Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
REVELATION OF JOHN
Prev Up Next
Chapter 16
Reve WelBeibl 16:1  Wedyn clywais lais o'r deml yn dweud yn glir wrth y saith angel, “Ewch! Tywalltwch saith powlen digofaint Duw ar y ddaear!”
Reve WelBeibl 16:2  Dyma'r angel cyntaf yn mynd ac yn tywallt beth oedd yn ei fowlen ar y tir. Dyma friwiau cas yn dod i'r golwg ar gyrff y bobl hynny oedd â marc yr anghenfil arnyn nhw ac oedd yn addoli ei ddelw.
Reve WelBeibl 16:3  Yna dyma'r ail angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar y môr, a throdd fel gwaed rhywun oedd wedi marw. Dyma bopeth yn y môr yn marw.
Reve WelBeibl 16:4  Yna dyma'r trydydd angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen ar yr afonydd a'r ffynhonnau dŵr, a dyma nhw'n troi'n waed.
Reve WelBeibl 16:5  A dyma fi'n clywed yr angel oedd yn gyfrifol am y dyfroedd yn dweud: “Rwyt ti'n gyfiawn wrth gosbi fel hyn – yr Un sydd, ac oedd – yr Un Sanctaidd!
Reve WelBeibl 16:6  Maen nhw wedi tywallt gwaed dy bobl di a'th broffwydi, ac rwyt ti wedi rhoi gwaed iddyn nhw ei yfed. Dyna maen nhw yn ei haeddu!”
Reve WelBeibl 16:7  A dyma fi'n clywed rhywun o'r allor yn ateb: “Ie wir, Arglwydd Dduw Hollalluog, mae dy ddyfarniad di bob amser yn deg ac yn gyfiawn.”
Reve WelBeibl 16:8  Dyma'r pedwerydd angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar yr haul, a dyma'r haul yn cael y gallu i losgi pobl gyda'i wres.
Reve WelBeibl 16:9  Ond y cwbl wnaeth y bobl gafodd eu llosgi'n y gwres tanbaid oedd melltithio enw Duw, yr Un oedd yn rheoli'r plâu. Roedden nhw'n gwrthod newid eu ffyrdd a rhoi'r clod iddo.
Reve WelBeibl 16:10  Yna dyma'r pumed angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar orsedd yr anghenfil, a dyma'i deyrnas yn cael ei bwrw i dywyllwch dudew. Roedd pobl yn brathu eu tafodau mewn poen
Reve WelBeibl 16:11  ac yn melltithio Duw'r nefoedd o achos y poen a'r briwiau ar eu cyrff. Ond roedden nhw'n gwrthod newid eu ffyrdd a throi cefn ar beth roedden nhw'n ei wneud.
Reve WelBeibl 16:12  Yna dyma'r chweched angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar afon fawr Ewffrates. Sychodd yr afon fel bod brenhinoedd o'r dwyrain yn gallu ei chroesi.
Reve WelBeibl 16:13  Wedyn gwelais dri ysbryd drwg oedd yn edrych rywbeth tebyg i lyffantod. Daethon nhw allan o geg y ddraig, a cheg yr anghenfil a cheg y proffwyd ffug.
Reve WelBeibl 16:14  Ysbrydion cythreulig ydyn nhw, a'r gallu ganddyn nhw i wneud gwyrthiau rhyfeddol. Dyma nhw'n mynd allan at frenhinoedd y ddaear i'w casglu at ei gilydd i ymladd yn y frwydr olaf ar ddiwrnod mawr y Duw Hollalluog.
Reve WelBeibl 16:15  “Edrychwch! Dw i'n dod fel lleidr!” meddai Iesu. “Bydd y rhai sy'n cadw'n effro yn cael eu bendithio'n fawr! Bydd dillad ganddyn nhw, a fyddan nhw ddim yn cerdded o gwmpas yn noeth ac yn teimlo cywilydd pan fydd pobl yn edrych arnyn nhw.”
Reve WelBeibl 16:16  Felly dyma'r ysbrydion drwg yn casglu'r brenhinoedd at ei gilydd i'r lle sy'n cael ei alw yn Hebraeg yn Armagedon.
Reve WelBeibl 16:17  Dyma'r seithfed angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e i'r awyr, a dyma lais uchel o'r orsedd yn y deml yn dweud, “Dyna'r diwedd!”
Reve WelBeibl 16:18  Ac roedd mellt a sŵn taranau a daeargryn mawr. Fuodd yna erioed ddaeargryn mor ofnadwy yn holl hanes y byd – roedd yn aruthrol!
Reve WelBeibl 16:19  Dyma'r ddinas fawr yn hollti'n dair, a dyma ddinasoedd y cenhedloedd i gyd yn cael eu chwalu. Cofiodd Duw beth oedd Babilon fawr wedi'i wneud a rhoddodd iddi y gwpan oedd yn llawn o win ei ddigofaint ffyrnig.
Reve WelBeibl 16:20  Diflannodd pob ynys a doedd dim mynyddoedd i'w gweld yn unman.
Reve WelBeibl 16:21  Yna dyma genllysg anferthol yn disgyn ar bobl o'r awyr – yn pwyso tua 40 cilogram yr un! Roedd y bobl yn melltithio Duw o achos y pla o genllysg, am fod y pla mor ofnadwy.