Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ZECHARIAH
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14
Prev Up Next
Chapter 9
Zech WelBeibl 9:1  Y neges roddodd yr ARGLWYDD am ardal Chadrach, yn arbennig tref Damascus. (Mae llygad yr ARGLWYDD ar y ddynoliaeth fel mae ar lwythau Israel i gyd.)
Zech WelBeibl 9:2  Ac am Chamath, sy'n ffinio gyda Damascus, a Tyrus a Sidon hefyd, sy'n meddwl ei bod mor glyfar.
Zech WelBeibl 9:3  Mae Tyrus wedi gwneud ei hun mor gryf ac mor gyfoethog – mae wedi pentyrru arian fel pridd, ac aur fel baw ar y strydoedd!
Zech WelBeibl 9:4  Ond bydd y Meistr yn cymryd y cwbl, ac yn suddo ei llongau yn y môr. Bydd tref Tyrus yn cael ei llosgi'n ulw!
Zech WelBeibl 9:5  Bydd Ashcelon yn gweld hyn ac yn dychryn. Bydd Gasa yn gwingo mewn ofn; ac Ecron hefyd wedi anobeithio'n llwyr. Bydd brenin Gasa yn cael ei ladd, a fydd neb ar ôl yn Ashcelon.
Zech WelBeibl 9:6  A bydd pobl o dras gymysg yn setlo yn Ashdod. Dw i'n mynd i dorri crib y Philistiaid!
Zech WelBeibl 9:7  Yna wnân nhw byth eto fwyta dim gyda gwaed ynddo, na chig wedi'i aberthu i eilun-dduwiau. Bydd y rhai sydd ar ôl yn Philistia yn dod i gredu yn ein Duw – byddan nhw fel un o deuluoedd Jwda. A bydd pobl Ecron fel y Jebwsiaid.
Zech WelBeibl 9:8  Bydda i'n gwersylla o gwmpas y deml, i'w hamddiffyn rhag y byddinoedd sy'n mynd a dod. Fydd neb yn ymosod ar fy mhobl i'w gormesu nhw byth eto. Dw i fy hun yn gofalu amdanyn nhw.
Zech WelBeibl 9:9  Dathlwch bobl Seion! Gwaeddwch yn llawen, bobl Jerwsalem! Edrych! Mae dy frenin yn dod. Mae e'n gyfiawn ac yn achub; Mae'n addfwyn ac yn marchogaeth ar asyn, ie, ar ebol asen.
Zech WelBeibl 9:10  Bydda i'n symud y cerbydau rhyfel o Israel, a mynd â'r ceffylau rhyfel i ffwrdd o Jerwsalem. Bydd arfau rhyfel yn cael eu dinistrio! Yna bydd y brenin yn cyhoeddi heddwch i'r gwledydd. Bydd yn teyrnasu o fôr i fôr, ac o afon Ewffrates i ben draw'r byd!
Zech WelBeibl 9:11  Yna chi, fy mhobl – oherwydd yr ymrwymiad rhyngon ni, wedi'i selio â gwaed – dw i'n mynd i ryddhau eich carcharorion o'r pydew oedd heb ddŵr ynddo.
Zech WelBeibl 9:12  Dewch adre i'r gaer ddiogel, chi garcharorion – mae gobaith! Dw i'n cyhoeddi heddiw eich bod i gael popeth gollwyd yn ôl – dwywaith cymaint!
Zech WelBeibl 9:13  Jwda ydy'r bwa dw i'n ei blygu, ac Israel ydy'r saeth. Bydda i'n codi dy bobl di, Seion, yn erbyn gwlad Groeg. Bydd Seion fel cleddyf rhyfelwr yn fy llaw.
Zech WelBeibl 9:14  Yna bydd yr ARGLWYDD i'w weld uwchben ei bobl, a'i saeth yn tanio fel mellten. Bydd y Meistr, yr ARGLWYDD, yn chwythu'r corn hwrdd, ac yn ymosod fel gwynt stormus o'r de.
Zech WelBeibl 9:15  Bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn amddiffyn ei bobl. Byddan nhw'n concro'r gelyn gyda ffyn tafl, ac yn gwledda a dathlu fel meddwon. Bydd fel y gwaed o bowlen yr aberth yn cael ei sblasio ar gyrn yr allor.
Zech WelBeibl 9:16  Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn eu hachub, am mai nhw ydy praidd ei bobl. Byddan nhw'n disgleirio ar ei dir fel cerrig gwerthfawr mewn coron –
Zech WelBeibl 9:17  Mor werthfawr! Mor hardd! Bydd ŷd a sudd grawnwin yn gwneud y dynion a'r merched ifanc yn gryf.