ZECHARIAH
Chapter 5
Zech | WelBeibl | 5:2 | Dyma'r angel yn gofyn i mi, “Beth wyt ti'n weld?” A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld sgrôl yn hedfan. Mae'n anferth – tua naw metr o hyd, a phedwar metr a hanner o led!” | |
Zech | WelBeibl | 5:3 | A dyma fe'n dweud wrtho i, “Geiriau melltith sydd arni, ac mae'n mynd allan drwy'r wlad i gyd. Mae un ochr yn dweud y bydd unrhyw un sy'n dwyn yn cael ei daflu allan o'r gymuned. Mae'r ochr arall yn dweud y bydd yr un peth yn digwydd i'r rhai sy'n dweud celwydd.” | |
Zech | WelBeibl | 5:4 | Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Dw i wedi anfon y felltith yma allan i gartref pob lleidr, a phawb sy'n defnyddio fy enw i wrth ddweud celwydd ar lw. Bydd y felltith yn dinistrio'r tŷ hwnnw'n llwyr – y coed a'r cerrig.” | |
Zech | WelBeibl | 5:5 | Yna dyma'r angel oedd yn siarad â mi yn camu ymlaen a dweud, “Edrych! Beth wyt ti'n ei weld yn mynd i ffwrdd?” | |
Zech | WelBeibl | 5:6 | “Beth ydy e?” meddwn i. “Casgen ydy hi,” meddai'r angel. “Mae'n cynrychioli drygioni pawb drwy'r wlad i gyd.” | |
Zech | WelBeibl | 5:7 | Yna dyma'r caead plwm oedd ar y gasgen yn cael ei godi, a dyna lle roedd gwraig yn eistedd yn y gasgen! | |
Zech | WelBeibl | 5:8 | A dyma'r angel yn dweud, “Mae'r wraig yma'n cynrychioli drygioni.” A dyma fe'n ei gwthio hi yn ôl i'r gasgen a slamio'r caead o blwm yn ôl i'w le. | |
Zech | WelBeibl | 5:9 | Yna dyma fi'n edrych eto, a gweld dwy wraig yn hedfan drwy'r awyr. Roedd ganddyn nhw adenydd mawr fel crëyr. Dyma nhw'n codi'r gasgen a hedfan i ffwrdd yn uchel i'r awyr. | |