Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
REVELATION OF JOHN
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 1
Reve WelBeibl 1:1  Dyma ddangosodd y Meseia Iesu am beth sy'n mynd i ddigwydd yn fuan. Duw ddangosodd hyn iddo, i'w rannu gyda'r rhai sy'n ei ddilyn a'i wasanaethu. Anfonodd ei angel ata i ei was Ioan,
Reve WelBeibl 1:2  a dw i'n gallu tystio fy mod i wedi gweld y cwbl sydd yma. Mae'n neges oddi wrth Dduw – yn dystiolaeth sydd wedi'i roi gan y Meseia Iesu ei hun.
Reve WelBeibl 1:3  Bydd y person sy'n darllen y neges broffwydol hon i'r eglwys yn cael ei fendithio'n fawr. A hefyd pawb sy'n gwrando ar y neges yn cael ei darllen, ac yna'n gwneud beth mae'n ei ddweud. Mae'r amser pan fydd y cwbl yn digwydd yn agos.
Reve WelBeibl 1:4  Ioan sy'n ysgrifennu, At y saith eglwys yn nhalaith Asia: Dw i'n gweddïo y byddwch yn profi haelioni rhyfeddol a heddwch dwfn gan Dduw, yr Un sydd, ac oedd ac sy'n mynd i ddod; gan yr Ysbryd cyflawn perffaith sydd o flaen yr orsedd;
Reve WelBeibl 1:5  a hefyd gan y Meseia Iesu, y tyst ffyddlon, y cyntaf i gael ei eni i fywyd newydd ar ôl marw, a'r un sydd ag awdurdod dros holl frenhinoedd y ddaear. Mae'n ein caru ni, ac mae wedi marw droson ni i'n gollwng ni'n rhydd fel bod pechod ddim yn ein rheoli ni ddim mwy.
Reve WelBeibl 1:6  Mae'n teyrnasu droson ni ac wedi'n gwneud ni i gyd yn offeiriaid sy'n gwasanaethu Duw, ei Dad! Fe sy'n haeddu pob anrhydedd a nerth, am byth! Amen!
Reve WelBeibl 1:7  Edrychwch! Mae'n dod yn y cymylau! Bydd pawb yn ei weld – hyd yn oed y rhai a'i trywanodd! Bydd pob llwyth o bobl ar y ddaear yn galaru o'i achos e. Dyna fydd yn digwydd! Amen!
Reve WelBeibl 1:8  Mae'r Arglwydd Dduw yn dweud, “Fi ydy'r Alffa a'r Omega – Fi ydy'r Un sydd, oedd, ac sy'n mynd i ddod eto, yr Un Hollalluog.”
Reve WelBeibl 1:9  Ioan ydw i, eich cyd-Gristion. Fel chi dw innau hefyd yn dioddef, ond am fod Duw yn teyrnasu, dw i'n dal ati fel gwnaeth Iesu ei hun. Rôn i wedi cael fy alltudio i Ynys Patmos am gyhoeddi neges Duw a thystiolaethu am Iesu.
Reve WelBeibl 1:10  Roedd hi'n ddydd Sul, ac roeddwn i dan ddylanwad yr Ysbryd Glân. Yn sydyn clywais lais y tu ôl i mi, fel sŵn utgorn.
Reve WelBeibl 1:11  Dyma ddwedodd: “Ysgrifenna beth weli di mewn sgrôl, a'i anfon at y saith eglwys, sef Effesus, Smyrna, Pergamus, Thyatira, Sardis, Philadelffia, a Laodicea.”
Reve WelBeibl 1:12  Dyma fi'n troi i edrych pwy oedd yn siarad â mi, a dyma beth welais i: saith canhwyllbren aur.
Reve WelBeibl 1:13  Yn eu plith roedd “un oedd yn edrych fel person dynol.” Roedd yn gwisgo mantell hir oedd yn cyrraedd at ei draed a sash aur wedi'i rwymo am ei frest.
Reve WelBeibl 1:14  Roedd ganddo lond pen o wallt oedd yn wyn fel gwlân neu eira, ac roedd sbarc yn ei lygaid fel fflamau o dân.
Reve WelBeibl 1:15  Roedd ei draed yn gloywi fel efydd mewn ffwrnais, a'i lais fel sŵn rhaeadrau o ddŵr.
Reve WelBeibl 1:16  Yn ei law dde roedd yn dal saith seren, ac roedd cleddyf miniog yn dod allan o'i geg. Roedd ei wyneb yn disgleirio'n llachar fel yr haul ganol dydd.
Reve WelBeibl 1:17  Pan welais e, dyma fi'n llewygu wrth ei draed. Yna cyffyrddodd fi â'i law dde, a dweud wrtho i: “Paid bod ag ofn. Fi ydy'r Cyntaf a'r Olaf,
Reve WelBeibl 1:18  yr Un Byw. Rôn i wedi marw, ond edrych! – dw i'n fyw am byth bythoedd! Gen i mae allweddi Marwolaeth a Byd y Meirw.
Reve WelBeibl 1:19  Felly, ysgrifenna beth rwyt ti'n ei weld, sef beth sy'n digwydd nawr, a beth sy'n mynd i ddigwydd yn fuan.
Reve WelBeibl 1:20  “Ystyr cudd y saith seren welaist ti yn fy llaw dde i a'r saith canhwyllbren aur ydy hyn: Mae'r saith seren yn cynrychioli arweinwyr y saith eglwys, a'r saith canhwyllbren yn cynrychioli'r saith eglwys.”