ac roedd fy staff i gyd yn gweithio yno hefyd. | |
Nehe | WelBeibl | 5:17 | Roedd cant a hanner o bobl, swyddogion yr Iddewon, yn bwyta gyda mi'n rheolaidd, heb sôn am ymwelwyr oedd yn dod o wledydd eraill. | |
Nehe | WelBeibl | 5:18 | Bob dydd roedd un ych, chwech o'r defaid gorau, a ffowls yn cael eu paratoi i mi, heb sôn am ddigonedd o win o bob math oedd yn cael ei roi i mi bob deg diwrnod. Er hynny, wnes i ddim hawlio'r bwyd oedd yn cael ei roi i'r llywodraethwr, am fod y baich yn drwm ar y bobl. | |