Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
REVELATION OF JOHN
Prev Up Next
Chapter 19
Reve WelBeibl 19:1  Wedyn clywais rywbeth oedd yn swnio'n debyg i dyrfa enfawr o bobl yn y nefoedd yn gweiddi: “Haleliwia! Duw sy'n achub; a fe biau'r anrhydedd a'r nerth!
Reve WelBeibl 19:2  Mae ei ddyfarniad e bob amser yn deg ac yn gyfiawn. Mae wedi condemnio'r butain fawr a lygrodd y ddaear gyda'i hanfoesoldeb rhywiol. Mae wedi dial arni hi am ladd y bobl oedd yn ei wasanaethu.”
Reve WelBeibl 19:3  A dyma nhw'n gweiddi eto: “Haleliwia! Mae'r mwg sy'n codi ohoni yn para byth bythoedd.”
Reve WelBeibl 19:4  Dyma'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol a'r pedwar creadur byw yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn addoli Duw, oedd yn eistedd ar yr orsedd, a chanu: “Amen! Haleliwia!”
Reve WelBeibl 19:5  Wedyn dyma lais yn dod o'r orsedd yn dweud: “Molwch ein Duw! Pawb sy'n ei wasanaethu, a chi sy'n ei ofni, yn fawr a bach!”
Reve WelBeibl 19:6  Wedyn clywais rywbeth oedd yn swnio'n debyg i dyrfa enfawr o bobl, neu sŵn rhaeadrau o ddŵr neu daran uchel: “Haleliwia! Mae'r Arglwydd Dduw Hollalluog wedi dechrau teyrnasu.
Reve WelBeibl 19:7  Gadewch i ni ddathlu a gorfoleddu a rhoi clod iddo! Mae diwrnod priodas yr Oen wedi cyrraedd, ac mae'r ferch sydd i'w briodi wedi gwneud ei hun yn barod.
Reve WelBeibl 19:8  Mae hi wedi cael gwisg briodas o ddefnydd hardd, disglair a glân.” (Mae'r defnydd hardd yn cynrychioli gweithredoedd da pobl Dduw.)
Reve WelBeibl 19:9  Wedyn dyma'r angel yn dweud wrtho i, “Ysgrifenna hyn i lawr: ‘Mae'r rhai sy'n cael gwahoddiad i wledd briodas yr Oen wedi'u bendithio'n fawr!’” Wedyn dyma fe'n dweud, “Neges gan Dduw ydy hon, ac mae'n wir.”
Reve WelBeibl 19:10  Yna syrthiais i lawr wrth ei draed a'i addoli. Ond meddai, “Paid! Duw ydy'r unig un rwyt i'w addoli! Un sy'n gwasanaethu Duw ydw i, yn union yr un fath â ti a dy frodyr a dy chwiorydd sy'n glynu wrth y dystiolaeth sydd wedi'i rhoi gan Iesu. Mae'r dystiolaeth sydd wedi'i rhoi gan Iesu a phroffwydoliaeth yr Ysbryd yr un fath.”
Reve WelBeibl 19:11  Roedd y nefoedd yn llydan ar agor, ac o mlaen i roedd ceffyl gwyn â marchog ar ei gefn. ‛Yr Un ffyddlon‛ ydy'r enw arno, a'r ‛Un gwir‛. Mae'n gyfiawn yn y ffordd mae'n barnu ac yn ymladd yn erbyn ei elynion.
Reve WelBeibl 19:12  Roedd ei lygaid fel fflam dân, ac roedd llawer o goronau ar ei ben. Roedd ganddo enw wedi'i ysgrifennu arno, a neb yn gwybod yr enw ond fe'i hun.
Reve WelBeibl 19:13  Roedd yn gwisgo dillad oedd wedi'u trochi mewn gwaed, a'i enw oedd ‛Gair Duw‛.
Reve WelBeibl 19:14  Roedd byddinoedd y nefoedd yn ei ddilyn, yn marchogaeth ar geffylau gwynion ac yn gwisgo dillad o liain main gwyn glân.
Reve WelBeibl 19:15  Roedd cleddyf miniog yn dod allan o'i geg, a bydd yn ei ddefnyddio i daro'r cenhedloedd i lawr. “Bydd yn teyrnasu drostyn nhw gyda theyrnwialen haearn.” Bydd yn sathru'r gwinwryf (sy'n cynrychioli digofaint ffyrnig y Duw Hollalluog).
Reve WelBeibl 19:16  Ar ei glogyn wrth ei glun mae'r teitl hwn wedi'i ysgrifennu: BRENIN AR FRENHINOEDD AC ARGLWYDD AR ARGLWYDDI.
Reve WelBeibl 19:17  Yna gwelais angel yn sefyll ar yr haul, ac yn galw'n uchel ar yr holl adar oedd yn hedfan yn yr awyr, “Dewch at eich gilydd i fwynhau'r wledd sydd gan Dduw ar eich cyfer chi!
Reve WelBeibl 19:18  Cewch fwyta cyrff marw brenhinoedd, arweinwyr milwrol, milwyr, ceffylau a'u marchogion, a chyrff marw pob math o bobl – dinasyddion rhydd a chaethweision, pobl gyffredin a phobl fawr.”
Reve WelBeibl 19:19  Wedyn gwelais yr anghenfil a brenhinoedd y ddaear a'u byddinoedd wedi casglu at ei gilydd i ymladd yn erbyn yr un oedd yn marchogaeth y ceffyl, ac yn erbyn ei fyddin.
Reve WelBeibl 19:20  Ond daliwyd yr anghenfil, a hefyd y proffwyd ffug oedd wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol ar ei ran. Gyda'i wyrthiau roedd wedi llwyddo i dwyllo y bobl hynny oedd wedi'u marcio gyda marc yr anghenfil ac wedi addoli ei ddelw. Cafodd yr anghenfil a'r proffwyd ffug eu taflu yn fyw i'r llyn tân sy'n llosgi brwmstan.
Reve WelBeibl 19:21  Cafodd y gweddill ohonyn nhw eu lladd â'r cleddyf oedd yn dod allan o geg yr un oedd yn marchogaeth ar gefn y ceffyl. Daeth yr holl adar a gwledda ar y cyrff marw.