REVELATION OF JOHN
Chapter 17
Reve | WelBeibl | 17:1 | Dyma un o'r saith angel gyda'r powlenni yn dod ata i, a dweud, “Tyrd, a gwna i ddangos i ti y gosb mae'r butain fawr sy'n eistedd ar ddyfroedd lawer yn ei ddioddef. | |
Reve | WelBeibl | 17:2 | Mae brenhinoedd y ddaear wedi cael rhyw gyda hi, a phobl y byd i gyd wedi meddwi ar win ei hanfoesoldeb.” | |
Reve | WelBeibl | 17:3 | Dyma'r angel yn fy nghodi fi dan ddylanwad yr Ysbryd a mynd â fi i anialwch. Yno gwelais wraig yn eistedd ar gefn anghenfil ysgarlad. Roedd gan yr anghenfil saith pen a deg corn, ac roedd wedi'i orchuddio gydag enwau cableddus. | |
Reve | WelBeibl | 17:4 | Roedd y wraig yn gwisgo gwisg o borffor ac ysgarlad, ac wedi addurno ei hun gyda thlysau o aur a gemau gwerthfawr a pherlau. Roedd ganddi gwpan aur yn ei llaw, yn llawn o bethau ffiaidd a budreddi ei hanfoesoldeb. | |
Reve | WelBeibl | 17:5 | Ar ei thalcen roedd teitl cryptig wedi'i ysgrifennu: BABILON FAWR, MAM PUTEINIAID A PHETHAU FFIAIDD Y DDAEAR | |
Reve | WelBeibl | 17:6 | Gwelais fod y wraig wedi meddwi ar waed pobl Dduw, sef gwaed y bobl hynny oedd wedi bod yn dystion i Iesu. Pan welais hi roeddwn i'n gwbl ddryslyd. | |
Reve | WelBeibl | 17:7 | A dyma'r angel yn gofyn i mi, “Pam wyt ti'n teimlo'n ddryslyd? Gad i mi esbonio i ti ystyr cudd y wraig a'r anghenfil mae hi'n eistedd ar ei gefn, yr un gyda'r saith pen a'r deg corn. | |
Reve | WelBeibl | 17:8 | Roedd yr anghenfil welaist ti yn fyw ar un adeg, ond ddim bellach. Ond mae ar fin dod allan o'r pydew diwaelod i gael ei ddinistrio. Bydd pawb sy'n perthyn i'r ddaear (y rhai dydy eu henwau nhw ddim wedi'u cofnodi yn Llyfr y Bywyd ers i'r byd gael ei greu), yn syfrdan pan fyddan nhw'n gweld yr anghenfil oedd yn fyw ar un adeg, ond ddim mwyach, ac sy'n mynd i ddod yn ôl eto. | |
Reve | WelBeibl | 17:9 | Mae angen meddwl craff a dirnadaeth i ddeall hyn. Saith bryn ydy'r saith pen mae'r wraig yn eistedd arnyn nhw. Maen nhw hefyd yn cynrychioli saith brenin. | |
Reve | WelBeibl | 17:10 | Mae pump ohonyn nhw eisoes wedi syrthio, mae un yn frenin ar hyn o bryd, ac mae'r llall heb ddod eto. Pan fydd hwnnw'n dod, fydd e ond yn aros am amser byr. | |
Reve | WelBeibl | 17:11 | Yr anghenfil oedd yn fyw ar un adeg, ond ddim bellach, ydy'r wythfed brenin (y mae yntau yr un fath â'r saith, ac yn mynd i gael ei ddinistrio). | |
Reve | WelBeibl | 17:12 | “Mae'r deg corn welaist ti yn cynrychioli deg brenin sydd heb deyrnasu eto, ond byddan nhw'n cael awdurdod i deyrnasu gyda'r anghenfil am amser byr. | |
Reve | WelBeibl | 17:13 | Maen nhw i gyd yn rhannu'r un bwriad, a byddan nhw'n rhoi eu hawdurdod i'r anghenfil. | |
Reve | WelBeibl | 17:14 | Byddan nhw'n rhyfela yn erbyn yr Oen, ond bydd yr Oen yn ennill y frwydr am ei fod yn Arglwydd ar arglwyddi ac yn Frenin ar frenhinoedd. A bydd ei ddilynwyr ffyddlon – y rhai sydd wedi'u galw a'u dewis ganddo – yn rhannu'r fuddugoliaeth gydag e.” | |
Reve | WelBeibl | 17:15 | Wedyn dyma'r angel yn mynd ymlaen i ddweud hyn wrtho i: “Mae'r dyfroedd welaist ti, lle mae'r butain yn eistedd, yn cynrychioli'r gwahanol bobloedd, tyrfaoedd, cenhedloedd ac ieithoedd. | |
Reve | WelBeibl | 17:16 | Bydd y deg corn welaist ti, a'r anghenfil hefyd, yn dod i gasáu y butain. Byddan nhw yn ei dinistrio hi'n llwyr ac yn ei gadael yn gwbl noeth; byddan nhw'n llarpio ei chnawd ac yn ei llosgi â thân. | |
Reve | WelBeibl | 17:17 | Mae Duw wedi plannu'r syniad yn eu meddyliau nhw er mwyn cyflawni ei bwrpas, a hefyd wedi'u cael nhw i rannu'r un bwriad ac i roi eu hawdurdod brenhinol i'r anghenfil, nes bydd beth ddwedodd Duw yn dod yn wir. | |