Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ZECHARIAH
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 12
Zech WelBeibl 12:1  Y neges roddodd yr ARGLWYDD am Israel – ie, neges gan yr ARGLWYDD, Yr Un wnaeth ledu'r awyr a gosod sylfeini'r ddaear, a rhoi anadl bywyd i bobl.
Zech WelBeibl 12:2  “Dw i'n mynd i wneud Jerwsalem yn gwpan feddwol. Bydd yn gwneud i'r gwledydd o'i chwmpas feddwi'n gaib pan fyddan nhw'n ymosod arni hi a Jwda.
Zech WelBeibl 12:3  Bryd hynny bydda i'n gwneud Jerwsalem yn garreg enfawr rhy drwm i'r gwledydd ei chario. Bydd pawb sy'n ceisio'i symud yn gwneud niwed difrifol iddyn nhw'u hunain! Bydd y gwledydd i gyd yn dod yn ei herbyn.”
Zech WelBeibl 12:4  “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “bydda i'n gwneud i'r ceffylau rhyfel ddrysu'n llwyr, ac yn gyrru'r marchogion i banig. Bydda i'n gwylio Jwda'n ofalus. Bydd fel petai ceffylau'r gelynion i gyd yn ddall!
Zech WelBeibl 12:5  Yna bydd arweinwyr Jwda yn sylweddoli mai cryfder pobl Jerwsalem ydy eu Duw, yr ARGLWYDD hollbwerus.
Zech WelBeibl 12:6  “Bryd hynny bydda i'n gwneud arweinwyr Jwda fel padell dân mewn pentwr o goed, neu ffagl yn llosgi mewn tas wair. Byddan nhw'n llosgi'r gwledydd sydd o'u cwmpas. A bydd pobl Jerwsalem yn setlo i lawr unwaith eto yn eu cartref, dinas Jerwsalem.
Zech WelBeibl 12:7  Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i fyddin Jwda gyntaf, fel bod arweinwyr Jerwsalem a llinach frenhinol Dafydd ddim yn cael mwy o anrhydedd na phobl gyffredin Jwda.
Zech WelBeibl 12:8  “Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD ei hun yn amddiffyn pobl Jerwsalem. Bydd y person gwannaf yn eu plith fel y Brenin Dafydd ei hun, a bydd y teulu brenhinol fel Duw, neu angel yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaenau.
Zech WelBeibl 12:9  “Bryd hynny bydda i'n mynd ati i ddinistrio'r gwledydd sy'n ymosod ar Jerwsalem!
Zech WelBeibl 12:10  Bydda i'n tywallt ar deulu brenhinol Dafydd a phobl Jerwsalem awydd i brofi haelioni Duw a'i faddeuant. Wrth edrych arna i, yr un maen nhw wedi'i drywanu, byddan nhw'n galaru fel mae pobl yn galaru am eu hunig fab. Byddan nhw'n wylo'n chwerw, fel rhieni'n wylo ar ôl colli eu hunig blentyn neu eu mab hynaf.
Zech WelBeibl 12:11  “Bryd hynny, bydd sŵn y galaru yn Jerwsalem fel y galaru yn Hadad-rimmon ar wastatir Megido.
Zech WelBeibl 12:12  Bydd y wlad i gyd yn galaru, pob clan ar wahân, a'r dynion a'r gwragedd yn galaru ar wahân – teulu brenhinol Dafydd, a'u gwragedd ar wahân; teulu Nathan, a'u gwragedd ar wahân;
Zech WelBeibl 12:13  teulu Lefi, a'u gwragedd ar wahân; teulu Shimei, a'u gwragedd ar wahân;
Zech WelBeibl 12:14  a phob clan arall oedd ar ôl – pob teulu'n galaru ar eu pennau'u hunain, a'u gwragedd yn galaru ar eu pennau'u hunain.”