REVELATION OF JOHN
Chapter 15
Reve | WelBeibl | 15:1 | Gwelais arwydd arall yn y nefoedd, un anhygoel a rhyfeddol: Saith angel gyda'r saith pla olaf. Y plâu yma fyddai'r mynegiant olaf o ddigofaint Duw. | |
Reve | WelBeibl | 15:2 | A gwelais rywbeth oedd yn edrych yn debyg i fôr o wydr a thân fel petai'n ymledu drwyddo. Ar lan y môr o wydr safai'r bobl oedd wedi ennill y frwydr yn erbyn yr anghenfil a'i ddelw, a hefyd y rhif oedd yn cyfateb i'w enw. Roedd ganddyn nhw delynau roedd Duw wedi'u rhoi iddyn nhw, | |
Reve | WelBeibl | 15:3 | ac roedden nhw'n canu cân Moses, gwas Duw, a chân yr Oen: “Mae popeth rwyt yn ei wneud mor anhygoel a rhyfeddol Arglwydd Dduw Hollalluog. Mae beth rwyt yn ei wneud yn gyfiawn a theg, Frenin pob oes. | |
Reve | WelBeibl | 15:4 | Pwy fyddai ddim yn dy barchu di, a chanmol dy enw di, Arglwydd? Oherwydd dim ond ti sy'n sanctaidd. Bydd pobl y gwledydd i gyd yn dod i addoli o dy flaen di, oherwydd mae'n amlwg fod beth wnaethost ti yn gyfiawn.” | |
Reve | WelBeibl | 15:5 | Yna ces i weledigaeth arall. Roedd y deml, sef ‛pabell y dystiolaeth‛, ar agor yn y nefoedd. | |
Reve | WelBeibl | 15:6 | Allan ohoni daeth y saith angel gyda'r saith pla. Roedden nhw wedi'u gwisgo mewn lliain glân disglair, gyda sash aur am eu canol. | |
Reve | WelBeibl | 15:7 | Wedyn dyma un o'r pedwar creadur byw yn rhoi powlen aur i bob un o'r saith angel. Roedd y powlenni yn llawn o ddigofaint y Duw sy'n byw am byth bythoedd. | |