REVELATION OF JOHN
Chapter 5
Reve | WelBeibl | 5:1 | Yna gwelais fod sgrôl yn llaw dde yr Un oedd yn eistedd ar yr orsedd. Roedd ysgrifen ar ddwy ochr y sgrôl ac roedd wedi'i selio â saith sêl. | |
Reve | WelBeibl | 5:2 | Wedyn gwelais angel pwerus yn cyhoeddi'n uchel, “Pwy sy'n deilwng i dorri'r seliau ar y sgrôl a'i hagor?” | |
Reve | WelBeibl | 5:3 | Ond doedd neb yn y nefoedd na'r ddaear na than y ddaear yn gallu agor y sgrôl i'w darllen. | |
Reve | WelBeibl | 5:5 | Ond dyma un o'r arweinyddion ysbrydol yn dweud wrtho i, “Stopia grio! Edrych! Mae'r Llew o lwyth Jwda, disgynnydd y Brenin Dafydd, wedi ennill y frwydr. Mae e'n gallu torri'r saith sêl ac agor y sgrôl.” | |
Reve | WelBeibl | 5:6 | Yna gwelais Oen oedd yn edrych fel petai wedi'i ladd. Roedd yn sefyll rhwng yr orsedd a'r pedwar creadur byw a'r arweinwyr ysbrydol oedd o'i chwmpas hi. Roedd ganddo saith corn a saith llygad (yn cynrychioli Ysbryd cyflawn perffaith Duw sydd wedi'i anfon allan drwy'r byd i gyd). | |
Reve | WelBeibl | 5:8 | Ac wrth iddo gymryd y sgrôl, dyma'r pedwar creadur byw a'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau o flaen yr Oen. Roedd telyn gan bob un ohonyn nhw, ac roedden nhw'n dal powlenni aur yn llawn o arogldarth (sy'n cynrychioli gweddïau pobl Dduw). | |
Reve | WelBeibl | 5:9 | Roedden nhw'n canu cân newydd: “Rwyt ti'n deilwng i gymryd y sgrôl ac i dorri y seliau, am dy fod ti wedi cael dy ladd yn aberth, ac wedi prynu pobl i Dduw â'th waed – pobl o bob llwyth ac iaith, hil a chenedl. | |
Reve | WelBeibl | 5:10 | Rwyt wedi teyrnasu drostyn nhw a'u gwneud yn offeiriaid i wasanaethu ein Duw. Byddan nhw'n teyrnasu ar y ddaear.” | |
Reve | WelBeibl | 5:11 | Yna yn y weledigaeth, clywais sŵn tyrfa enfawr o angylion – miloedd ar filoedd ohonyn nhw! … miliynau! Roedden nhw'n sefyll yn gylch o gwmpas yr orsedd a'r creaduriaid byw a'r arweinwyr ysbrydol, | |
Reve | WelBeibl | 5:12 | ac yn canu'n uchel: “Mae'r Oen gafodd ei ladd yn deilwng i dderbyn grym a chyfoeth, doethineb a nerth, anrhydedd, ysblander a mawl!” | |
Reve | WelBeibl | 5:13 | Yna clywais bopeth byw yn y nefoedd ac ar y ddaear, tan y ddaear ac ar y môr – y cwbl i gyd – yn canu: “Clod ac anrhydedd, gogoniant a nerth am byth bythoedd, i'r Un sy'n eistedd ar yr orsedd, ac i'r Oen!” | |