Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ZECHARIAH
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 14
Zech WelBeibl 14:1  Mae dydd yr ARGLWYDD yn dod, pan fydd eich eiddo i gyd yn cael ei gymryd a'i rannu o'ch blaen chi.
Zech WelBeibl 14:2  Dw i'n mynd i gasglu'r gwledydd at ei gilydd i ryfel yn erbyn Jerwsalem. Bydd y ddinas yn cael ei choncro, eich cartrefi'n cael eu gwagio, a'ch gwragedd yn cael eu treisio. Bydd hanner y boblogaeth yn cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion, ond yr hanner arall yn aros yn y ddinas.
Zech WelBeibl 14:3  Ond yna bydd yr ARGLWYDD yn mynd allan i ymladd yn erbyn y gwledydd hynny, fel gwnaeth e ymladd yn y gorffennol.
Zech WelBeibl 14:4  Bryd hynny bydd e'n sefyll ar Fynydd yr Olewydd i'r dwyrain o Jerwsalem. A bydd Mynydd yr Olewydd yn hollti o'r dwyrain i'r gorllewin, gan adael dyffryn llydan. Bydd hanner y mynydd yn symud tua'r gogledd, a hanner tua'r de.
Zech WelBeibl 14:5  A byddwch chi'n dianc ar hyd y dyffryn yma yr holl ffordd i Atsel, fel gwnaethoch chi ddianc adeg y daeargryn pan oedd Wseia'n frenin ar Jwda. Yna bydd fy ARGLWYDD Dduw yn dod, a'i angylion sanctaidd gydag e.
Zech WelBeibl 14:6  Bryd hynny fydd dim golau – bydd y sêr disglair yn rhewi.
Zech WelBeibl 14:7  Bydd yn ddiwrnod unigryw. Yr ARGLWYDD sy'n gwybod pryd. Fydd dim dydd na nos; ac eto bydd hi'n dal yn olau gyda'r nos.
Zech WelBeibl 14:8  Bryd hynny hefyd bydd dŵr glân croyw yn llifo allan o Jerwsalem – ei hanner yn llifo i'r dwyrain, i'r Môr Marw, a'r hanner arall i'r gorllewin, i Fôr y Canoldir. Bydd yn llifo rownd y flwyddyn, haf a gaeaf.
Zech WelBeibl 14:9  A bydd yr ARGLWYDD yn frenin dros y byd i gyd. Yr ARGLWYDD fydd yr unig un, a'i enw e fydd yn cael ei addoli.
Zech WelBeibl 14:10  Bydd y tir i gyd (o Geba i Rimmon, sydd i'r de o Jerwsalem) yn cael ei droi yn dir gwastad. Ond bydd Jerwsalem gyfan yn sefyll yn uchel yn ei lle – o Giât Benjamin i safle'r Giât gyntaf ac yna ymlaen at Giât y Gornel, ac o Dŵr Chanan-el i'r cafnau gwin brenhinol.
Zech WelBeibl 14:11  Bydd pobl yn byw yno, a fydd y ddinas byth eto'n cael ei melltithio a'i dinistrio. Bydd Jerwsalem yn hollol saff.
Zech WelBeibl 14:12  Ond bydd yr ARGLWYDD yn anfon pla i daro'r gwledydd hynny wnaeth ymosod ar Jerwsalem: Bydd eu cyrff yn pydru tra byddan nhw'n dal ar eu traed. Bydd eu llygaid yn pydru'n eu pennau. Bydd eu tafodau'n pydru'n eu cegau.
Zech WelBeibl 14:13  Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD yn achosi panig llwyr yn eu plith. Byddan nhw'n ymladd ei gilydd!
Zech WelBeibl 14:14  Bydd hyd yn oed Jwda yn ymuno yn y ffrwgwd! A bydd cyfoeth y gwledydd yn cael ei gasglu i Jerwsalem – aur, arian a llwythi o ddillad.
Zech WelBeibl 14:15  Bydd pla yn taro'r anifeiliaid yng ngwersylloedd y gelyn – bydd eu ceffylau, mulod, camelod, asynnod, a'r anifeiliaid eraill i gyd yn cael eu taro gan bla.
Zech WelBeibl 14:16  Yna bydd pawb fydd yn dal yn fyw (o'r gwledydd hynny wnaeth ymosod ar Jerwsalem) yn mynd i Jerwsalem bob blwyddyn i addoli'r Brenin, yr ARGLWYDD hollbwerus, ac i ddathlu Gŵyl y Pebyll.
Zech WelBeibl 14:17  Ac os bydd unrhyw grŵp o bobl drwy'r byd i gyd yn gwrthod mynd i Jerwsalem i addoli'r Brenin, yr ARGLWYDD hollbwerus, fyddan nhw'n cael dim glaw.
Zech WelBeibl 14:18  Os bydd yr Eifftiaid yn gwrthod mynd, fyddan nhw'n cael dim glaw. Bydd yr ARGLWYDD yn eu taro nhw gyda'r plâu mae'n eu hanfon ar y gwledydd hynny sy'n gwrthod mynd i ddathlu Gŵyl y Pebyll.
Zech WelBeibl 14:19  Dyna sut bydd yr Aifft ac unrhyw wlad arall sy'n gwrthod mynd i ddathlu'r Ŵyl, yn cael eu cosbi.
Zech WelBeibl 14:20  Bryd hynny bydd y geiriau “Wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD” i'w gweld ar glychau harnais ceffylau. Bydd y crochanau i ferwi cig yn y Deml yr un mor gysegredig â'r powlenni taenellu o flaen yr allor.
Zech WelBeibl 14:21  Bydd pob crochan yn Jerwsalem a Jwda wedi'i gysegru i'r ARGLWYDD hollbwerus. Bydd y bobl sy'n dod i aberthu yn gallu eu defnyddio i ferwi cig yr aberthau ynddyn nhw. A bryd hynny fydd dim marchnatwyr yn nheml yr ARGLWYDD hollbwerus.