Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
REVELATION OF JOHN
Prev Up Next
Chapter 10
Reve WelBeibl 10:1  Yna gwelais angel pwerus arall yn dod i lawr o'r nefoedd. Roedd cwmwl fel petai wedi'i lapio amdano, ac roedd enfys uwch ei ben. Roedd ei wyneb yn disgleirio fel yr haul, a'i goesau yn edrych fel colofnau o dân.
Reve WelBeibl 10:2  Roedd ganddo sgrôl fechan agored yn ei law. Gosododd ei droed dde ar y môr a'i droed chwith ar y tir sych.
Reve WelBeibl 10:3  Galwodd allan yn uchel fel llew yn rhuo. Wrth iddo weiddi, clywyd sŵn saith taran.
Reve WelBeibl 10:4  Pan glywyd sŵn y saith taran, roeddwn ar fin ysgrifennu'r cwbl i lawr, ond clywais lais o'r nefoedd yn dweud, “Cadw beth mae'r saith taran wedi'i ddweud yn gyfrinach; paid meiddio'i ysgrifennu i lawr!”
Reve WelBeibl 10:5  Yna dyma'r angel rôn i wedi'i weld yn sefyll ar y môr a'r tir yn codi ei law dde.
Reve WelBeibl 10:6  Aeth ar lw yn enw yr Un sy'n byw byth bythoedd, yr un a greodd yr awyr a'r ddaear a'r môr a phopeth sydd ynddyn nhw. Dwedodd: “Fydd dim mwy o oedi!
Reve WelBeibl 10:7  Pan fydd y seithfed angel yn canu ei utgorn, bydd cynllun dirgel Duw wedi'i gyflawni, yn union fel roedd wedi dweud wrth ei weision y proffwydi.”
Reve WelBeibl 10:8  Yna dyma'r llais o'r nefoedd yn siarad â mi unwaith eto: “Dos at yr angel sy'n sefyll ar y môr a'r tir, a chymer y sgrôl fach agored sydd ganddo yn ei law.”
Reve WelBeibl 10:9  Felly dyma fi'n mynd at yr angel ac yn gofyn iddo roi y sgrôl fechan i mi. Dyma'r angel yn dweud: “Cymer hi, a bwyta hi. Bydd yn troi'n chwerw yn dy stumog, ond bydd yn felys fel mêl yn dy geg.”
Reve WelBeibl 10:10  Dyma fi'n cymryd y sgrôl fechan o law yr angel ac yn ei bwyta. Roedd yn blasu'n felys fel mêl yn fy ngheg, ond ar ôl ei llyncu trodd yn chwerw yn fy stumog.
Reve WelBeibl 10:11  Yna dyma nhw'n dweud wrtho i: “Rwyt ti i broffwydo eto yn erbyn llawer iawn o bobloedd, cenhedloedd, ieithoedd a brenhinoedd.”