ZECHARIAH
Chapter 9
| Zech | WelBeibl | 9:1 | Y neges roddodd yr ARGLWYDD am ardal Chadrach, yn arbennig tref Damascus. (Mae llygad yr ARGLWYDD ar y ddynoliaeth fel mae ar lwythau Israel i gyd.) | |
| Zech | WelBeibl | 9:2 | Ac am Chamath, sy'n ffinio gyda Damascus, a Tyrus a Sidon hefyd, sy'n meddwl ei bod mor glyfar. | |
| Zech | WelBeibl | 9:3 | Mae Tyrus wedi gwneud ei hun mor gryf ac mor gyfoethog – mae wedi pentyrru arian fel pridd, ac aur fel baw ar y strydoedd! | |
| Zech | WelBeibl | 9:4 | Ond bydd y Meistr yn cymryd y cwbl, ac yn suddo ei llongau yn y môr. Bydd tref Tyrus yn cael ei llosgi'n ulw! | |
| Zech | WelBeibl | 9:5 | Bydd Ashcelon yn gweld hyn ac yn dychryn. Bydd Gasa yn gwingo mewn ofn; ac Ecron hefyd wedi anobeithio'n llwyr. Bydd brenin Gasa yn cael ei ladd, a fydd neb ar ôl yn Ashcelon. | |
| Zech | WelBeibl | 9:6 | A bydd pobl o dras gymysg yn setlo yn Ashdod. Dw i'n mynd i dorri crib y Philistiaid! | |
| Zech | WelBeibl | 9:7 | Yna wnân nhw byth eto fwyta dim gyda gwaed ynddo, na chig wedi'i aberthu i eilun-dduwiau. Bydd y rhai sydd ar ôl yn Philistia yn dod i gredu yn ein Duw – byddan nhw fel un o deuluoedd Jwda. A bydd pobl Ecron fel y Jebwsiaid. | |
| Zech | WelBeibl | 9:8 | Bydda i'n gwersylla o gwmpas y deml, i'w hamddiffyn rhag y byddinoedd sy'n mynd a dod. Fydd neb yn ymosod ar fy mhobl i'w gormesu nhw byth eto. Dw i fy hun yn gofalu amdanyn nhw. | |
| Zech | WelBeibl | 9:9 | Dathlwch bobl Seion! Gwaeddwch yn llawen, bobl Jerwsalem! Edrych! Mae dy frenin yn dod. Mae e'n gyfiawn ac yn achub; Mae'n addfwyn ac yn marchogaeth ar asyn, ie, ar ebol asen. | |
| Zech | WelBeibl | 9:10 | Bydda i'n symud y cerbydau rhyfel o Israel, a mynd â'r ceffylau rhyfel i ffwrdd o Jerwsalem. Bydd arfau rhyfel yn cael eu dinistrio! Yna bydd y brenin yn cyhoeddi heddwch i'r gwledydd. Bydd yn teyrnasu o fôr i fôr, ac o afon Ewffrates i ben draw'r byd! | |
| Zech | WelBeibl | 9:11 | Yna chi, fy mhobl – oherwydd yr ymrwymiad rhyngon ni, wedi'i selio â gwaed – dw i'n mynd i ryddhau eich carcharorion o'r pydew oedd heb ddŵr ynddo. | |
| Zech | WelBeibl | 9:12 | Dewch adre i'r gaer ddiogel, chi garcharorion – mae gobaith! Dw i'n cyhoeddi heddiw eich bod i gael popeth gollwyd yn ôl – dwywaith cymaint! | |
| Zech | WelBeibl | 9:13 | Jwda ydy'r bwa dw i'n ei blygu, ac Israel ydy'r saeth. Bydda i'n codi dy bobl di, Seion, yn erbyn gwlad Groeg. Bydd Seion fel cleddyf rhyfelwr yn fy llaw. | |
| Zech | WelBeibl | 9:14 | Yna bydd yr ARGLWYDD i'w weld uwchben ei bobl, a'i saeth yn tanio fel mellten. Bydd y Meistr, yr ARGLWYDD, yn chwythu'r corn hwrdd, ac yn ymosod fel gwynt stormus o'r de. | |
| Zech | WelBeibl | 9:15 | Bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn amddiffyn ei bobl. Byddan nhw'n concro'r gelyn gyda ffyn tafl, ac yn gwledda a dathlu fel meddwon. Bydd fel y gwaed o bowlen yr aberth yn cael ei sblasio ar gyrn yr allor. | |
| Zech | WelBeibl | 9:16 | Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn eu hachub, am mai nhw ydy praidd ei bobl. Byddan nhw'n disgleirio ar ei dir fel cerrig gwerthfawr mewn coron – | |